NADOLIG LLAWEN
YN YSTOD oes Fictoria newidiodd y Nadolig yn raddol o fod yn achlysur hanfodol gymdeithasol, a chymdogaeth gyfan yn cymryd rhan ynddo, i fod yn ddathliad teuluol mewn tai preifat. Yn sgîl y newid hwn y daeth llawer o nodweddion y Nadolig fel y gwyddom ni amdano - y cerdyn a'r goeden Nadolig - tra'r oedd yr hen arferion yn raddol ddiflannu. Yn y diwedd trowyd arferiad gwerin yn ŵyl fasnachol.
Yn anad dim, y mae'r cynnydd ym mhoblogrwydd y cerdyn Nadolig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adlewyrchu y newid a fu yn nheithi dathlu'r Nadolig. Ar ôl dechrau ar raddfa fechan, buan iawn y daeth cynhyrchu a gwerthu cardiau Nadolig yn fasnach bwysig.
Yn 1843, ar gais (Syr) Henry Cole, y dechreuwyd cynhyrchu'r cerdyn Nadolig fel y gwyddom ni amdano. Fe'i hargraffwyd mewn lithograffeg a'i liwio â llaw. Gwerthwyd dan fil o gopïau am swllt yr un. Golygfa deuluol, yn dangos aelodau hynaf y teulu yn yfed, i gofio am gyfaill absennol, o bosibl, a geir ar brif banel y cerdyn; yn y paneli ochr dangosir rhoddion o fwyd a dillad yn cael eu rhannu i’r tlodion.
***
PAN DDAETH cynhyrchu cardiau Nadolig yn fenter broffidiol yn ddiweddarach, ymdebygai'r cardiau i benawdau papur ysgrifennu ffasiynol. Bychan oeddynt o ran maint; mewn gwirionedd, "cardiau ymweld" oeddynt, wedi eu boglynnu a'u haddurno ac yn dwyn neges y Nadolig, neu ddisgynyddion uniongyrchol o gardiau ffolant y cyfnod. Yr un, fodd bynnag, oedd eu swyddogaeth: cymryd lle arferiad hŷn y llythyr Nadolig neu'r ymweliad personol i ddatgan cyfarchion y tymor.
Ond rhaid cofio bod ffactorau eraill o natur dechnegol, yn ychwanegol at y dymuniad hwn i roi rhywbeth yn lle'r ymweliad personol, wedi poblogeiddio'r cerdyn Nadolig. Heb son am y rheilffyrdd a'i gwnaeth yn hwylusach i deithio, gan alluogi pobl i gynnal cysylltiadau cymdeithasol ymhellach o gartref na chynt, daeth dyfodiad y Post Ceiniog yn 1840 a ffordd rad ac effeithiol o gadw cyswllt â chyfeillion pell. Ni ellid bod wedi ymgymryd â chynhyrchu a gwerthu cardiau Nadolig ar raddfa eang cyn sefydlu system bost ddibynadwy.
Yn yr 1830au bu cynnydd hefyd ym mhoblogrwydd atgynhyrchiadau o luniau, pan ddatblygwyd gan George Baxter, ysgythrwr o Lundain, ddull o brintio lliwiau a oedd yn addas ar gyfer cynhyrchu lluniau rhad. Cyn pen amser ymddangosodd printiau lliw hardd, naill ai wedi eu glynu neu wedi eu hargraffu'n syth ar gardiau-ymweld, gyda chyfarchiad byr megis "Nadolig Llawen", ar y blaen.
Yn fuan dechreuwyd un ai foglynnu, tyllu neu ridennu ymylon y cardiau bychain hyn ac weithiau fe'u haddurnid trwy argraffu lluniau lliw arnynt. Weithiau, hefyd, câi motifau Nadolig ar bapur lliw eu cefnu gyda phapur-las wedi ei foglynnu (embossed).
***
YN YR 1870au rhoddwyd hwb arall i'r arferiad o anfon cardiau Nadolig, pan ddaeth y post dimau ar gyfer cardiau post ac amlenni heb eu selio. Erbyn hyn yr oedd y testun printiedig wedi cymryd lle'r negesau personol. Er i'r cerdyn, felly, ddod yn llai personol, parodd ehangu'r farchnad gynnydd sylweddol yn y dewis o gyfarchion yn ogystal â'r pynciau a ddarlunnid.
Dechreuodd cwmni Raphael Tuck a'i Fab gynhyrchu cardiau Nadolig ar raddfa sylweddol yn yr 1870au cynnar. Erbyn hyn yr oedd cryn fri ar gardiau clustog (padded cushion cards) neu gardiau cydau-persawr, a ymdebygai i gardiau ffolant y cyfnod, ac yr oedd cwmni Rimmel, yn neilltuol, yn perarogli eu cardiau ffolant ynghyd â chardiau Nadolig o'r math hwn. Cafwyd hefyd newydd-bethau (novelties) er mwyn hyrwyddo gwerthiant y cardiau, ac fe brynid llawer o gardiau digrif, yn aml gyda dyfeisiadau mecanyddol yn rhan ohonynt.
Ymysg nodweddion y cardiau hyn yr oedd rhidens sidan amryliw, "gemau" wedi eu boglynnu, cardiau a thaselau, a rhubanau sidan wedi eu clymu mewn amrywiol ffyrdd. Amrywiai'r cynlluniau, ond gellid canfod nifer o themâu sylfaenol, yn aml mewn gwahanol gyfuniadau. Cynhwysai'r rhain y Robin Goch, Celyn ac Eiddew, blodau, plant, merched, golygfeydd crefyddol, ac yn ddiweddarach, darluniau o eira gydag adeiladau hardd neu goetsys mawrion. Tuedd y motifau olaf hyn, yn wir, fu crew math arbennig o Iên gwerin am Nadolig gwyn nad oes iddo fawr o realaeth.
NODYN: Talfyriad o Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959), tt. 35-9. Cyfieithwyd gan Anne Elizabeth Jones, Adran Llên Gwerin, Amgueddfa Werin Cymru.