YR HEN FFA A ARBEDWYD O'R CORSYDD ~
Diolch i hen gof Gruffydd Parry
TUA CHANOL ail ddegawd y ganrif hon, yr oedd y bachgen ifanc oedd wedi cael swydd fel darlithydd mewn Cymraeg a Lladin yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, yn dod adre i dreulio misoedd hir ei wyliau haf. Yr oedd yna lythyr wedi dod oddi wrtho fo yn dweud y byddai gofyn cael dwy neu dair silff yn gegin ffrynt i ddal y llyfrau oedd o am ddod efo fo.
A dyna'r sut, am y tro cyntaf erioed, y daeth yna hwda o lyfrau i'r tŷ. A'r rheiny yn rhai sych gynddeiriog a deud y gwir. Amryw byd o rai Lladin. A rhai Saesneg. A'r ychydig rai Cymraeg, i bob golwg, yn gwbl annarllenadwy. Ar wahân i un bach tenau mewn clawr glas.
Barddoniaeth oedd o, a 'doedd barddoniaeth ddim yn apelio yn arbennig at chwaeth un ar ddeg oed. Ac eto ... Yr oedd yno un gân fer o dri phennill gyda'r teitl, 'Cwyn y Gath'. Cath? O wel, ella bod yma rywbeth gwerth ei ystyried.
Tri dosbarth o lyfrau oedd yn bod cyn i'r llyfrau yma ddod o Gaerdydd. Llyfrau capel oedd y cyntaf, yn esboniadau, Rhodd Mam, 'Fforddwr, llyfrau emynau a'r Beibil – pethau i'w hanwybyddu hyd y gellid. Llyfrau Ysgol Penygroes dau frawd hŷn oedd yr ail ddosbarth, Elementia Latina, A Course in Algebra, Junior Chemistry – pethau i'w hosgoi cyhyd ag y gellid. A'r trydydd dosbarth oedd llyfrau diddorol fel Y Llong Lô ac Ynys y Trysor a Nedw – pethau i'w darllen.
Ond bellach yr oedd yna ddosbarth arall, sef y llyfrau y byddai yn rhaid i chi eu darllen os oeddech chi am gael M.A. Ymysg y rheiny yr oedd y llyfr glas. Ffa'r Corsydd oedd y teitl, a'r Ddau Hogyn Rheini oedd yr awduron. Cyfrol o barodïau ydoedd, a'r teitl yn adlais o Plu'r Gweunydd, Iorwerth Peate oedd newydd ei gyhoeddi. A'r ddau awdur – Y Ddau Hogyn Rheini – oedd Caradog Prichard a Thomas Parry.
***
AM NIFER o resymau rhoddwyd gwaharddiad ar Ffa'r Corsydd yn fuan iawn. Dim ond cip-olwg arno fo oedd eisio i weld ei fod o yn gwneud sbort am ben 'barddoniaeth go-iawn'. Yr oedden nhw yn ymylu ar faswedd neu ganeuon llofft stabal. Mewn gair, pethau amheus onid drwg oedden nhw, ac o ganlyniad fe aeth y llyfr glas o dan ddaear y rhagrith biwritanaidd honno oedd yn fwrn ar wên ac yn angau i chwerthin.
Mae'n syndod na fyddai gwegil llawer o'r rhai a fagwyd yn y blynyddoedd hynny wedi mynd yn barhaol stiff gan faint y buon nhw a'u pennau i lawr yn darllen pethau oedd yn cael eu darn guddio dan y bwrdd neu dan y ddesg. Blynyddoedd y jyrsi oeddan nhw, cyn dyfod blynyddoedd y crysbas a phoced cesail ynddo, lle gellid cuddio Wizard a Magnet a chyffelyb eitemau llenyddol eraill ansicir eu dylanwad ar foesoldeb. Ac felly, ar y slei y cafwyd cip cynnar ar Ffa'r Corsydd.
Ar ddiwedd y gwyliau haf hynny, fe aeth yn ôl i Gaerdydd i ganlyn y sychder, a fu o ddim yn 'wyddfodawl' chwedl Caergybi am tua thair blynedd wedyn nes daeth y perchennog a'r awdur rhannol yn ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Bangor.
Erbyn hynny, a'r jyrsi yn mynd yn grysbas, yr oedd y gwaharddiadau yn llacio mymryn – 'doedd golchi llestri ar y Sul ddim yn rhoi sicrwydd sêt yn fflamau'r tân tragwyddol. Ac yr oedd cerdd am gath, ar batrwm neu ar ffurf dynwarediad o gerdd am ferch yn ddigon doniol.
Felly y lliniarwyd peth ar erwinder y gwaharddiad, er mai goddefgarwch rhannol ac amodol oedd o. Dal i lechu rhwng Llyfr Gwyn Rhydderch a'r pared ar gomin main, yr oedd Ffa'r Corsydd.
Ond yr oedd yna un gynulleidfa oedd yn gwerthfawrogi'r cynnwys, a honno oedd y fintai bach oedd yn cerdded ôl a blaen bob dydd o Garmel i Benygroes – i gael ei disgyblu a'i cheryddu a'i chlustochi er mwyn iddi fod yn addysgedig. Ac yr oedd hi'n werth dysgu ambell i bennill er mwyn cael ei adrodd o i gymeradwyaeth y gynulleidfa honno wrth ddringo adre heibio'r Allt Felen a Chlogwyn Melyn.
***
PAN briododd awdur Ffa'r Corsydd a mynd i fyw i Fangor, aeth y llyfrau i gyd i'r tŷ newydd – a'r gyfrol denau yn ei chlawr glas i'w canlyn. Yng nghornel yr ail silff o'r gwaelod, nesa i'r ffenest yr oedd hi. Ac yr oedd tameidiau o'i chynnwys yr un mor dderbyniol gan las fyfyrwyr. Daeth rhai o'r glas-fyfyrwyr hynny yn olygyddion enwog yn eu tro – i orfodi eu cyfeillion i `gyfrannu'. Yr oedd Sam Jones yn byw dros y ffordd ym Mangor hefyd, ac yr oedd ganddo yntau ddiddordeb mawr, a hynny pan oedd y syniad am y Noson Lawen yn dechrau cyniwair yn ei feddwl.
Ond fe symudwyd y llyfrau unwaith wedyn. I Aberystwyth y tro hwnnw – i Hengwrt i ddechrau ac yna i Blas Penglais ... A dyna'r cownt olaf o Ffa'r Corsydd. Hwyrach ei fod o wedi ymblygu ynddo'i hun a diflannu allan o fod o gywilydd bod mor agos i gyfrolau pwysfawr a dysgedig y Llyfrgell Genedlaethol.
'Doedd o ddim i'w weld wrth edrych o gwmpas pan ddaeth y llyfrau yn eu holau i Fangor beth bynnag. Yr oedd y blynyddoedd wedi mynd wrth eu degau. Rhaid ei fod yntau wedi mynd i'w canlyn ...
Yr oeddwn i wedi bod yn holi ei hanes droeon, a'r ateb, â gwên atgofus fyddai, 'O ia. Ydw 'rydw i'n cofio. Ydi mae'n siwr'i fod o yma yn rwla.' Ateb nad oedd, efallai, yn gwbl nodweddiadol.
Syndod pleserus felly oedd clywed y Dr Derec Llwyd Morgan yn dweud ryw bnawn fod yna gopi o Ffa'r Corsydd yn Llyfrgell y Coleg ac y byddai modd cael ei weld. Trwy gwrteisi awdurdodau'r Llyfrgell, a thrwy garedigrwydd fy chwaer-yng-nghyfraith, dyma felly o'r diwedd, gael fy mhump ar lun o'r Ffa'r Corsydd sydd yn y Llyfrgell ...
***
OND NA! Na, nid y fo ydi o. `Ffa'r Gors' ydi teitl hwn – casgliad o gerddi ar achlysuron a digwyddiadau a throeon gan R T Jenkins, T Hudson Williams, Thomas Richards, Thomas Parry ac eraill. Eithaf diddorol, ac yn ddarlun digon gwerthfawr o ddiddordebau rhai o'r gwŷr oedd yn bwyta'r 'academig dost' yn y tri a'r pedwar degau. Ond dydi o ddim yn yr un byd â Ffa'r Corsydd. Yr oedd yna wefr ieuenctid a llawenydd llencyndod yn hwnnw.
Tybed ei fod o yn hel llwch ar ryw silff yn rhywle? Neu yn swatio mewn bocs? Neu yn cuddio mewn ffeil? Rhag ofn nad ydi o ddim, dyma rai o'r cerddi sydd wedi aros ers dyddiau ysgol. Hwyrach nad ydyn nhw ddim hanner cystal ag yr oeddan nhw yn ymddangos yr adeg honno chwaith ...
- Cymru
Mi wn fod heno glocsiau pren
Ar heol wen yn Holland,
A thraetha'r doeth am fwtsias tew
Yn herio'r rhew ym Mholand;
Ond llawer gwell gen i yn siŵr
Yw'r traed sy'n Abertridwr. Mae haen ar haen o ddillad drud
Ar ddelwau mud yn China,
A gwisgoedd llaes yn sgubo'r llwch
Sy'n drwch ym Mhalestina;
Ond mil dewisach gennyf fi
Yw byrion beisiau'r Barri. Mae capiau ffwr yn gylchau trwm
Am bennau llwm yn Rwsia,
Helmedau dur am bennau gwŷr
Sy'n cwyno'u cur ym Mhrwsia;
Ond gwell na gwisgoedd unrhyw le
Yw'r hetiau'n Abertawe ...
Cwyn y Gath
Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno —
Na, dim byd o'r fath,
Dan fy ffenestr yn wylofus
Yr ochneidia'r gath. Codi'i llais yn awr a rhegi —
Fflamio rhegi mae,
Yn y llanastr ymresyma
Mewn ffyrnicaf wae. Pam y deui gath i regi
Dan fy ffenestr i?
Dywed im, a gefaist tithau
Un a'th gura di?
Cerdd yr Hen Feddwyn
Llydan oedd ei wasgod pan ymsythai,
Bychan oedd ei sêl dros unrhyw waith,
Disglair oedd pelydrau'i drwyn ysgarlad
Fflachiai gochni'r gwin i'r twllwch maith. Difyr oedd ei gwmni wrth y pentan
Diddan oedd y chwedlau ar ei go',
Cynnar oedd ei droed ar lawr y dafarn
Yn hwyr yr ymbalfalai am dwll y clo. Rhoes ei geiniog hael i dorri'r syched —
Gwybu gysgu'r nos yn ffos y clawdd,
Doeth oedd ei gyfeillgar sgwrs a'r plisman
Pan nad oedd llefaru'n orchwyl hawdd. Neithiwr rhoes ei bwysau ar y canllaw —
Soniwyd am y bont yn torri'n ddwy;
Codwyd rhywbeth gwlyb o wely'r afon,
Segur fydd y myg a'r botel mwy.
Atgof
Yng nghartre'i thad a'i mam wrth de a sgaden
Eisteddwn, yr hapusaf yn y fro.
A chyffro'r galon megis gloyn ar aden
Wrth iddi dderbyn f awgrym 'awn am dro'.
Safem ein dau ar bwys tâs wair rhyw ffarmwr,
A chronai ynof rhyw wallgofus nwyd,
Ynghynt a chynt cyflymwn waed fy mharmwr
A hyder carwr wedi pryd o fwyd.
Ond Och! deffrowyd fi o'm Ilesmair dioglyd
Rhag ei hymgilio o'm cofleidio bras;
Myn Duw! Y Picls! Gwae'r holl hil benoglyd
A ddarfu dorri'r eilwydd yn ei flas.
Cerddason adref heb ddim son am garu,
A minnau ar benwaig picl wedi alaru.
Anfon y Jac-do i Fryn Du
Jac-do annwl ei di drosta i
I neud rhyw job yng Nghymru draw?
Ei di o simdda Tŷ'r Cyffredin
I ardaloedd caib a rhaw?
Ydi, ma'r hen Dems 'ma'n lyfli
Dan ffenestri ffrynt y Tŷ -
Ond aros di nes gweld llyn chwiad
Pen y Doman ger Bryn Du. Sir Dorïaidd ydi honno,
A Sosialaidd amball ddarn,
Ond ma yno hogan landag
Sy'n Rhyddfrydol hyd y carn.
Cân o ben y corn i Megan,
Cân dy ora iddi hi —
Cân nes medar hitha dynnu
Pawb i fotio drosti hi. Dwad wrth fy nghefndar hefyd
Y rhown i'r byd am hannar awr
O areithio yn Llangefni
Ac egluro'r 'achos mawr'.
Dwad wrtho mod i'n cofio
Hwyl y sbitsh yn Holihed
Pan oedd gynnau glas yr Orsadd
Dros drywsusau melfared. Wedi gwneud dy waith dros Megan,
Ymgartrefa ym Mryn Du —
Aros di ym Mhen y Doman,
Gad i Megan ddod i'r Tŷ.
Chwilod
Pan fyddo'r nos yn dywyll
A'r matiau'i gyd yn ddu,
Daw'r chwilod duon o'u noddfeydd
Hyd holl rodfeydd y ty ‑
I chwilio a chwalu yn eu chwant
Am drysor cudd dros fryn a phant. Pan draetha'r clos ei ddolur
Fel ebill ddur ar graig,
A mesuredig chwyrnu'r gŵr
Ger ei ddifwstwr wraig,
Llithro'n ddihidio wnant i dro
A chrio'r gwynt yn nhwll y clo Pan fyddo'r daith yn eglur
Drwy'r lobi ar ei hyd,
O ddrws y cefn i gefn y drws
Sy'n seriws herio'r stryd,
Byddinant mewn di-ffwdan drefn
O'r twll dan grisiau i'r gegin gefn. A phan oleuo'r annedd
Wedi'r lloerigrwydd hir
A dyfod gwelw olau gwawr
I lawr drwy'r gwydrau clir —
Ni bydd eu Saesneg ar y slei
Yn ddim ond byr 'Gwd-bei, Gwd-bei'
Y Ddau Hogyn Rheini
Beth ydwyt ti a minnau, Jac,
Ond côt a gwasgod a llodrau llac? Dau hen dramp a fu rownd y byd
A botwm neu ddau yn sownd o hyd. Waeth ceiniog a dimai mwy na phunt
Pan fo'r llodrau'n cyhwfan i'r pedwar gwynt. A'r lonydd yn agor yn stribedi gwyn
Dros ffridd a mynydd a gwar a llyn. Beth fyddwn ni dywed, ddau hen dramp,
Pan ddarffo'r olew, pan ddiffydd y lamp? Ni bydd dim yn f'ewyllys i i ti —
Dim ond fynannedd gosod i. A diau na roi di i minnau chwaith
Ond pentwr dirmygus o ddillad gwaith — Llodrau a llodrau a chôt a chôt,
Ac ym mhoced y wasgod dairceiniog neu rot, Heb neb yn enwi i'r pedwar gwynt
Y Ddau Hogyn Rheini a'i gwisgai gynt.
Y Trysor
Fe'th welais gynt ymhlith y llu
Ddirwynai drwy'r heolydd;
Blysiais dy gael, fy nhrysor cu
I rodio'r coed a'r dolydd. Mynnais di'n eiddo cyflawn im
A thyngais lŵ cadarnaf
Na byddai dŵr na thân na dim
A'th ddygai oddi arnaf. Ar lwybrau cêl dy gwmni ges,
Troaist fy ngwg yn wenau,
A min wrth fin anadlu wnes
Yr anadl twym o'th enau. Fe gydiais yn dy lendid noeth
Yn wyllt a dwylo beiddgar
Cusenais dy wefusau poeth
A nwyd bachgenyn eiddgar. Ond heno, unig, unig wyf,
A thithau'n oer a llonydd;
Ni chaf dy gwmni i dynnu rhwyf
Na rhodio'r coed a'r bronnydd. Fe ddarfu swyn y goedlan werdd
I mi, ddiymadferth fretyn —
Ciliodd o'm bywyd hoen a cherdd
'Rol torri coes fy nghetyn.