CENHADON Y LLAW-FER ~ gan Marian Elias,
Golygydd 'Y Swyddfa'

 

    Eiddo i Sioned Penllyn yw'r llun hwn a dyma fanylion ganddi am rai o'r cymeriadau a welir ynddo : "Richard Williams, M.A., Y Bala. Prifathro Ysgol Sir y Bechgyn ac awdur Gramadeg Cymraeg. Tad y Parchedig Hevin Williams, Rhuddlan ac Aled Williams, Bae Colwyn. Y Parch Issac J. Williams, Llandderfel : Brawd i'r uchod a thad y diweddar Rhiannon, gwraig gyntaf y diweddar Syr Ben Bowen Thomas. Tad Mrs. Menna Thomas, gweddw Dan Thomas, Porthmadog, a thaid Mrs. Angharad Thomas, Wrecsam. Wedi cwympo 'roedd ei fab bychan Arthur ac felly'n cael eistedd ar lin ei dad. Arthur oedd tad Dorothy Williams, HTV a Dr. Gareth Williams, Leighton. "Robert Evans, Y.H., Y Bala : Perchennog Y Seren, papur lleol ym Mhenllyn. "J.R.Jones (Gerallt), Maentwrog : Fy nhad-yng-nghyfraith. Siopwr, arweinydd Eisteddfodau, Bardd a Phregethwr. Ef oedd Ysgrifennydd y Gymdeithas."

YN 1839 yr oedd cyfundrefn law­fer yn Gymraeg "yr ysgrifennir mwy ohoni mewn awr nag a ysgrifennir mewn awr a hanner gan un arall sydd gan y Saeson." Thomas Roberts oedd yr awdur ac fe'i seiliodd ar gyfundrefn Samuel Robertson. Y cyhoeddwr oedd Thomas Gee. Ni cheir manylion am y Thomas Roberts hwn yn y Bywgraffiadur ond mae'n bur debyg mai gweinidog ydoedd a dywedir yn y rhagymadrodd mai ar gyfer gweinidogion yr efengyl a'r rhai a ddymunai godi pregethau yr ysgrifennwyd y llyfr.

Y darnau a gynhwysir ynddo yw Llythyr yn erbyn treulio amseryn ofer, Y Deg Gorchymyn, Gweddi'r Arglwydd a dyfyniad o'r Diarhebion. Ym mhob cyfundrefn law-fer ceir talfyriadau o eiriau a ddigwydd yn aml a dyma'r math o dalfyriadau a geir gan Thomas Roberts - eneiniog, Israeliaid, gorseddfainc, barnedigaethau, fel yr oeddwn yn proffwydo ac onis gallaswn wneuthur. Y maent yn siarad cyfrolau.

I fod yn fanwl gywir y trydydd llyfr oedd hwn i'w gyhoeddi yn Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyntaf eto gan Thomas Gee yn 1816 a'r awdur oedd Y Parchedig Ddoctor Robert Everett. Cyhoeddwyd yr ail yn Llanidloes yn 1830. Yr awdur oedd John Thomas.

***

DYDDIAD yr ail lyfr llaw-fer sydd yn fy meddiant yw 1876 (nid 1878 yn ôl y Bywgraffiadur) sef argraffiad cyntaf Y Parch. R.H. Morgan, M.A., a seiliodd y gwaith ar law-fer Pitman. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab ac fe'i hargraffwyd gan Wasg Pitman yng Nghaerfaddon. Y tro hwn anelir at amrywiaeth o ysgrifenwyr llaw-fer, yn newyddiadurwyr, masnachwyr, meddygon, pregethwyr, myfyrwyr a chyfreithwyr, ond er hynny mae'r talfyriadau hyn eto yn gyfyngedig i eirfa grefyddol, e.e. Calfiniaeth, Iachawdwriaeth, poeth offrwm, cyfiawnhad trwy ffydd, bywyd tragwyddol a cheir cyfarwyddiadau sut i ysgrifennu pregeth mewn llaw-fer.

Pethau eraill diddorol a geir yn y llyfr hwn yw'r cyfarwyddyd sut i ddal y botel inc:

Hefyd y sylw canlynol am y pwysigrwydd o fedru llaw-fer:

Sylwer mai dynion ac nid merched a grybwyllir yma. Yn y Cylchgrawn Llaw-fer misol a gyhoeddwyd rhwng 1906 a 1911 ceir rhestr o aelodau'r Gymdeithas Law-fer Gymraeg. Mae 48 o'r 50 a restrir yn ddynion a dwy ferch yn unig sydd yn eu mysg, sef Miss Bessie Roberts, Garndolbenmaen a Miss. J. Hughes, Llanerchymedd.

***

OND i ddychwelyd at y llyfrau eu hunain, yr oedd llyfr Y Parch. R.H. Morgan mor boblogaidd nes cyhoeddwyd ail argraffiad ohono yn 1878 gydag ychwanegiadau, e.e. rhagor o dalfyriadau - maddeuant pechodau, Tŷ Israel, bara'r bywyd a cheir hyd yn oed ychydig bach o dermau busnes megis masnach, cyfarfod blynyddol, cyfarfod cyhoeddus, pwyllgorau.

Ymhen blwyddyn, yn 1879, argraffwyd Yr Efengyl yn ôl Ioan mewn llaw-fer ac mae hwn hefyd yn fy meddiant diolch i Ifor Bowen Griffith. Nid oes rhagymadrodd iddo ond mae'n debyg mai R.H. Morgan a fu wrth y gwaith hwn eto gan mai Hughes a'i Fab a'i cyhoeddodd yntau hefyd.

Yn 1907 ymddangosodd y trydydd argraffiad o'r llyfr llaw-fer. Erbyn hynny yr oedd y Cylchgrawn Llaw-fer mewn bod­olaeth ond yr oedd Y Parch. R.H. Morgan wedi marw. Adolygwyd a helaethwyd y gyfundrefn gan David W. Evans dan nawdd y Gymdeithas Law-fer Gymraeg. Y mae'r llyfr hwn yn tra rhagori ar y rhai blaenorol, y mae'r ffurfiau eu hunain yn well a cheir mwy o amrywiaeth ynddo. Erbyn hyn yr oedd newyddiaduraeth Gymraeg yn ei hanterth ond y mae'n amlwg mai prif amcan ysgrifenwyr llaw-fer y cyfnod hwn hefyd oedd ysgrifennu pregethau gan fod talfyriadau arbennig ar eu cyfer, e.e. atgyfodiad y meirw, cariad tragwyddol, proffwydoliaeth, Iorddonen ac ardderchocaf anghydffurfwyr.

Yn rhifyn Mai 1907 o'r Cylchgrawn Llaw-fer gwneir y datganiad hwn gan C. Newell Evans am ŵr o'r enw Mr. Preis, Llundain, a ddeuai gynt o Ynys Las : "Cyn belled ag y gwn i dyma'r unig enghraifft o neb yn ennill ei fywoliaeth fel ysgrifen­nydd llaw-fer Cymraeg a hynny mewn swyddfa fasnachol ar wahân i swyddfa papur newydd." Yn rhifyn Hydref 1911 dywed Y Golygydd am Morris R. Owen, yr ysgrifennydd cyflymaf, a oedd hefyd yn medru llaw-fer Saesneg: "Y mae'r cyflymder erbyn heddiw wedi cynyddu hyd at 120 gair y munud ac y maen awr yn medru dilyn y pregethwyr mwyaf cyflym a huawdl Saesoniaid."

Erbyn hyn y mae argraffiad 1907 o'r llyfr llaw-fer yn brin iawn a methais â chael copi ohono. Er bod y gyfundrefn a welir ynddo wedi crwydro ymhell oddi wrth y gwreiddiol nes ei gwneud hi'n anodd dros ben i ddysgu llaw-fer mewn iaith arall ochr yn ochr â hi, y mae llawer o bethau da ynddi hefyd. Wedi'r cyfan bu'n gyfrwng i Morris R, Owen o Lanberis gyrraedd cyflymder o 120 gair y munud yn 1911 sydd 10 gair y munud yn gyflymach na Iola A. Price yr ysgrifennydd llaw-fer cyflymaf yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y tro nesaf y bydd darllenwyr Y Casglwr yn bodio eu llyfrau llaw-fer efallai y byddant yn barod i'w cynnig i mi fel y gallaf eu defnyddio ochr yn ochr â llyfr Cyd-bwyllgor Addysg Cymru i hyfforddi myfyrwyr i gyrraedd cyflymder o dros 120 gair y munud. Nid yw pawb yn gwirioni yr un fath.