CYMRAEG Y SAIS ~ Dyfaliad R.Elwyn Hughes
O DRO i dro byddaf yn dyfalu beth yn union fu tynged y llyfrau Cymraeg hynny a brynwyd gan nifer sylweddol o ysgolheigion yn Lloegr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bellach, ac ysgolheictod Cymraeg ar sylfeini pur gadarn, yn nwylo'r Cymry eu hunain y mae'r gweithgareddau ysgolheigaidd Cymraeg. Nid felly yr oedd hi ryw ganrif a mwy yn ôl. Y pryd hynny pur simsan a thenau oedd ysgolheictod yng Nghymru - a nifer o Saeson ac eraill megis yn manteisio ar hyn trwy fentro magu rhyw ddiddordeb dilettante yn ein hiaith a'n llenyddiaeth.
Un o'r rhain oedd Thomas Jarrett o Goleg Santes Catrin yng Nghaergrawnt. Dyn amryddawn iawn oedd Jarrett. Graddiodd mewn mathemateg yn 1827 yn 34ain yn y rhestr deilyngdod.
Aeth rhagddo i raddio yn y clasuron a daeth yn 7fed yn y dosbarth cyntaf. Yn 27 oed etholwyd ef yn Gymrawd o Goleg Santes Catrin. Rhwng 1831 a 1854 bu'n Athro Arabeg yn y Brifysgol ac o 1854 ymlaen yn Athro Hebraeg. Cadwai ei ddiddordeb mewn mathemateg a threuliodd lawer o'i amser (gormod, ym marn rhai) yn dyfeisio dulliau byseddol o gyfrifo. Ond ieithoedd oedd ei brif ddileit; medrai ryw ugain ohonynt - ac un o'r ugain oedd y Gymraeg.
Dechreuodd ymddiddori mewn llyfrau Cymraeg pan oedd yn gymharol ifanc. Gwelir ei enw ymhlith y tanysgrifwyr i 'Winllan y Bardd' Daniel Ddu, yn 1831. Ceir ymhlith y tanysgrifwyr bum enw arall o Gaergrawnt a phedwar ohonynt yn Gymry o Goleg y Breninesau - y coleg agosaf ei leoliad at Goleg Santes Catrin. Pa un o'r pump hyn tybed a fu'n gyfrifol am berswadio'r clasurwr ifanc o Sais i archebu copi o waith y pruddglwyfus Ddaniel - thrwy hynny efallai, ddeffro ynddo ddiddordeb mewn llyfrau Cymraeg?
Daliai Jarret i brynu llyfrau Cymraeg ar hyd ei oes megis ‘Gwaith Prydyddawl' Guto Padarn ym 1846, 'Gorchestion Beirdd Cymru' (R. Jones) yn 1861 (prynwyd hwn gan John Williams, Caernarfon), 'Welsh Grammar' ac ‘Exercises' T. Rowlands yn 1876 ac ati.
Pan fu farw yn 1882 gadawodd ei gasgliad llyfrau i lyfrgell ei hen Goleg - ac yn y fan honno gorwedd rhai ohonynt o hyd yn dwyn yr arysgrifen 'Munificentia Thomas Jarrett.' Cofnodwyd manylion ei gasgliad gan awdurdodau'r Coleg yn 1916 yn rhestr gynhwysfawr o 800 o deitlau.
Y llynedd cefais gopi ffotostat o'r rhestr gan lyfrgellydd presennol y Coleg y Dr. John Shakeshaft. Rhestr ddiddorol yw hi hefyd yn cynnwys rhyw ugain o lyfrau Cymraeg - er nad oes lle i dybio fod mwy na rhyw chwech o'r rhain ar ôl yn y Coleg bellach. Rhyfedd gweld 'Y Llyfr Gweddi Gyffredin' megis yn llochesu rhwng Evangelica Sancta Aethiopice ar Testament Newydd mewn Tahili; a 'Chymru Fu' (Wrecsam, 1862) yn cael ei osod yn ymyl Poetae minores Graeca.
Gellir bod yn weddol ddiogel na throsglwyddwyd y cyfan o lyfrau Cymraeg Jarrett i lyfrgell Coleg Santes Catrin. Ni chyfeirir yn y rhestr at 'Winllan y Bardd' y gwyddys hyd sicrwydd i Jarrett dderbyn copi ohono. Tybed a roddwyd rhai o'i lyfrau Cymraeg i George Elwes Corrie (1793-1885) un o'i gyd Gymrodyr yng Ngholeg Santes Catrin? 'Roedd Corrie yn Athro Diwinyddiaeth yn y Brifysgol a chanddo gryn ddiddordeb mewn ieithoedd, gan gynnwys y rhai Celtig. Ceir ei enw ymhlith y tanysgrifwyr i Liber Landavensis yn 1840 a'r Iolo MSS yn 1848.
***
POSIBILRWYDD arall yw i Edward Byles Cowell (18261903) gymryd meddiant o rai ohonynt. 'Roedd Cowell yn gyfaill i Jarrett ac yn Athro Sanscrit yn y Brifysgol. Rhaid ei fod yn medru peth Cymraeg canys yn 1878 bu'n annerch y Cymrodorion ar Dafydd ap Gwilym gan gynnwys yn ei anerchiad beth o'i gyfieithiadau ei hun. Un o'r llyfrau a restrir yng nghasgliad Jarrett yw 'E.B. Cowell, 'Dafydd ab Gwilym', 1878. Ni lwyddais i ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad arall at lyfr yn dwyn y teitl hwn a rhaid tybio mai gwahanlith o anerchiad Cowell i'r Cymrodorion ydoedd. (Ond erys un dirgelwch bach; `Professor Cowell of Cambridge' yn unig a geir yn y 'Cymmrodor' am 1878 ond 'E.B. Cowell' sydd yn rhestr casgliad Jarrett).
Faint o drafod ac o gyfnewid llyfrau Cymraeg fu rhwng y tri hyn sy'n gwestiwn na fedrir ei ateb bellach. A heblaw am yr hanner dwsin sydd ar ôl yn llyfrgell Coleg Santes Catrin ni wyddys dim am leoliad eu llyfrau Cymraeg. Bum am ddeng mlynedd yn pori'n weddol gyson yn y siopau llyfrau ail-law yng Nghaergrawnt ond ychydig iawn o lyfrau Cymraeg a welais i yno - a phrinnach byth oedd y rhai o unrhyw werth neu ddiddordeb. Gwir i mi godi yn 1959 (am dair ceiniog) gopi o 'Bedwaredd Efengyl' J. Morgan Jones (1931) yn dwyn y cyflwyniad 'I C.H. Dodd gan yr awdur' - ond am lyfrau a fuasai ym meddiant Jarrett neu Corrie neu Cowell, ofer a diffrwyth fu fy chwilio.