EVAN THOMAS A'I LYFRGELL ~ Gwyn Llewelyn yn cofio
WN I ddim yn iawn pryd oedd hi. Canol y pum degau rhyw dro. Ond mae 'nhad, sy'n cofio dyddiadau mor rhwydd ag yr ydw i yn anghofio enwau, yn dweud Mai 1955. Os felly, mae'n egluro pam bod y siwtcesus mor drwm. Ydw' i ond sgilffyn pum troedfedd a hanner heddiw. Dichon mod i'n llai fyth yn dair ar ddeg oed.
Ond i fynd yn ôl i'r dechra'. Cyfneither i 'nhad ydi Anti Lela, a hi brynodd yr unig dedi bêr fu gen i erioed. Un â dim ond ei ben o'n flewog am ei bod hi'n amser rhyfel a Lerpwl dan y blits. Ond mae'n rhaid ei fod o'n un gwydyn: yma o hyd, er 'falle bydd y babi newydd yn gorffen cnoi ei drwyn o lle rhoddodd Siwan y gore iddi.
Y cof nesa' sydd gen i am Anti Lela 'roedd hi wedi symud i fyw i Gricieth. Yno y mae hi hyd heddiw. Yr enghraifft fwya' bywiog o Liverpool-Welsh i mi gyfarfod erioed. Wedi newid dim o'r diwrnod pan gawso' ni alwad i Radcliffe Road i helpu'n hunain i lyfrau'i Hewythr Evan. Dim car na chrebwyll am werth llyfr gen i. A dim ond siwtces a chariad at 'Hoelion Wyth' gan 'nhad.
"Cymrwch nhw i gyd. Take the lot," meddai Anti Lela, gan amneidio at fwces yn llenwi'r parad o'r llawr i'r to. Finna’n meddwl tybed faint oedd Crosville yn ei godi am gwpwrdd gwydyr.
***
FE AETHON ni'n ôl ddwywaith neu dair. Bws o Dynygongl i Fangor, bws o Fangor i Gaernarfon. Bws o Gaernarfon i Gricieth. Sadyrnau trymlwythog pan oedd yna ddwy 'c' yn yr enw. A mam yn deud y drefn; fel y gwn i erbyn hyn mae merched wrth weld llyfrau'n cyrraedd yn gofyn, "Lle 'da chi am 'u rhoi nhw?"
'Y nghwyn fawr i wedi bod byth wedyn ydi: Pe bai 'nhad yn caru mwy ar bethau'r byd hwn a llai ar bethau'r byd a ddaw mi fasa' ni wedi medru cario mwy o lawer. Ond dyna ni. Efallai mai dim ond dychmygu 'rydw i wedi wneud erioed fod llyfrau sych yn pwyso mwy na rhai diddorol. Tybed yn wir ai wrth y pwys y cynhyrchid pethau trwm gyda'r nod o geisio dadansoddi pethau na allwch chi mo'u profi?
Ta waeth, fe wnes i'n olreit. Fe ges i feibl mewn clawr papur. "Sgowtio i Fechgyn". Trosiad Cymraeg o lyfr Baden Powell yn llawn gwybodaeth hanfodol fel sut i gynnau tân heb fatsus a sut i gadw'n gynnes wrth gysgu allan mewn trowsus bach. Os 'dwi'n cofio'n iawn yr allwedd i hyn i gyd oedd "meddwl meddyliau pur." 'Doeddwn i ddim yn siŵr iawn ar y pryd beth yn union oedd hynny'n feddwl, a gan fy mod i'n dal i weld yn weddol, 'dydw i ddim wedi poeni rhyw lawer oddi ar hynny chwaith. Ond fe hoffwn i feddwl mai ar gledrau dwylo un arall o fechgyn Môn y mae blew'n tyfu erbyn hyn. Er choelia i byth nad ydi'n fwy anodd meddwl meddyliau amhur yn Gymraeg!
Cyfres o gylchgronau gwyddonol wedyn o'r enw "Gwybod". Rhyw ddwsin ohonyn nhw. Y rheini, fel "Sgowtio i Fechgyn" wedi mynd i ddwylo rhywun arall yn sir Fôn pan symudon ni i Gaernarfon. Ond trwy bob chwalfa fe gedwais un trysor sydd o fewn hyd braich i mi'r funud 'ma. Pob rhifyn o'r cylchgrawn Cymraeg mwya' deniadol a bywiog a gyhoeddwyd erioed. A pha ryfedd gan mai John Eilian oedd yn ei olygu - a hynny ynghanol berw Llundain.
le — y "Ford Gron". Pum cyfrol wedi eu rhwymo'n ddestlus fel cymaint o lyfrau eraill ewythr fy Anti Lela.
***
A PHWY oedd y Ilyfrbryfaid medde chi? Wel sawl un o ddarllenwyr "Y Casglwr" tybed sydd â chyfrol ar y silff y cafodd 'nhad a minnau'r cyfle cynta arni o'r cwpwrdd gwydyr hwnnw yng Nghricieth ers talwm. Stamp piws yn dweud, "Evan Thomas, Council School, Aberllefeni, Corris, Merioneth." Neu, "Elwyn Derw, Radcliffe Road, Gricieth."
Ambell nodyn hefyd efallai ar ymyl dalen neu ddarn o bapur newydd wedi ei bastio'n ofalus y tu mewn i glawr? Rhyw ddyn felly oedd Evan Thomas. Athro ysgol trefnus gydag uchelgais i sefydlu llyfrgell yn Llanbedr, Meirionnydd. Yno, ym Mhenrhiw, y'i ganed ym 1880 yn un o saith plentyn yr adeiladydd a'r trefnydd angladdau loan Thomas. Bu'n athro ym Mhwllheli, ym Mhantperthog ac yn Aberllefenni cyn ymddeol i Gricieth lle bu farw heb blant ym 1946. Gŵr a fyddai yn anad neb dwi'n siwr yn croesawu dyfodiad "Y CasgIwr” - a Chymdeithas Bob Owen.
0 ie, un peth arall. Nid dyna ddiwedd y stori. Dim cweit. Fe fûm i'n ôl yn Eifionydd ddwywaith yn ddiweddar. Ac o gwpwrdd arall fe arbedais ychydig rhagor o lyfrau'r hen ewythr. Prin un lle 'roedd gynnau gant, mae'n wir. Ond yma maen nhw erbyn hyn - fawr ddim gwaeth ddwy flynedd ar hugain wedi i mi eu gweld nhw am y tro cynta'.