CYFROLAU BRAU YR HEN GANRIF
Eryl Rowlands ar Ynys Môn

DISYLW IAWN yng nghanol toreth o lyfrau clawr caled yw cynhyrchion mân weisg argraffu lleol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hawdd eu methu, brau eu papur a llipa eu diwyg. Cylch­rediad lleol a gawsant yn eu dydd a buan aethant ar ddifancoll, gyda'r canlyniad heddiw eu bod yn weddol brin, ac na ddeuir ar eu traws ond yn anaml. Lleia'n byd oedd y wasg, mwyaf anodd prynu ei chynhyrchion heddiw.

Esiampl ddisglair o wasg yng Ngwynedd yn y ganrif ddiwethaf yw Gwasg Hugh Humphreys, Caernarfon.

Nid llyfrau yn unig a argreffid ychwaith; ar wahân i amryfal bosteri a thocynnau, cyflenwid y galw am faledi, wedi eu canu yn aml gan feirdd lleol, dro arall gan feirdd mwy cenedlaethol yn eu dydd fel Ceiriog a Mynyddog.

Fy niddordeb pennaf i yw cynnyrch Môn, ac erbyn hyn, mae gennyf 125 o lyfrau (clawr papur yn bennaf) a baledi wedi eu hargraffu yn yr ynys o 1822­ - 1914. Ac yn ddi-os, nid yw hyn ond rhan o'r holl gynnyrch ddaeth allan i ddwylo'r cyhoedd.

PUM CANOLFAN i argraffu a chyhoeddi oedd yn yr ynys yn y blynyddoedd yma, Amlwch, Biwmares, Caergybi, Llannerch-y-­medd 1867 a 1871; neu gasgliad­au o farddoniaeth fel Y Diliau Mêl Llannerch-y-medd, 1866; neu Y Ddraig Goch, gwaith loan Dderwen o Fôn, Llannerch-y­medd, 1873.

Dyma ganrif yr eisteddfodau, ac argreffid cyfansoddiadau y gwahanol wyliau yn lleol. Eisteddfod Gadeiriol Môn 1877 - argraffwyd y cyfansoddiadau yn Amlwch; neu gyfansoddiadau Eisteddfod Gadeiriol Môn, 1869, argraffwyd yn Llannerch-y-medd ym 1870. Cyhoeddid traethodau buddugol eisteddfodau hefyd, fel traethawd Gwalchmai ar Enwogion Môn, a wobrwywyd yn Eisteddfod Gadeiriol Caergybi, 1872, argraffwyd yn Amlwch yr un flwyddyn, neu draethawd Thomas Pritchard ar 'Amlwch fel y bu, fel y mae, ac fel y dylai fod' a wobrwywyd yn Eisteddfod Amlwch 1866, neu ei 'Hanes Sir Fôn' argraffwyd yn y dref ym 1872.

***

'ROEDD, mynd ar lyfrau yn ym­drin â hanes lleol mae'n amlwg, ac argraffwyd gwaith Huwco Môn, 'Yr Henafiaethydd' sef astudiaeth o Gemaes, Llanfechell, Cemlyn, Llanfairynghornwy, Tregele a'r Garreglefn, yn Amlwch ym 1890.

Ceid marchnad barod i'r cofiant with gwrs; cofiannau i weinidogion fel rheol, fel 'cofiant y diweddar Barch. W. Morgan, DD, Caergybi' gan W. Price wedi ei argraffu yn Llannerch-y-medd, 1888, a 'cofiant y Parch. W. Roberts, Amlwch' (mewn clawr caled) gan Hugh Jones, Llannerch-­y-medd, 1869. Ond fe ystyrid gwŷr heblaw gweinidogion yn deilwng o fywgraffiad, fel Robert Foulkes, Dinbych a John Palmer, Amlwch, yn 'Y Ddau. Foneddwr' Amlwch, 1874.

Fe goffheid am siopwyr a fferm­wyr fel rheol mewn marwnadau, weithiau mewn llyfryn, dro arall mewn un ddalen o bapur y gellid ei fframio a'i hongian ar y wal. Pe byddai rhywun wedi marw drwy ddamwain drychinebus, byddai hynny yn cael ei gyfrif yn hwb sylweddol i werthiant unrhyw farwnad neu faled foeswersol.

Ond fe geid llyfrynnau sylweddol hefyd fel 'Parottoad i'r CYMUN', wedi ei argraffu yn Llannerch-y-medd, 1822, a 'Dech­reuad a Chynnydd Ymneillduaeth ym Môn' gan Gwalchmai, wedi ei argraffu yn Amlwch, 1882, a'r 'Golwg Byr ar Holl Grefyddau y Byd' wedi ei argraffu eto yn Amlwch ym 1866, gyda 'Methodistiaeth Môn, o'r Dech­reuad, Hyd Y Flwyddyn 1887' mewn clawr caled gan John Pritchard, wedi ei argraffu yn Amlwch, 1888, a'r unig lyfr a gadwodd ei safon hyd heddiw a argraffwyd yn Amlwch.

***

I DDOD i fyd mwy seciwlar cyhoeddwyd rhai nofelau, fel 'Cadwen y Cythraul' gan Edward Jenkin wedi ei argraffu yn Llannerch-y-medd ym 1872, 'Troadau yr Olwyn' gan Llew Llwyfo, o Lannerch-y-medd, a'i nofel 'Huw Huws; neu y Llafurwr Cymreig' ' o wasg Lewis Jones, Caergybi, 1860.

Ysgrifennodd Richard Griffith, ysgolfeistr Llannerch-y-medd 'Traethawd ar Y Dwy Droedfedd' a'i argraffu yn Llannerch-y-medd ym 1866. Cyhoeddwyd 'Cyfrifydd Parod' Roger Mostyn, Amlwch, yn Llannerch-y-medd ym 1853, a chafwyd ail argraffiad ohono ym 1870 yn Amlwch.

Cymraeg fyddai iaith y cyhoeddiadau bron i gyd, and argraffwyd 'A Guide. Bull Bay, Amlwch, and Neighbourhood; including an useful Directory' yn Amlwch ym 1881, wedi ei ysgrifennu gan J.C. Roose (Chemicus), a 'Who were the Inventors of Telegraphs: From the Ark on the Deluge to the Leviathan on the Atlantic?' yn Llannerch-y-medd, ym 1888, wedi ei ysgrifennu gan Morris Griffith (Trydanydd) Caergybi.

Ni ddylid ychwaith anghofio am y traethawd ar 'Amlwch, and the Celebrated Mona and Parys Copper Mines, Isle of Anglesey' wedi ei argraffu ym Miwmares ym 1848, a'i ysgrifennu gan Owen Jones, Amlwch? Ym Miwmares hefyd yr argraffwyd y 'Rules and Regulations of the Anglesey Savings' Bank...' ym 1844.

Ar gyfer Cymdeithas Gyfeillgar, argreffid rheolau yn Gymraeg a Saesneg fel 'Rheolau a Deddfau Annibynnol Urdd y Rechabiaid, Talaeth Môn', wedi ei argraffu yng Nghaergybi ym 1845, a ‘Rheolau Cymdeithas Dderwyddol Gyfeillgar Llanerchymedd', wedi eu hargraffu yn y pentref ym 1872.

***

0 HOLL weisg argraffu'r ynys, ni argreffid cerddoriaeth ond yn Llannerch-y-medd, Amlwch a Llangefni ac argreffid taflenni canu 'Undeb Canu Cynulleidfaol Dosbarth Gogleddol Môn' o 1899 - 1914 yn un o'r tair tref yma.

Deuai gwaith o le anarferol weithiau hefyd, sef gan gwmnïau mwyngloddio. Argraffwyd 'Detailed Particulars, with Reports and Plans of the Point Elianus Slate & Slab Quarry... ' a'r 'Particulars, Reports, and Plans of the Barons Hill Slate and Slab Quarry, situated in the parish of Llanflewyn...' yn Amlwch tua 1869/70.

Ni honnaf fy mod wedi rhoi arolwg lawn a manwl o gynhyrchion gweisg argraffu Ynys Môn am y blynyddoedd 1822 - 1914. Gwn na soniais am newyddiaduron na'r un cylchgrawn. Ac er mai ychydig yw gwerth llenyddol y gweisg yma heddiw, yn eu dydd gallent gyflenwi anghenion cymdeithas eu hardaloedd. I ddweud y gwir, efallai mai unig gyfiawnhad yr ychydig sylwadau yma yw i ddwy o'r cyfrolau y cyfeiriais atynt fod unwaith yn eiddo i Bob Owen!