LLYFRYNNAU BYCHAIN gan Bruce Griffiths
FEL Y GŴYR pob llyfrbryf, nid ymhlith y cyfrolau urddasol, sylweddol, clawr-lledr y ceir y trysorau prinnaf a mwyaf diddorol, ond ymhlith y llyfrau bach, clawr-papur di-nod. Oherwydd eu maint a'u diffyg cloriau celyd, yn naturiol fe aethant yn ddigon prin. Mae hyn yr un mor wir am lyfrau'r can mlynedd diwethaf, hyd yn oed weithiau gan awduron safonol. Mae gennyf gopi o Plant y Beirdd O.M. Edwards (Llanuwchllyn, 1892), sef rhif III yng nghyfres Y Llyfrau Bach. Ar ei gefn mae rhestr o ddwsin o deitlau, ond o'r rhain, nodir mai rhif I (Holi ac Ateb ar Hanes Cymru) a rhif III sy'n barod, a bod rhif II (Holi ac Ateb ar Lenyddiaeth Cymru) yn y wasg. Ni welais i erioed mohonynt: tybed a welodd gweddill y gyfres olau dydd?
Prin y meddyliwn am Ddaniel Owen ond fel nofelydd: ond wele gerdd o'i eiddo, sef Hiraethgan ar ôl y diweddar Barch. John Evans, Croesoswallt. (Wyddgrug, 1883) Edrydd yr awdur: "Y Farwnad hon, os priodol yr enw, oedd yr unig un a anfonwyd i Gyfarfod Cystadleuol Garston... ac felly, o angenrheidrwydd , hi oedd yr oreu."Gwyleidd-dra yn wir!
Mae diffyg llyfryddiaeth o gynnyrch llenyddol yr ugeinfed ganrif yn peri ei bod yn anodd gwybod pa bethau a gyhoeddwyd hyd yn oed gan ein prif lenorion, a daw pethau bach annisgwyl i'r fei. Gwyddem, efallai, i'r Dr. Kate Roberts gydweithio ag eraill i gyhoeddi dramâu - Y Fam, EPC, (Cardiff, 1920); Y Canpunt, (Drefnewydd, d.d.); Wel! Wel! (Drefnewydd, d.d.) ond syndod imi, flynyddoedd lawer yn ôl, oedd taro ar gopi o'i gwaith cyntaf, Y Botel, drama heb arni ddyddiad nac enw gwasg; mi dybiwn mai yn y cyfnod 1910 - 1913 y cyfieithwyd hi o'r Saesneg gwreiddiol, beth bynnag oedd, ac mai mewn swyddfa papur newydd yng Nghaernarfon yr argraffwyd hi, a barnu yn ôl dull y cysodi. Fe'i rhestrir yn Hanes Y Ddrama yng Nghymru, 0. Llew Owain, ond ni welais ac ni chlywais i erioed am gopi arall, ddim hyd yn oed yn Llyfrgell Coleg y Gogledd nac yn y Llyfrgell Genedlaethol.
***
ANODD a fyddai crynhoi casgliad cyflawn o weithiau y llenor toreithiog hwnnw, T. Gwynn Jones. Yma, eto, y pethau bychain sy'n brin: ei ddramâu Anrhydedd, (EPC, Cardiff, 1923); Dafydd Ap Gruffydd, (Aberystwyth, 1914); Y Glöyn Byw (Drefnewydd, d.d.); Coroni Heddwch, ei gyfieithiad o The Crowning of Peace J.O. Francis (Swansea, 1921); a phrinnach fyth, ei Chwareuon Hanes: Caradog yn Rhufain (Gwrecsam, 1914) a Dewi Sant (Gwrecsam, d.d.).
0 blith nifer o bethau diarffordd eraill, nodaf iddo gyfieithu pamffledyn o'r enw Yr Hyn a Welais yn Rwsia gan Hewlett Johnson, Deon Caergaint, y 'Deon Coch' fel y'i gelwid. Oherwydd ei gysylltiad â’'r mudiad comiwnyddol, bu i Bwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol gyhoeddi teyrnged yn Saesneg iddo: A Great Welshman. Symposium of Tributes (Tonypandy, d.d. adeg yr Ail Ryfel Byd) sydd bellach yn brin iawn. Diddorol nodi bod y cyfranwyr yn cynnwys y Dr. Idris Bell, John Ellis Williams, T.E. Nicholas, Gwenallt, Dilys Cadwaladr a D. Tecwyn Lloyd ym mysg eraill.
Y llyfryn rhyfeddaf y gwn i amdano o law T. Gwynn Jones yw hoax o'i eiddo: Gweith Argoed Llwyvein... Darganfyddiadau'r Dr. Dreistaub. Trosiad Saesneg a Nodiadau Beirniadol gan S.O'Bredasant, Ph.D. Dulyn: Gwasg y Frân Ddu, 1943. Argraffwyd cant o gopïau ohono a pharodi yw, mae'n debyg gennyf, o ysgolheictod cyfeiliornus pobl fel J. Gwenogvryn Evans a Timothy Lewis: cynigir inni destun 'Diwygiedig' o'r gerdd o Lyfr Taliesin, gyda nodiadau, fel ag i wneud o'r gerdd honno ddarogan o ymgyrch yr Almaenwyr yn Louvain yn y Rhyfel Byd Cyntaf!
***
BYRHOEDLOG yw cylchrediad pryddestau eisteddfodol ein llenorion mwyaf hyd yn oed. Dyna ichi Y Tannau Coll Cynan (Caernarfon, d.d., 1922?), er enghraifft. Fe welir Daniel Owen Dewi, Emrys (Wrecsam, 1937) o bryd i’w gilydd yn y siopau ail-law ond beth am ei Gwron Dienw (Carmarthen, d.d., 1922?), Y Dyrfa (Abertawe, d.d., 1931 ?), ac Y Gân ni Chanwyd (Llanelli, d.d., 1929?)? Trysoraf hefyd fy nghopi o'r argraffiad preifat o Y Ddinas, T.H. Parry-Williams (Llandysul, 1962) gyda chyflwyniad caredig yn llaw'r awdur ei hun.
Bu tri neu bedwar copi o Gwaed yr Uchelwyr Saunders Lewis trwy fy nwylo, ond hyd yn hyn ni lwyddais i fachu copi o'i The Eve of Saint John (Newtown, 1921) a bu'n rhaid imi deipio copi o'r copi yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Afraid dweud mor brin yw ei bamffledi gwleidyddol: nodaf yn arbennig Paham y Gwrthwynebwn yr Ysgol Fomio? (Caernarfon 1936), sef anerchiad a draddododd i'r Blaid Genedlaethol fisoedd cyn y llosgi; blasus hefyd yw'r pamffledyn Coelcerth Rhyddid (Caernarfon d.d., 1937) a gyhoeddwyd i groesawu'r tri o garchar, yn cynnwys cerdd "Ma'r Hogia'n y Jêl" gan Yr Hwsmon, ffugenw R. Williams Parry.
Mae'n werth cadw llygad ar agor am wahanlithoedd diddorol, gan mai eithriad, mi feddyliwn i, fyddai bod mwy na rhyw ddwsin o gopïau ar gael. Yn fy nghasgliad fy hun, er enghraifft, dyma ichi ysgrif gan R.T. Jenkins, Siop John Ifans, adargraffiad o'r ysgrif yn y Llenor, a gyhoeddwyd gan y Celtic Book Co., Queen's Arcade, Caerdydd, gyda llun o'r siop ar y clawr. A dyma Welsh Folk Verses Aneirin Talfan Davies, gwahanlith o'r Welsh Review, 1944. Wedyn dyna Y Delyneg T.H. Parry-Williams, ei ragymadrodd i Criafol D. Jones a Gwilly Davies. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, ysgrif Saunders Lewis, Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych o'r Llenor, Hydref 1933.
***
TERFYNAF y tro hwn gyda dau lyfryn Saesneg. Gwyddom oll am waith gorchestol John Morris, Jones ym myd ysgolheictod Cymreig. Syndod felly oedd darganfod y perl hwn: pamffledyn bychan (Price 2d) yn dwyn Y teitl: A Dozen Hints to Welsh Boys on the Pronunciation of English by W. Glynn Williams, M A., Headmaster of Friars School, Bangor. Revised and Corrected by J. Morris-Jones, B A., Lecturer on Welsh at the University College of North Wales (Bangor, 1890). Dyma yn wir gyfraniad i’r hen draddodiad ardderchog o ddysgu i'r barbariaid sut i ynganu'r unig iaith o bwys ym Mangor, trwy roi i’r wogiaid bychain frawddegau coeth i’w hymarfer megis: The swallows and the wagtails quarrelled with some swaggering wasps on a quagmire and the war waxed warm'.
A'r ail: a throi oddi wrth y gwrthun at yr arddunol: trysoraf fy nghopi o lyfr cyntaf y bardd R.S. Thomas, The Stones of the Field (Carmarthen & Dublin, 1946), wedi ei lofnodi gan y bardd ei hun. Deuthum ar ei draws mewn siop yn Llangollen, bymtheng mlynedd yn ôl: dyna'r unig lyfr diddorol yn y siop. Cefais ef am lai na'i bris gwreiddiol am fod rhwyg yn y clawr papur. Nis rhestrir bellach yn llyfryddiaeth y bardd, ac y mae, medden nhw wrthyf, yn brin ac yn werthfawr. Byddaf wrth fy modd yn ail-ddarllen y cerddi ynddo, ac anaml y bu imi gael gwell bargen erioed.