DWY GYFROL DAU GRYNWR ~ Astudiaeth Emyr Wyn Jones

RICHARD DAVIES (1635-1708) ac Ellis Pugh (1656-1718) yw'r ddau Grynwr dan sylw. Pa mor hysbys tybed ydyw'r enwau i aelodau Cymdeithas Bob Owen a darllenwyr Y Casglwr? 'Da wladwr duwiol' ydoedd y ddau, y naill o Faldwyn a'r llall o Feirionnydd, a thrwy ddylanwad yr un gŵr, John ap John o Bencefn Cristionydd ger Rhiwabon, y daeth y ddau yn Grynwyr yn nyddiau cynharaf y mudiad. Bu'r ddau yn weithgar iawn o'u bachgendod bron ac ar hyd eu hoes, gyda Richard Davies yn llafurio yng Nghymru ac Ellis Pugh yn ymfudo'n gynnar iawn i Bensylfania ac ymdaflu i weithgarwch y Crynwyr yno.

Nodwedd arall sy'n perthyn i'r ddau yw iddynt gyhoeddi llyfr bob un, a'r un llyfr hwnnw oedd y cyfan o'u cynnyrch llenyddol; a theimlai'r Cyfeillion o'r ddwy ochr i Fôr Iwerydd mai buddiol fyddai cyfieithu'r gyfrol - y naill i’r Gymraeg a'r llall i’r Saesneg.

Amcan hyn o ysgrif yw trafod tipyn ar y ddau lyfr, nid yn gymaint i geisio dadansoddi eu cynnwys yn fanwl, ond yn hytrach i gynnig ychydig o wybodaeth lyfryddol amdanynt. Ar y llaw arall cyn gwneud hynny priodol yw rhoi amlinelliad o fywyd y ddau awdur, yn enwedig am fod elfen fywgraffyddol gref yn eu cyfrolau, ac yn arbennig felly gan Richard Davies. Mae ei hanes ef yn dra diddorol ac yn wir yn arwrol ar brydiau.

***

GANWYD Richard Davies yn Y Trallwng yn 1635 yn ôl ei eiriau ef ei hun ‘o rieni gonest, i'r rhai yr oedd etifeddiaeth fechan yno.' Ymddengys iddo dderbyn addysg sylweddol, ac ym more ei oes meithrinwyd ef yn nisgyblaeth Eglwys Loegr. Mae'n tystio i gynnwrf ysbrydol ei ysgwyd pan oedd yn ddeuddeg neu'n dair-ar-­ddeg oed. 0 ganlyniad dechreuodd anesmwytho yn yr Eglwys, a'r canlyniad pellach fu iddo grwydro i wrando ar bregethwyr eraill.

Trwy hyn daeth i gyswllt â'r gŵr tanbaid Vavasor Powell a’r Annibynwyr bore o gwmpas Y Trallwng. Yn y man daeth Vavasor Powell yn elyniaethus iawn i'r Crynwyr cynnar, ac y mae barn Richard Davies yn ddiwedd­arach yn bendant: ‘Felly Vavasor Powell a drodd yn llidiog, ac a bregethodd lawer yn erbyn y Crynwyr, a'u ffyrdd a'u hegwyddorion.'

Hyd yn oed pan oedd yn llanc ifanc yn ei arddegau 'roedd gwirioneddau sylfaenol crefydd yn pwyso'n drwm ar feddwl Richard Davies, ac oherwydd hyn cafodd gydsyniad ei rieni i brentisio ei hun gydag Evan Jones, ‘gweithiwr brethyn hetiau llawban', yn Llanfair Caereinion. Y mae'n eglur mai'r atyniad yno oedd y cyfle i gryfhau'r cysylltiad Ymneilltuol - 'aem gyda'n gilydd i'r cyfarfodydd', gyda'r Annibynwyr cyn y dadrithiad.

Ni chlywodd Richard Davies am fodolaeth y Crynwyr tan 1656, ac fe'i rhybuddiwyd mai `gau brophwydi' oeddynt, a'u bod yn bobl `ddrwg a pheryglus'. Y flwyddyn ddilynol daeth gŵr o'r enw Morgan Evan i siop Evan Jones, ac fe gymrodd y prentis ran amlwg yn y drafodaeth frwd fu rhyngddynt eu tri.

Ychydig iawn a wyddis am Morgan Evan, mae'n debyg mai Deheuwr ydoedd a gweinidog teithiol gyda'r Bedyddwyr; 'roedd yn gyfarwydd â daliadau'r Crynwyr ac efallai wedi ei lwyr argyhoeddi yn barod ganddynt. Bûm yn gofidio lawer tro nad oes modd cael gwybodaeth helaethach amdano, oblegid bu ei ddylanwad yn allweddol a phellgyrhaeddol, megis ymgorfforiad o ddameg yr had mwstard. Yr unig ddisgrifiad ohono sydd ar gael yw brawddeg ffeithiol Richard Davies - 'a poor man of mean habit', ond eilbeth oedd hynny iddo; y digwyddiad pwysig oedd - 'cafodd ei eiriau afael gadarn ynof.'

 Richard Davies ymlaen gyda'r hanes am dwf egwyddorion Crynwriaeth yn ei feddwl. Meddai: 'a mynych yr awn allan i'r coedydd a lleoedd neillduedig eraill, lle na welai neb mohonof, i ddisgwyl wrth yr Arglwydd; lle y'm drylliwyd yn fawr, ac y'm meddalwyd gan allu Duw.'

Bu ail ymweliad Morgan Evan â Llanfair beth amser yn ddiwedd­arach yn anogaeth bellach i Richard Davies ac yn galondid iddo yn ei ymchwil angerddol ac unig am y gwirionedd. Erbyn hyn 'roedd yr ymofynnydd ifanc wedi colli cydymdeimlad ei rieni a chwmnïaeth ei gyfeillion, ac nid oedd iddo mewn gwewyr ysbryd ronyn o gysur ar yr aelwyd gartref na llygedyn o arweiniad trwy gyfrwng yr Eglwys. I'r gwrthwyneb, enynnodd ddicter a chondemniad difloesgni y rheithor, oblegid dyma sylw Richard Davies ei hun: Barnai `offeiriad y Trallwm, W. Langord.. fy mod i wedi mynd o'm synhwyrau; ac y dylasent hwy (ei rieni) geisio dynion dysgedig i ddyfod ataf, a'm hadferu i'm synhwyrau'.

***

0 GYFEIRIAD arall y daeth dihangfa. Yn fuan wedyn cafodd Richard Davies gyfle i wrando ar John ap John, ‘y cyfaill cyntaf a elwid yn Grynwr, yn pregethu mewn cyfarfod' yn Amwythig. Yno meddai, `yn sicr i'r Arglwydd agorwyd fy neall i, a goleuo fy nghannwyll'. Am dros hanner canrif ni ddiffoddodd y gannwyll, ac nid 'llin yn mygu' ydoedd chwaith. Bu llewyrch y goleuni a wawriodd arno yn Amwythig yn arweiniad di-feth iddo ar hyd llwybrau peryglus y gormes crefyddol a throedffyrdd troellog y cymhlethdodau cyfreithiol a fu'n orthrwm mor ddialgar ar y Crynwyr ym Maldwyn ac mewn byr amser ymledodd dylanwadau nerthol ac iachusol y cwmni bach dros For Iwerydd i Bensylfania.

Nid dyma'r lle i fanylu am ffyrnigrwydd yr erlid a oddi­weddodd y Crynwyr o gwmpas Y Trallwng, nid yn unig y gwladwyr cyffredin ond uchelwyr fel teulu Dolobran, a theflid gwrêng a bonedd yn ddiwahân i ganol budreddi carchar ac fe'u cedwid yno am amser maith. Nid oes ofod yma chwaith i olrhain hanes Thomas Lloyd o Ddolobran, y meddyg a ddaeth yn brif gynorthwywr ac yn ddirprwy i William Penn yn y drefedigaeth, ac a barhaodd yn fawr ei barch a'i ddylanwad yno am flynyddoedd. Ni ellir son yma chwaith am Charles, ei frawd hynaf, na'r gweddill o'r teulu.

Ar un ystyr parhau i droedio llwybr unig ddigon fu hanes Richard Davies. Neges amhobl­ogaidd oedd ganddo, ac er ei thraddodi'n dawel a rhesymegol ei fwriad oedd deffro a rhyddhau cymdeithas - gan gynnwys yr Eglwys Sefydledig - o'i difrawder. Ni fu llwybr esmwyth i gynhyrfwr mewn unrhyw oes.

Efallai y daw cyfle arall i sôn am ei amryfal weithgareddau, a digonol yn y cyswllt presennol yw cyfeirio at ei deithiau 'cenhadol' diflino trwy Gymru benbaladr ac ar hyd a lled canoldir Lloegr, gydag aml ymweliadau o reidrwydd a Llundain, oblegid yno yr oedd pencadlys gweithgarwch y Crynwyr. Daeth Richard Davies i berthynas agos â George Fox a'r gwŷr blaenllaw eraill yn y mudiad. Fe'i curwyd yn aml ac fe'i carcharwyd droeon ond ni leihaodd hynny ronyn ar eiddgarwch ei ffydd na grym ei benderfyniad.

***

TRA YN Llundain ym 1659 priododd, dan fendith George Fox, â chyfeilles, ar ôl egluro iddi `y byddai yn rhaid iddi ddod gyda mi i wlad ddieithr,' sef Cymru. Daeth eu cartref yn y Cloddiau Cochion yn ganolfan y gweithgarwch ym Maldwyn, ac yn Dŷ Cwrdd i'r Crynwyr o'r ardaloedd cyfagos. Er mor dangnefeddus y fangre nid oedd yno lonyddwch fel y dengys yr hanes yma:

Bûm innau hefyd yn ymweld droeon a'r hen ffermdy ac yn synfyfyrio'n dawel yn y gladdfa yn y cae islaw'r tŷ. Yno y mae llwch Richard Davies a'i briod yn gorffwys mewn dinodedd sy'n llethol ar un ystyr, ond sy'n orfoleddus arwyddocaol i'r rhai y mae ganddynt y ddawn i fyfyrio, gwrando ac ymgolli, ac anghofio rhwysg y byd.

Dywed Richard Davies hanes ei fywyd mewn dull diymffrost a gwrthrychol, ond nid yw'r arddull yn cuddio yr elfen arwrol, oblegid y mae dycnwch ei ddyfalbarhad er gwaethaf pob bygythiad ac erledigaeth yn disgleirio trwy’r gyfrol. Mae ynddi gyffyrddiadau personol a chartrefol, a manylion, am ei deithiau, yn gymysg a dyfyniadau ysgrythurol ac amddiffyniad o'i ffydd, heb sôn am ei aml wrthdrawiadau ag `awdurdod'.

'Roedd yn gwrthdaro'n gyson â'r Gyfraith fel ei cynrychiolid gan ustus a barnwr, ac â'r Eglwys yng ngwisg offieriad ac esgob. Yn yr ysgrif yma y gyfrol fel testun llyfryddol ac nid astudiaeth o'i chynnwys yw'r pwnc dan sylw yn bennaf. Anodd fyddai gwneud cyfiawnder â chywasgiad byr o'i chynnwys oherwydd da y dywedwyd: 'Dyma glasur y Crynwyr Cymreig.'

***

BETH AM y llyfr arbennig yma? Ysgrifennodd Richard Davies ei hunangofiant yn Saesneg. Mae'n ddogfen hanesyddol o bwys yn gymdeithasol a chrefyddol. Dadlennir ynddi hefyd wybodaeth Richard Davies am rwydwaith y gyfraith wladol gyfoes, a'r defnydd deheuig a wnaeth o hyn lawer tro er esmwytho effeithiau'r gormes anghyfiawn a'r cosbau annynol a roddid ar ysgwyddau'r Crynwyr.

Mae'n eglur ei fod yn rhugl yn y Gymraeg a phregethai yn ei fam­iaith bob amser y byddai galw am hynny. Ar y llaw arall 'roedd Saesneg yn fwy addas i'r hunan­gofiant am ei fod o bwysigrwydd mawr i'r Cyfeillion yn Llundain a'r canoldir, yn ogystal â Chymru. Mae hirhoedledd y llyfr wedi cyfiawnhau'r dewisiad.

Yn unol â phatrwm arferol yr oes honno mae'r teitl yn amleiriog a chynhwysfawr:

Ymhlith fy nhrysorau pennaf y mae copi mewn cyflwr da o'r argraffiad cyntaf, sydd bellach yn brin iawn. Llyfr bychan o faint ydyw, 14cm. x 9cm., mewn clawr lledr tywyll, ac yn cynnwys 260 o dudalennau.

Daeth ail argraffiad allan o'r wasg, yn union ar yr un ffurf trwy law 'Luke Hinde, at the Bible in George-yard, Lombard Street,' ym 1765. Mae peth amryfusedd yma; Y mae'n amlwg i'r Crynwyr yn America ddod i wybod am waith Richard Davies, oherwydd daeth `ail argraffiad' allan yno ym 1752,

Ymhen chwe mlynedd yr oedd galw am drydydd argraffiad ym Mhrydain, ac fe newidiwyd y fformat i fod yr un fath â'r gyfrol Americanaidd, sef 16cm. x 9cm., gan ostwng rhif y tudalennau i 217. Erbyn hyn, ym 1771, 'roedd batch y cyhoeddi ar Mary Hinde - gwraig neu ferch Luke mae'n debyg - a syndod gweld enw merch yn gweithredu fel ‘cyhoeddwr’, a dyna esiampl o gydraddoldeb y Crynwyr ddwy ganrif yn ôl.

Ni bu raid aros yn hir am y pedwerydd (1790) a'r pumed (1794) argraffiad, ac yr oedd yr argraffty yn George-Yard a fu'n gyfrifol am gynifer o gyhoeddiadau'r Crynwyr wedi mynd i law James Phillips. 'Roedd y ddau yn union 'run fath, 16cm. X 10cm. gyda 171 o dudalennau. Ymddangosodd y chweched argraffiad ym 1825 dan sêl George Jones, Stockport, gyda chyd­weithrediad Harvey a Danton, Llundain. Ym 1844 dan nawdd Charles Gilpin, Llundain, a J. Linney o Efrog, cafwyd seithfed argraffiad - cyfrol fwy o ran maint a'r tudalennau o ganlyniad yn rhifo 123.

***

TYBIAIS mai dyna ddiwedd y daith argraffyddol nes imi ddigwydd taro ar 'Leaves from the History of Welsh Nonconformity' dan olygiaeth J.E. Southall, Casnewydd, Gwent, ym 1899, a cheir eglurhad gan y Golygydd mai adargraffiad ydoedd o lyfr Richard Davies, ac fe'i geilw yr wythfed argraffiad yn Saesneg. Cyfrannodd Southall ragymadrodd a nodiadau ychwanegol, a phennod ar Ymneilltuaeth yng Nghymru yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Ymddengys mai Crynwr oedd Southall ei hunan, ac mai awydd am adgyfnerthu cyflwr crefydd yng Nghymru oedd ei symbyliad.

Er mor hirhoedlog a bywiol oedd cyfrol Richard Davies erbyn tro'r ganrif hon yr oedd teyrnged arall a llawryf arbennig - yr acolâd uchaf - yn aros. Ym 1928 cyhoeddwyd argraffiad cain gan Wasg Gregynog. Mae'r argraffiad cyntaf a'r olaf yn fy meddiant, ac yn ystod y blynyddoedd cefais gopïau o’r gweddill ar wahân i’r ail argraffiad. Hyfrydwch arbennig fyddai cael y gyfres yn gyflawn.

Erys un argraffiad heb ei nodi, sef y trosiad i'r Gymraeg a gyhoeddwyd ym 1840 gan H. Hughes yn Llundain - cyfrol 18cm. x 12cm. yn cynnwys 132 o dudalennau. Nid oes gair i nodi enw'r cyfieithydd a fu'n gyfrifol am drosiad mor ystwyth a chywir. Ar y copi yn fy meddiant mae'r nodyn `prin iawn' yn llawysgrif fy hen gyfaill J.R. Morris, gynt o Lerpwl, Caernarfon a Bethel. Y teitl llawn yw:

Yn ychwanegol at draethawd hunangofiannol Richard Davies mae'r gyfrol hon (fel y rhai Saesneg) yn cynnwys teyrngedau megis 'Tystiolaeth' George Whitefield o Lundain; `Tystiolaeth Fer' gan ei ferch Tace Endon, a ddaliai i fyw yn y Cloddiau Cochion; 'Tystiolaeth oddi wrth Gyfeillion a Brodyr y Cyfarfod Tri-Misol o Swydd Drefaldwyn, Swydd Amwythig a Swydd Feirionydd, a gynhaliwyd yn Nolobran...' wedi ei arwyddo gan saith-ar-hugain o'r Crynwyr; ac yn olaf 'Tystiolaeth Rowland Owen am ei anwyl gyfaill'.

***

YN Y diweddglo, neu'r atodiad, ceir crynodeb dienw o lafur yr hen wron yn ystod y chwe mlynedd olaf ei oes. Mae'n amlwg iddo ddal i deithio'n ddyfal - er mawr ludded, mae'n siŵr - i Lundain a thramwyo Canoldir Lloegr, gyda'i ferch Tace Endon neu ei ŵyr David Endon yn gydymaith iddo. Ar hyd y blynyddoedd cynnar ei briod, hithau'n Gyfeilles weithgar, a warchodai'r cartref yn y Cloddiau. Cochion tra 'roedd Richard Davies ar ei deithiau cenhadol. Yn ôl un dystiolaeth a welais yr oedd hi gryn dipyn yn hyn na'i gŵr. Dywed Frances Budge amdani.

Yn ôl yr atodiad yr oedd hi'n `wraig anwyl a gonest yr hon a fuasai yn dyner a gofalus iawn drosto ef.' Mae'n sicr mai ar ysgwyddau'r ferch a'r mab-yng-­nghyfraith, Tace a Jacob Endon, y bu'r cyfrifoldeb am ffermio'r tir a gofalu am y tŷ yn ystod y blynyddoedd olaf.

***

AM Richard Davies ei hun, parhaodd yn llawn gweithgarwch a ffyddlondeb i'r diwedd. Credai mai Tace a ysgrifennodd yr atodiad neu o leiaf fu'n gyfrifol amdano; ac os nad hyhi yna aelod o'r teulu gyda gwybodaeth fanwl a dyddlyfr teithiol y gwrthrych wrth law. Cawn ar ddeall fod Richard Davies yn un o'r deuddeg o Grynwyr a `benodwyd gan y cyfarfod blynyddawl (yn Llundain) i fyned at y frenhines (Anne) i Windsor... ac ar yr achlysur efe yn neillduol a lefarodd wrth y frenhines'.

Pan oedd yr hen ŵr dros ei ddeg-a-thrigain oed, ac yn weddw erbyn hyn, rhoddir ei hanes yn teithio i gynnal cyfarfodydd yn null y Crynwyr yn Llanllieni, Ross, Caer Odor, Llundain, Sudbury, Circencester, Rhydychen, Henley, Windsor, Aylesbury, Banbury, Caerwrangon, ac yn y blaen, ‘a dychwelodd yn ddiogel adref at ei deulu... wedi bod oddi cartref yn agos i dri mis'.

Ar ganol ei weithgareddau arferol cafodd Richard Davies gystudd sydyn a drodd yn angheuol ymhen ychydig ddyddiau, ac yntau ar drothwy 73 mlwydd oed. Fe'i claddwyd bron yng nghysgod muriau'r Cloddiau Cochion yn Ionawr 1708.

Nid oes yma ond braslun annigonol o'i fywyd a'i waith. Gobeithiaf imi ddweud digon i ennyn diddordeb a wnaiff arwain darllenwyr Y Casglwr at y gyfrol ei hun. Mae'n destun syndod cofio i'r llyfr bychan yma sicrhau lle mor barchus a derbyniol yn llenyddiaeth Prydain am dros ddwy ganrif a hanner. 0 ddarllen y gwaith daw'r esboniad am hyn i'r golwg yn eglur.

Fy mwriad yw cyflwyno ysgrif am Ellis Pugh ar gyfer rhifyn arall o'r Casglwr, os mai dyma ddymuniad y Golygydd.

NODYN. A dyna yw dymuniad y Golygydd.