PEDR FARDD A'I ARGRAFFWYR ~
E.Wyn James yn cwblhau'r stori
MAE DYN yn cael ei demtio i weld arwydd o oerni yn y berthynas rhwng Pedr Fardd a John Jones yn nefnydd Pedr o argraffwyr eraill yn hytrach na Jones o ganol y dauddegau ymlaen. Yn y cyd-destun hwn, gall y sylw a ddyfynnwyd uchod am John Jones yn 'brifo blaenoriaid yr eglwys' tra yn ei swydd fod yn arwyddocaol (neu hwyrach i Jones fod yn un o'r swyddogion a ddisgyblodd Pedr Fardd, os digwyddodd hynny yn y dauddegau, fel yr awgrymir mewn rhai ffynonellau).
Ond yn ystod y tridegau, gwelir Pedr yn troi yn ôl at John Jones fel argraffydd – arwydd efallai i'r ddau glosio at ei gilydd yng nghanol yr holl helyntion yn Pall Mall yn ystod y cyfnod. Ond yna mae defnydd Pedr o'i wasg yn peidio eto erbyn diwedd y degawd, yn sgîl ymadawiad John Jones â Phall Mall o bosibl.
Yn ychwanegol at eu cyd-ddioddef ynghanol helyntion y tridegau, un peth arall a'u tynnai at ei gilydd yn y cyfnod hwnnw oedd eu diddordeb yn achos dirwest.
Dyma'r adeg yr ysgubodd y Diwygiad Dirwest trwy Gymru, ond fel yn achos sefydlu Cenhadaeth Dramor y Methodistaid ychydig yn ddiweddarach, yr oedd Cymry Lerpwl ar y blaen, ac yno yn 1835 y sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol Gymreig gyntaf. Daeth Pedr Fardd a John Jones yn aelodau ohoni yn 1836.
Gwelodd y flwyddyn honno John Jones yn argraffu llyfryn dirwestol o waith Pedr Fardd ac, yn Awst 1836, cychwynnodd John Jones gylchgrawn newydd, Y Dirwestydd, cylchgrawn y cyfrannodd Pedr Fardd yntau iddo.
Yn y pedwardegau, bu gan John Jones ran bwysig yn hanes dau gyhoeddiad dylanwadol iawn. Ym Mai 1843 symudodd Gwilym Hiraethog i Lerpwl i olynu'r enwog Williams o'r Wern fel gweinidog y Tabernacl. Tyfodd cysylltiad agos rhwng Hiraethog a John Jones, a oedd bellach yn aelod yn y Tabernacl. 'Gŵr parchus iawn gan ei gydgenedl yn y dref, a chan y Saeson yr un modd, yn Gymro gwladgarol, ac yn Gymreigydd gwych' yw disgrifiad Hiraethog ohono.
Wedi hir drafod, penderfynasant fentro ar gyhoeddi papur newydd Cymraeg, gyda John Jones yn gyhoeddwr ac argraffydd, a Gwilym Hiraethog yn olygydd (ond gyda John Jones yn gwneud tipyn o waith gweinyddu ac is-olygu).
Daeth y rhifyn cyntaf o'r Amserau o'r wasg yn Awst 1843. Ni fu'r ymateb yn wych ar y dechrau, a bu bron i John Jones roi'r gorau i'w gyhoeddi ymhen chwe mis. Ond trawodd Gwilym Hiraethog ar y syniad o gyfrannu ei gyfres enwog o lythyrau dan y ffugenw 'Rhen Ffarmwr'. Gweddnewidiodd hynny'r sefyllfa, gyda'r cylchrediad yn cynyddu wrth y degau bob rhifyn.
Dyma'r newyddiadur Cymraeg cyntaf i lwyddo, a phrin bod rhaid ychwanegu iddo gael ei uno ar ddiwedd 1859 â Baner Cymru Thomas Gee i ffurfio Baner ac Amserau Cymru. (Ceir hanes cynnar Yr Amserau gan Gwilym Hiraethog ei hun yn T.M. Jones, Llenyddiaeth Fy Ngwlad (1893), tt.15-16, ac yn rhifyn 30 Rhagfyr 1847 o'r Amserau).
***
FLWYDDYN ar ôl sefydlu'r Amserau bu farw'r esboniwr James Hughes ('Iago Trichrug'), yn Nhachwedd 1844. Dechreuwyd cyhoeddi ei esboniad dylanwadol ar y Beibl yn 1829, o wasg Evan a John Lloyd, Yr Wyddgrug a Threffynnon (swyddfa P.M. Evans, Treffynnon, wedi hynny).
Gwerthwyd wyth mil o argraffiad cyntaf y Testament Newydd, ac nid yw'n syndod felly i'r cyhoeddwyr ofyn iddo fynd rhagddo gyda'r Hen Destament. Cyhoeddwyd pedair cyfrol o'i esboniad ar yr Hen Destament, ond bu farw James Hughes cyn gorffen y gwaith.
Adwaenai John Jones, Castle Street, James Hughes yn dda, ac ato ef y trodd y cyhoeddwr, P.M. Evans, â'r cais i orffen yr esboniad. Cytunodd, ac yn 1845 (nid yn 1850, fel y dywed y Bywgraffiadur) rhoddodd y gorau i'w fusnes yn Castle Street a chilio o Lerpwl i'r Brookhouse, Dinbych, am gyfnod byr i weithio ar yr esboniad.
Cwblhaodd ei waith arno – sef y rhan fwyaf o'r bumed gyfrol o'r Hen Destament (o Jeremeia 35:7 ymlaen) – erbyn dechrau 1848, ac ymddangosodd cyfrol olaf yr esboniad yn gyflawn erbyn mis Medi'r flwyddyn honno.
Mae'n ymddangos mai tua diwedd Mehefin 1845 y rhoddodd John Jones y gorau i'w fusnes argraffu. O leiaf, yn rhifynnau Gorffennaf Yr Amserau ceir hysbyseb ganddo yn diolch am gefnogaeth ei gwsmeriaid dros y blynyddoedd, ac yn dweud ei fod wedi trosglwyddo ei fasnach fel argraffydd a llyfrwerthwr i M.J. Whitty a William Ellis, gan ychwanegu y byddai'r 'un fantais i argraffu Cymraeg yn y swyddfa ag o'r blaen, gan fod ei feibion yn aros yno'.
Yn y flwyddyn flaenorol, roedd ei ferch, Mary Ann Jones, wedi agor busnes argraffydd a llyfrwerthwr yn Copperas Hill a School Lane i ddechrau, ac yn 18 Tithebarn Street erbyn 1847. Ei hargraffnod hi sydd wrth gofiant ei thad i John Elias yn 1850.
Priododd merch John Jones â Thomas Lloyd (brodor o Aberystwyth a ddaeth i Lerpwl yn 1845, yn 23 oed), ac ymunodd ef yn y busnes gyda hi. Etholwyd Thomas Lloyd yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Rose Place (Fitzclarence Street wedi hynny) yn 1857, swydd a lanwodd hyd ei farw yn 1899.
***
AM Yr Amserau, pwysleisir yn yr hysbyseb yng Ngorffennaf 1845, y cyfeiriwyd ato uchod, bod y papur yn aros o dan yr un olygyddiaeth er y newid ym mherchennog y busnes.
Newidiwyd enw'r cyhoeddwyr o John Jones i Whitty ac Ellis gyda rhifyn 28 Awst 1845, ac yn yr un rhifyn ceir nodyn yn dweud, gan fod y cyn-gyhoeddwr wedi ymadael â Lerpwl, y dylid anfon unrhyw ohebiaeth bersonol ato i 'Brook Cottage, near Denbigh'.
Parhaodd Whitty ac Ellis i argraffu a chyhoeddi'r Amserau o'r swyddfa yn Castle Street hyd rifyn 29 Mehefin 1848. Ond nid hwy oedd perchenogion y papur yn y cyfnod hwn, fe ymddengys.
Yn ôl Gwilym Hiraethog, pan ddychwelodd John Jones i Gymru yn 1845, `cymerodd nifer o wladgarwyr twymgalon yn y dref hon achos yr Amserau at eu hystyriaeth .. . Traddododd Mr Jones y fraint-ysgrif o honno yn rhad ac am ddim i'w dwylaw'.
Bu peth ad-drefnu ar y cwmni a berchnogai'r papur yn nechrau 1848, yn y gobaith o'i newid yn wythnosolyn; ond ym Mehefin 1848, aeth Yr Amserau i feddiant John Lloyd (yr argraffydd o'r Wyddgrug a Threffynnon gynt), a fuasai ers rhai blynyddoedd yn gweithredu fel goruchwyliwr i'r papur.
Ni olygai hyn oll i John Jones golli ei gysylltiad â'r Amserau yn llwyr. Dywed Hiraethog iddo ymryddhau o'i waith golygyddol dros y flwyddyn y bu'n byw yn Ninbych, ond iddo ailgydio yn y gwaith wedi iddo ddychwelyd, ac mae'n amlwg ei fod yn parhau gyda'i waith golygyddol ar ddiwedd 1847.
Mae'n amlwg hefyd fod ganddo ryw gysylltiad â'r cwmni a fu'n berchen ar y cyhoeddiad, oherwydd pan ddaeth y cwmni i ben yn 1848, rhoddwyd cyfarwyddyd yn y papur i anfon unrhyw ôl-ddyledion i'r cwmni at John Jones i 18 Tithebam Street, (sef cyfeiriad busnes argraffu ei ferch).
Mae'n ymddangos hefyd ei fod yn cyd-dynnu'n ddigon da â'r perchennog newydd, John Lloyd, oherwydd pan symudodd Lloyd Yr Amserau i'w gyhoeddi ar Ynys Manaw am gyfnod byr yn 1848, er mwyn ceisio osgoi'r dreth ar bapurau newydd, penodwyd John Jones 'yn oruchwyliwr cyffredinol iddo dros Gymru a Lloegr'.
Dyna fraslun o hanes (helbulus ar brydiau) yr argraffydd pwysig a dylanwadol hwn. Ceir cofnod arno yn yr atodiad i'r Bywgraffiadur, tt.116-17, ond un sydd heb gymryd i ystyriaeth y ffeithiau a ddatgelir mewn erthygl gan D.E. Jenkins yn Y Drysorfa, Mawrth 1932, tt.95-9.
Y ffynhonnell bwysicaf arno ef a'i gefndir crefyddol yw dwy gyfrol J.H. Morris, Hanes Methodistiaeth Liverpool (1929 a 1932), sydd ysywaeth heb fynegai (nodir y tudalennau mwyaf perthnasol yn y cofnod yn y Bywgraffiadur, ond gellir ychwanegu atynt cyf. I, tt.284 a 342, a hanes Pedr Fardd ar tt.111, 120-4; ar ddisgyblu'r ddau, gweler hefyd darlith O.E. Roberts yn CCHMC, cyf. LIX:3, Hydref 1974, tt.41-2, a nifer o lythyrau yn Y Brython yn ail hanner 1920.
***
FEL y nodwyd eisoes, argraffwyd llyfrau cyntaf ac olaf Pedr Fardd yng Nghaer. Y cysylltiad allweddol yn y cyd-destun hwn oedd y gweinidog Methodist adnabyddus, John Parry. Yn yr ysgrif yn rhifyn Nadolig 1985, rhoddwyd peth sylw i Margaret Monk a'i hargraffiad o'r Catecism Ysgrythurol (c.1820), gan ddangos cysylltiad John Parry ag ef fel cyhoeddwr (neu ddosbarthwr).
Byddai nifer o gysylltiadau enwadol rhwng Parry a Pedr Fardd wrth gwrs. Ymwelai John Parry ar dro â Lerpwl i bregethu, ac am flynyddoedd bu Lerpwl a Chaer ar yr un gylchdaith bregethu. Roedd gan y ddau hefyd ddiddordeb mawr mewn meysydd cyffelyb, megis gwaith yr ysgol Sul a'r genhadaeth dramor.
Yn 1818 dechreuodd Parry gyhoeddi cylchgrawn o'r enw Goleuad Gwynedd. Newidiwyd ei enw i Goleuad Cymru yn 1820 a pharhawyd i'w gyhoeddi am ddeng mlynedd arall, nes ei ddisodli gan Y Drysorfa yn 1831.
Dyma gyfnod cynhyrchiol iawn i Pedr Fardd fel emynydd, a diddorol gweld nifer o'i emynau ar dudalennau Goleuad Parry. Felly, er nad argraffwyd llyfr arall gan Pedr Fardd yng Nghaer am tua ugain mlynedd ar ôl y Catecism, fe fu rhyw gymaint o gysylltiadau cyhoeddi rhwng y ddau yn ystod y bwlch.
Mae'n bosibl mai diddordebau cenhadol y ddau – ynghyd â diarddeliad John Jones, efallai – a fu'n gyfrifol dros i swyddfa J & J Parry argraffu awdl Pedr Fardd ar Job yn 1841.
Bu Methodistiaid Lerpwl ar y blaen gyda sefydlu cymdeithas genhadol dramor i'r enwad, ac mae'n ddiddorol gweld fod John Parry wedi chwarae rhan amlwg yn y cyfarfod yn Lerpwl yn Nhachwedd 1840 i ffarwelio â'r cenhadwr cyntaf, ac iddynt ganu ar ddiwedd y cyfarfod hwnnw emyn a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Pedr Fardd. Tybed ai adeg y cyfarfod hwn y bu'r ddau yn trafod argraffu awdl Pedr?
Rywbryd ar ôl Mehefin 1843 argraffwyd llyfryn yn cynnwys dwy bregeth gan John Parry ac un gan William Roberts, Amlwch, yn swyddfa J & J Parry, Etholedigaeth, Prynedigaeth, Galwedigaeth: Tair Pregeth (a chyhoeddwyd y tair yn llyfrynnau bach ar wahân yn ogystal).
Yn y cyd-destun presennol, mae'n ddiddorol nodi bod emyn cenhadol Pedr Fardd, 'Hyfryd lais efengyl hedd,' wedi ei gynnwys yn y llyfryn hwn, yn dilyn un o bregethau Parry. (Am ran John Parry a Pedr Fardd gyda'r symudiad cenhadol, gw. J . H. Morris, Hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig (1907), tt.34, 53-4, 66-8.)
***
FEL y nodwyd o'r blaen, cyhoeddwr a llyfrwerthwr oedd John Parry hyd 1826, ond yn y flwyddyn honno fe drodd yn argraffydd hefyd. Cymerodd ystafell yn Eastgate Street ar 1 Hydref 1825 i weithredu fel swyddfa argraffu, a phrynodd y peiriannau argraffu angenrheidiol ar gyfer y swyddfa ar ddechrau 1826.
Ceir y wybodaeth hon yn llyfr cyfrifon Parry am 1826-36, a ddiogelir bellach yn Llyfrgell Prifysgol Keele (ceir adlun ohono yn y Llyfrgell Genedlaethol). Ac ynddo hefyd gwelir y frawddeg hon: 'Mr. T. Thomas of Liverpool entered upon my service as a Printer on monday, Feb. 13, 1826.'
Thomas Thomas, argraffydd Mel Awen Pedr Fardd oedd hwn. Ni lwyddais i olrhain dim o'i hanes cyn cyrraedd Caer, ond y ffaith iddo gael ei eni ym Mangor ar 5 Mai 1799 a symud i Lerpwl erbyn 1823. Ar ôl iddo weithio i John Parry am ddeng mlynedd, gwerthwyd y busnes i Thomas Thomas ar 3 Tachwedd 1836 am £166.
Ond ni olyga hyn fod John Parry wedi rhoi'r gorau iddi fel argraffydd. Parhaodd i argraffu gyda'i fab, John, a dyna sy'n esbonio'r argraffnod 'J.&J. Parry' ar lyfryn Pedr Fardd yn 1841.
Bu John Parry yn olygydd ac yn argraffydd Y Drysorfa hyd ei farw yn 1846 (rhifyn Mai). Parhawyd i argraffu'r Drysorfa yn swyddfa Parry (gyda John Roberts, 'Minimus', yn olygydd arno) hyd ddiwedd 1846, pryd y trosglwyddwyd yr argraffu i swyddfa Thomas Thomas, a oedd yntau yn aelod amlwg gyda'r Methodistiaid yng Nghaer. (Ei gysylltiadau Methodistaidd, mae'n debyg, sy'n esbonio pam y cafodd y gwaith o argraffu Mel Awen yn 1823.)
Er i Thomas fyw hyd 16 Ionawr 1887, o tua 1848 ymlaen bu'n rhaid i'w fab, Edward, redeg y busnes oherwydd dallineb cynyddol Thomas, ac fe gynhwyswyd y meibion yn swyddogol ym musnes Thomas yn niwedd 1851.
Gwelodd lonawr 1852 symud Y Drysorfa o swyddfa Thomas a'i feibion yng Nghaer i swyddfa P.M. Evans, Treffynnon, lle yr arhosodd hyd Ragfyr 1898.
Ceir tipyn o hanes Parry a Thomas yn erthyglau Derek Nuttall, 'A History of Printing in Chester', Journal of the Chester Archaeological Society, 54 (1967), tt.37-95 (a gyhoeddwyd yn llyfryn ar wahân ganddo yn 1969), a Gwyn Walters, 'The Account Book, 1826-1836, of ... John Parry,' Journal of the Printing Historical Society, 15 (1980-81), tt.54-80 (sydd yn cynnwys atgynhyrchiad o lyfr cyfrifon Parry fel atodiad i'r erthygl).
Gweler hefyd Morris Parry, Hanes Cangen Gymreig Caerlleon o'r Gymdeithas Feiblau, 1812-1910 (Caerlleon: J.H. Sadler, 1910), tt.6 a 14, a'r adran ar Gaer yn Griffith Owen, Hanes Methodistiaeth Sir Fflint (1914), yn enwedig tt.522 a 526.
Dyna olwg felly ar argraffwyr Pedr Fardd; a dywedwyd digon, mae'n siŵr, i ddangos mai adlewyrchu hanes a chysylltiadau cymdeithasol Pedr ei hun – fel yn achos pawb, wrth gwrs – wna ei ddewis o argraffwyr.