RHYFEDD AC OFNADWY gan Dafydd Guto
DAU BETH a'm hysbardunodd yn ddiweddar i lunio hyn o lith, sef cwyn Cymro ifanc mewn tafarn go wlyb, a chanmoliaeth alltud, sef brodor o Wlad Pŵyl. Y gŵyn i ddechrau. Ble yn y Gymraeg y ceir llyfr poblogaidd, hawdd ei ddarllen, hefo lluniau atyniadol sy'n trin a thrafod rebeliaid, adynod, y giwed, a phobl sydd heb fod yn aur i gyd, er fe ellir dweud amdanynt nad oeddynt ychwaith yn ddrwg i gyd?
Rhoddodd hynny sialens o'r mwyaf imi, yn enwedig pan ddywedodd y gŵr o wlad Pŵyl fod Geiriadur Pwyleg-Cymraeg ar gael. Tybed? Ŵyr y darllenwyr ei hanes?
Felly, dyna sodro'r peth ar ei ben. Yr angen mwyaf, os y gellid ei alw'n angen hefyd, oedd un sy'n hen broblem yn y Gymraeg, sef llyfryddiaeth a oedd yn digoni anghenion pobl â diddordeb mewn deunydd sy'n ymwneud â lleiafrifoedd yn y Gymru ddoe a heddiw.
I lenwi bwlch ac i abwydo diddordeb cyhoeddwyr ac ati, dyma lunio rhestr gryno. Ys gwn i a wna hon danio awydd pobl i sgwennu am y gwahanol wrthrychau? Mae gwir angen hynny.
Y BACHGEN DU: John Ystumllyn. Angen ailgyhoeddi llyfryn 1880 Alltud Eifion, eto hefo ffotograffau a mwy o fanylion hanesyddol, hynny ydyw, gosod y dyn yn ei oes;
Y BARDD COCOS: John Evans 1827 ?-95.
Angen dybryd diweddaru a chynnwys gweithiau'r Arch-Fardd Cocos hefo'i gilydd mewn un
gyfrol.
CAERWYN. Y Crynhoad Gorff. 1951 tt.7-10; o'r Herald Gymraeg; Cerddi Tŵr Marquis. Marwnad Eben Fardd. Y Casglwr Mawrth 1984. t.1 a th.20 Yr Archfardd Cocysaidd. Gwrandawr Medi 1970 iv;
JENKINS, R T. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain 1953 t.229; JONES, D. Gwyn Chwilota 2. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru 1978 t.57;
ROBERTS, Thomas (Alaw Ceris). Bardd Cocos; ei hanes, ei swydd ynghyd â'i weithiau barddonol. Porthaethwy: Williams a Harrison, 1923; Ai boddi wnaeth y Bardd Cocos? Seren Menai, Mawrth 1984 t.1;
WILLIAMS, Dafydd Prydderch. John Evans - Bardd Cyfoesol. Ffenics Gwanwyn 1966 tt.15-19;
WILLIAMS, Huw Llywelyn. Sgwrs â John Evans y Bardd Cocos. Blodau'r Ffair Haf 1976 t.22;
CARCHARORION RHYFEL YNG NGHYMRU
Ond odid maes sydd wedi'i anwybyddu'n llwyr hyd yma. Ond... Carcharorion Almaenaidd
– eu dal ger Harlech. Herald Gymraeg. Chwefror 12, 1918 t.3. col.2;
Yr hogia wedi dianc o wersyll Frongoch ble roeddynt yn garcharorion ac wedi'i gleuo hi dros y mynyddoedd am Gwm Nantcol a chyffiniau Harlech. Hanesyn tu hwnt o ddiddorol;
CARDOTWYR
Cyffredinol:
TURNER, Merfyn. Y Crynhoad Hydref 1954 tt.15-18; Talfyrriad o'r Faner;
Penodol: yr anfarwol John Preis; T.G. "I'r Hen Fritish Columbia".
Y Ffynnon Tachwedd 1985 t.1;
JONES, Miriam. Atgofion am John Preis. Lleu Tachwedd 1985 t.1;
JONES, Osborn P. Ffenics Gwanwyn 1965. tt56-57; hanes a ff. d/g;
SAM Wil. Llafar Gwlad Gwanwyn 1986 tt.7-8;
WILLIAMS, Emyr. Pen y daith i'r cerddwr mawr. Colli Brenin y briffordd. Cambrian News (Meirion/Arfon) Tachwedd laf, 1985 t.18;
COCOS FARDD Y DE: ELIAS JONES
A oes deunydd ar gael? Oes yn rhywle?
CORACHOD Wedi'r mwyaf - y lleiaf y llathen ac wyth modfedd o deiliwr. Y Cymro Ionawr 12, 1961 t.1; ff.d/g; John Harris y teiliwr bach i Ddihewyd Ceredigion a'i wraig Marged a'r teulu; ff.d/g; Marwolaeth 'Teiliwr Bach' Dihewyd. Herald Gymraeg Ionawr 24, 1893 t.7 col.7; Cyswllt A Meillionen, Aberaeron a gŵr oedd yn 3'6" ac yn 65 pwys; Unwaith mewn ffair, dywedodd porthmon wrtho os na fyddai yn ddistaw y rhoddai ef yn ei logell, a John yn ateb, `Byddai mwy o synnwyr yn dy boced nag a fu erioed yn dy ben'.
DIC ABERDARON: Richard Robert Jones 1780-1843
Y Brython 1-9 1859 tt. 306-307; Dernyn o ddyddlyfr Eben Fardd Cymru. Awst 1892
t.88;
Y Crynhoad Hydref 1951 tt.50-51;
O'r Glannau; Hanes bywyd y diweddar Richard Robert Jones neu Dic Aberdaron. Caernarfon:
H Humphreys 1844;
Hanes Dic Aberdaron a Twm o'r Nant. Caerfyrddin: William Evans a'i Fab, 1907;
JONES, D Gwyn. Chwilota 3 Caerdydd: GPC 1981 t.33; JONES, Gwilym R Dynion Dawnus. Llyfrau'r Faner 1980 tt.24-29;
JONES, J T. Troeon trwstan 'sglaig – a'i ddawn dysgu ieithoedd. Y Ford Gron Hydref 1933 t.272 a th.288; Llafar Gwlad Gaeaf 1983-84 t.18;
PARRY, Gruffydd. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. t.477; Yn sicr ddigon mae angen cyfrol diwygiedig sy'n ymdrin â'r 'cathmonwr' a'r Ieithydd.
EIDALWR
Amadeo Taddei, Blaenau Ffestiniog. Y Cymro
Rhagfyr 4, 1958 t.11; Gwerthwr hufen iâ chryn fynd ar yr hoff-fwyd oer.
GWYDDELOD: Yng Nghymru A oes ffynonellau ar gael? Beth amdani Gasglwyr?
GWYLLIAID
DAFYDD AP SIENCYN, Nant Conwy