DYMA'R FARGEN I'N HAELODAU

 

Y MAE'R gyfrol fawr Bywyd Bob Owen gan Dyfed Evans wedi dod o'r wasg. Cyfrol o dros gan mil o eiriau a hynny am deirpunt - cryn gamp ar y dyddiau drud yma. Ni raid pwysleisio ei phwysigrwydd, ond nid cyfrol bwysig sy'n bortread o gyfnod yn ogystal ag o bersonoliaeth ryfeddol yn unig sydd yma, ond cyfrol ddarllenadwy, ddiddan. Dros gan mil o eiriau heb un paragraff diflas rhwng y cloriau.

Fe rydd Cymdeithas Bob Owen help ariannol tuag at gyhoeddi'r gyfrol, ac fe gynigir telerau arbennig i aelodau'r Gymdeithas - sef dwybunt a chweugain (£2.50) am gyfrol.

Mae rhai wedi talu ymlaen llaw, ac fe anfonir y gyfrol trwy'r post i'r rheini.

Ond mae'r cynnig yn dal - i bob aelod, gan gynnwys yr aelodau newydd fydd wedi talu eu tanysgrifiad o ddwybunt i'r Gymdeithas am y flwyddyn nesaf.

Medrwch gael y gyfrol mewn dwy ffordd. Anfon £2.50 i Bywyd Bob Owen, Gwasg Gwynedd, Nant Peris, Caernarfon, Gwynedd, amgáu eich enw a chyfeiriad llawn, ac fe gewch y gyfrol yn rhad trwy'r post.

Neu anfon eich enw a'ch cyfeiriad yn unig i'r cyfeiriad uchod a nodi trwy ba lyfrwerthwr cydnabyddedig yr hoffech gael y gyfrol. Yr un fydd y pris, ond byddwch yn talu'r £2.50 i'r Ilyfr­werthwr wrth gyrchu'r gyfrol.

Bydd y telerau gostyngol yn parhau hyd ddiwedd y flwyddyn yma.