YMGAIS Y WASG I EGLURO'R HEN LLEOEDD
gan Tomos Roberts

YN FY ysgrif olaf edrychais ar gyfrolau o esboniadau ar enwau lleoedd yng Nghymru. Y tro hwn bwriadaf edrych ar ysgrifau, nodiadau a thrafodaeth ar enwau lleoedd mewn cylchgronau, cyfansoddiadau eisteddfodau a phapurau newydd.

Ym 1795 ymddangosodd y gyfrol gyntaf o'r Cambrian Register, cylchgrawn Cymdeithas yr Ofyddion. Bwriad y Gymdeithas oedd cyhoeddi hen destunau mewn cylchgrawn Saesneg dan olygyddiaeth William Owen Pughe (1759-1835). Ymddangosodd yr ail rifyn ym 1796 ond ni chyhoeddwyd y trydydd rhifyn hyd 1818.

Yr oedd adrannau ym mhob rhifyn ar gyfer Hanes, Bywgraffiadau, Hynafiaethau, y Cyfreithiau, Llythyrau, Cerddoriaeth, Barddoniaeth a Thopograffeg. Yn rhifynnau 1795 a 1796 yr ymddengys yr ymdriniaeth gynharaf ag enwau lleoedd Cymru mewn cylchgrawn y gwn i amdano. Yn rhifyn 1795 ymddangosodd rhestr o enwau lleoedd Meirionnydd ynghyd â chyfieithiadau ac yn 1796 ymddangosodd rhestr gyffelyb ynghyd â chyfieithiadau ar gyfer Môn.

Y mae'r rhestrau hyn o hyd yn ddiddorol a defnyddiol ond dengys rhai o'r cyfieithiadau megis 'Bodynolwyn, the dwelling in the circle'; a 'Llugwy, the gloomy water' mai'r golygydd, William Owen Pughe a luniodd y rhestrau. (Coleddai Pughe'r syniad cyfeiliornus mai'r gair gwy 'dŵr' oedd ail elfen afonydd megis Elwy, Efyrnwy a Llugwy. Gweler ei eiriadur dan y gair gwy. Y mae'n nodi Llugwy yn un o'i enghreifftiau).

***

CEIR NIFER o erthyglau a nodiadau ar enwau lleoedd yng nghylchgronau hynafiaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Archaeologia Cambrensis, cylchgrawn y Cambrian Archaeological Association a Montgomeryshire Collections, cylchgrawn y Powys-Land Club, ond ychydig ohonynt sydd yn ddibynadwy.

Mewn nodyn byr ar rai o enwau Sir Fynwy yn Archaeologia Cambrensis 1848 tt. 174-175 awgryma'r Parch David Rhys Stephen (Gwyddonwyson: 1807-1852) yn weddol deg mai 'bare peaked tumulus' yw ystyr Twmbarlwm yn Rhisga. Ond nid oedd wedi sylweddoli mai Twynbarlwm (twyn 'bryn'– barlwm 'brigfoel') oedd ffurf wreiddiol yr enw. Haera ef mai rhyw air twm 'a heap' yw'r elfen gyntaf.

Methodd David Davies yn ddybryd mewn erthygl ar olion Rhufeinig Caersŵs yn Archaeologia Cambrensis 1857, tt.151-172 trwy ddilyn hynafiaethwyr a thraddodiadau lleol ac awgrymu mai Sws ffurf anwes ar Susan 'a queen or a princess of great distinction' oedd ail elfen yr enw. Bu'r frenhines Susan yn ôl David Davies yn brwydro yn erbyn tywysog o'r tu dehau i Hafren ond trechwyd ei milwyr yn `Rhos-ddiarbed, or the place of no quarter'. Dyma weddill y traddodiad yn ôl David Davies:

Yn ôl David Davies adeiladodd y frenhines ffordd ger Caersŵs a elwid yn Sarn Susan ac ychwanega '. . . as this great person, whoever she was, gave her name to the road, might not the deserted city take the same cognomen – hence the designation, Caersws? (Mewn gwirionedd enw personol megis Swys yw ail elfen yr enw Caersŵs a Caerwys oedd ffurf yr enw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.)

***

YN RHAI rhifynnau o'r Montgomeryshire Collections ceir casgliad o enwau lleoedd plwyfi ac ardaloedd arbennig ynghyd â chyfieithiadau, ac y mae nifer o'r rhain yn bur gywir a diddorol.

Yn rhifyn xxv (1891) ceir casgliad o enwau ardal Trefaldwyn a luniwyd gan Robert Williams (1835-1906) yr hynafiaethydd o Lanbryn-mair ac yn rhifyn xxix (1896) ymddangosodd casgliad o enwau ardal Y Drenewydd a luniwyd gan Robert Owen o'r Trallwng. Ceir ambell nodyn golygyddol bachog yn y casgliad hwn:

Rhwng 1871 a 1919 cyhoeddwyd y cylchgrawn hynafiaethol Bye-gones yn flynyddol. Adargraffiadau a geid ynddo o golofnau hynafiaethol o'r Oswestry and Border Counties Advertizer. Yn y cylchgrawn hwn ceir toreth o nodiadau a sylwadau – rhai call, rhai gwallgof – ar enwau lleoedd yng Nghymru. Dyma nodyn gan ŵr yn defnyddio'r ffugenw 'Crayon' ar yr enw Pale. Sylwer ar gywiriad y golygydd ar y diwedd:

***

WEITHIAU ceir erthyglau ar enwau lleoedd mewn mannau annisgwyl. Yn Yr Haul, cylchgrawn enwadol yr Eglwys Sefydledig, ar gyfer 1870 ceir rhestr ddiddorol o enwau afonydd Cymru. Mae'n bosibl mai Daniel Sylvan Evans (1818-1903) y geiriadurwr a'i lluniodd.

Yn Cennad Hedd, un o gylchgronau'r Annibynwyr, ar gyfer 1889 cyhoeddodd Clwydwenfro o March yn Cambridgeshire erthygl ar enwau lleoedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Yna yn Transactions of the Liverpool Welsh National Society ar gyfer 1893-4 traethodd T. Glwysfryn Hughes ar enwau ei ardal enedigol ef, sef Bryneglwys yn Sir Ddinbych.

Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ganrif hon cynigiwyd gwobrau yn bur aml mewn eisteddfodau am draethawd ar enwau lleoedd neu gasgliad o enwau rhyw ardal. Cyhoeddwyd nifer o'r traethodau a'r casgliadau mewn cyfansoddiadau eisteddfodau.

Ym aml ni cheir ynddynt ond casgliad o chwedlau lleol yn esbonio'r enwau, ond fe geir ambell draethawd o safon uwch. Dyma esboniad cywir a chryno o draethawd gan E R Jones, Amlwch ar enwau lleoedd Môn a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Môn, Caergybi, 1907:

***

ERBYN DIWEDD y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd nifer o Gymry yn pryderu am fod enwau lleoedd ar hyd a lled Cymru yn cael ei Seisnigo a chyhoeddwyd mwy nag un apêl am ddiogelu'r enwau mewn cylchgronau.

Yn Wales iv, (September 1897) cyhoeddwyd un apêl yn dwyn y teitl 'An appeal for our Celtic Place-names'.

Yn Y Geninen yn Ionawr 1897 cyhoeddodd Emrys ap Iwan restr o'r enwau a Seisnigwyd ynghyd â'u ffurfiau Cymraeg cywir. Lluniodd y rhestr am fod 'Saeson anwybodus a Chymry anffyddlon yn ceisio anwladoli Cymru a'i gwneyd yn rhandir Seisnig, trwy Seisnigo a Seisnigeiddio enwau ei threfi, ei llannau, ei phlasau, ei chestyll, ei mynyddoedd, ei dyffrynodd a'i hafonydd . . .'  Y mae'n dyfynnu un enghraifft fendigedig o'r Seisnigo sef 'awdurdodau neu weision y ffordd haearn' a osododd yr enw Pontyclown yng ngorsaf Pont-y-clun. Ceir nifer o sylwadau craff a phroffwydol ar ddyfodol yr iaith yn yr erthygl hon hefyd.

***

AR DROAD y ganrif ac yn ystod degawdau cyntaf y ganrif hon bu llawer o lythyru yng ngholofnau papurau newydd Cymraeg a Saesneg ynglŷn ag ystyron neu ffurfiau enwau lleoedd. Er enghraifft bu llythyru cyson yn y Western Mail a'r South Wales Daily News rhwng 1926 a 1928 ynglŷn ag ystyr yr enw Gabalfa yng Nghaerdydd.

Weithiau ceid dadl frwd rhwng y llythyrwyr ynglŷn â ffurf rhyw enw ac y mae'n debyg mai'r ddadal hynotaf erioed oedd yr un a gafodd y teitl `Ffordd Deiniol v Ffordd Ddeiniol.

Mewn cyfarfod o Gyngor Dinesig Bangor ym Mawrth 1906, cynigiwyd newid enwau dwy stryd ym Mangor o Ffordd Deiniol a Ffordd Gwynedd i Ffordd Ddeiniol a Ffordd Wynedd ar ôl derbyn cyngor gan yr Athro John Morris Jones. Gwrthwynebwyd y cynnig yn hallt gan ŵr o'r enw Owen Owen a phleidleisiodd 13 o'r aelodau dros gadw'r hen ffurf a 4 dros y newid.

Mewn llythyr hirfaith yn Y Genedl Gymreig, Mawrth 20 a 27, 1906, rhoes Owen Owen ei ddamcaniaethau ef ynglŷn â'r enw ynghyd â barn nifer o ysgolheigion Cymraeg. Bu hefyd yn craffu ar ei Feibl. 'Ffordd Bethesmes' oedd y ffurf yn 2 Samuel vi.12, meddai nid Ffordd Fethesmes a 'Ffordd Balaam' ac nid Ffordd Falaam a geid yn 2 Pedr ii. 15.

Atebwyd ef mewn llythyr yn yr un papur ar Ebrill 3 gan yr Athro John Morris Jones ac yn y llythyr hwn y mae'n olrhain datblygiad a chystrawen y treiglad meddal, yn dyfynnu'n helaeth o'r cywyddwyr ac yn pleidio'r ffurf Ffordd Ddeiniol yn gryf. Cyhoeddwyd y llythyr hwn wedyn yn bamffledyn.

Ond ni fodlonwyd Owen Owen. Yn rhifyn Ebrill 17 o'r Genedl Gymreig mewn llythyr arall mae yntau'n dyfynnu'r cywyddwyr i gryfhau ei ddadl ef. Atebwyd ef drachefn gan John Morris Jones ar Ebrill 24 a dyma beth o'i farn am Owen Owen a'i syniadau.

Aeth y llythyru ymlaen fel hyn hyd ganol Mehefin ac yn ddiau chwalwyd damcaniaethau Owen Owen gan John Morris Jones. Ond Owen Owen a'i blaid a orfu yn y pen draw a Ffordd Deiniol a welir ar yr arwyddion ym Mangor hyd heddiw.

***

0 DDIWEDD y bedwaredd ganrif ymlaen dechreuodd ysgolheigion Cymraeg gyhoeddi erthyglau safonol ar enwau lleoedd mewn cylchgronau a phapurau newydd.

Y mae'n debyg mai'r erthygl gyntaf o'i bath oedd 'Welsh Place-Names: A Study of Some Common Name-Elements' gan John Edward Lloyd a ymddangosodd yn Y Cymmrodor xi (1892) tt.15-61. Ynddi mae John Edward Lloyd yn trafod rhai o brif elfennau enwau lleoedd yng Nghymru ac yn sôn am egwyddorion y grefft o ddehongli enwau lleoedd.

Ceir nodiadau craff gan olygydd Y Cymmrodor, Egerton Phillimore ar ddiwedd yr erthygl a mewn un ohonynt y mae'n ymosod ar ddehonglwyr lleol am ystumio enwau er mwyn eu cysylltu â Elen Luyddog:

Ym 1907 cyhoeddodd Ifor Williams gyfres o erthyglau ar enwau lleoedd Dyffryn Ogwen yn Y Gwyliwr, papur lleol Bethesda. Ym 1910 olrhieniodd ddatblygiad yr enw Ogwen yn Y Brython (Rhagfyr 15, t.5) a dangosodd mai Ogfanw oedd ffurf wreiddiol yr enw.

***

OND ODID nad y gyfres odidocaf o ysgrifau ar enwau lleoedd a ymddangosodd mewn papur neu gylchgrawn erioed oedd y gyfres yn dwyn y teitl 'Tir a gwlad' gan yr Athro Melville Richards a ymddangosodd yn Y Cymro rhwng Mawrth, 1967 a Mai, 1970. Ceir 166 o ysgrifau yn y gyfres hon.

Cychwynnodd Melville Richards trwy esbonio enwau tywysogaethau Cymru, y cymydau a'r cantrefi. Yna trafododd rai o brif elfennau enwau lleoedd yng Nghymru megis llys, din, tref, llan a capel, gan esbonio lliaws o enghreifftiau o enwau yn cynnwys yr elfennau hyn, a gorffennodd trwy esbonio degau o enwau plwyfi yn cynnwys elfennau eraill.

Prin y gwelwn byth eto ŵr a all drafod enwau ledled Cymru mewn dull mor feistrolgar.