OCHENAID LENYDDOL gan Elwyn L.Jones

YSTRYDEB gysurus yw honni bod deall a goddefgarwch yn nodweddu pobl wrth iddynt fynd yn hŷn, eu bod yn tyfu mewn gras ac yn gallu ildio i hanfod pethau. Mae'n rhaid bod rhyw weddill bach anrasol yn dal i aflonyddu ar heddwch y graslonaf o ddynion. Erthyglau ymhonnus maith a barddoniaeth dywyll sy'n ddim mwy nag opiniynau neu ddyfaliadau awdur neu fardd a gyrhaeddodd fri aneglur; erthyglau a chaneuon nad oes ynddynt nac ysgolheictod na syniad newydd, - dyna nhw! Dyna'r ddau sy'n aflonyddu fwyaf ar fy mywyd i y dyddiau hyn.

Nid fy mod am funud yn tybio imi gyrraedd y dyfroedd tawel, grasusau'r blynyddoedd; awgrymu'n unig yr wyf fy mod innau fel y mwyafrif wedi tawelu ychydig. Eithr beth bynnag yw fy nghyflwr ysbrydol caf fod y ddau bechadur a nodais yn flinder a diflastod cynyddol imi.

"Small is beautiful" meddai Schumacher wrthym beth amser yn ôl, a'r cymal yn ein swyno ni i gyd. "Big is impressive" sy'n dderbyniol gan olygyddion rhai papurau dyddiol a chylchgronau erbyn hyn.

Gwell esbonio cyn cymhlethu pethau. Colli amynedd uwchben traethawd neu erthygl sy'n fwy na hyn a hyn o eiriau, a phrin dioddef o gwbl y darnau tywyll o glyfrwch sy'n stumio dyfnder barddonol; dyna fy mhroblem. Caf fy hun yn bodio dalennau'r erthyglau'n betrusgar ac yna'n darllen y penawdau'n unig cyn sbïo'n fras ar ddechrau, canol neu ddiwedd y peth, yn y gobaith o gael brawddeg neu syniad sy'n ddigon bachog i berswadio parhau gyda'r daith. Wedyn, ac yn reit amal, yn rhoi'r gorau i bethau gydag ochenaid.

Wrth gwrs, peth personol hollol yw hyn, cyffes ochneidiol os mynnwch, ond cyffes nad oes ynof rithyn o swildod wrth ei mynegi. I'r gwrthwyneb, caf fath o ollyngdod wrth wneud hynny, a chael fy hun yn dyfalu'n dawel bach fod cannoedd eraill o ochneidwyr yn distaw-lechu yn rhywle, yn diodde a digalonni am yr un rhesymau. Tybed faint?

***

EFALLAI mai syrffed wedi'r cyfan yw'r gwreiddyn, rhyw bigo dwfn ynof sy'n gwybod y gwir, gwybod nad oes ddim newydd i'w ddisgwyl mewn erthyglau maith, greddf yn rhybuddio fod y craidd yn debyg o fod yn hen gownt, yn ddigon hysbys, ond nawr yn gwisgo dillad modern, mwy lliwgar, ond salach eu hansawdd. Ac yna mae Amser yn gwasgu, gwasgu ar bawb ohonom, a'r gwybod annifyr hefyd, gwybod mai stwff bywyd ei hun yw hwnnw, defnydd lawer rhy ddrudfawr i'w fradu.

Pechod yn wir yw bwrw'n tennyn byr i gloddio am aur mewn mynyddoedd o eiriau gan wybod trwy'r amser na chawn yn y diwedd fwy na'r llygoden ddiarhebol, a honno'n hen hefyd.

Yr un mor euog â'i gilydd ydyw cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg yn y pechu yma. Bydd y papurau honedig dethol Saesneg, ynghyd â rhai o'n cylchgronau Cymraeg mwyaf parchus, yn cyhoeddi defnydd sydd ar adegau'n ddigon i dorri calon y darllenydd mwyaf hunan-gosbol. Nid meithder yn unig yw'r pechod, ond cymhlethdod a thywyllwch.

Efallai eich bod chwi, wedi'r cyfan, heb sylwi ar y drygau hyn sy'n fy mlino i neu, efallai bod ynoch aeddfetach gras. Dalen ar ôl dalen neu golofn ar ôl colofn, a'r ystyr yn cerdded i dywyllwch dyfnach gyda rhediad bob llinell. Pentyrru brawddegau ac, yn arbennig, is-gymalau astrus o fewn cromfachau diangen. Naw wfft iddynt oll.

Efallai'ch bod erbyn hyn yn pendroni a dyfalu! Beth yn y byd sy'n symbylu dyn fel hwn i ddinoethi ei ddiffyg amynedd fel hyn? Mae dau ateb. Y cyntaf yw'r teimlad a raddol dyfodd ynof ers amser fod mwynhad darllen hamddenol, darllen pethau cain neu sylweddol wedi eu mynegi'n gynnil yn prysur diflannu.

Yr ail ateb yw'r pwysicaf. 'Rwyf newydd bori eto ac eto yn rhai o lyfrau ac erthyglau R T Jenkins, a chael fy hun yn rhyfeddu bob gafael. Tybed yn wir a ysgrifennodd neb erioed Hanes mewn iaith mor risial-glir â'r gŵr yma? Hanes, mewn cwmpawd bychan cynhwysfawr, a diddorol hefyd. Testun rhyfeddod yn wir yn ein dyddiau hirwyntog ni.

"Neuadd fawr rhwng cyfyng furiau" ys dywedodd Waldo, ac mae rhywun yn hiraethu am weld R T J arall yn codi.

***

NID YW'N fwriad yn hyn o lith i ddyfynnu enghreifftiau na rhestru enwau'r 'pechaduriaid' mwyaf. Cyfle'n unig ydyw i chwythu ochenaid bersonol a lluddedig ar draws y geiriogrwydd diangen. Yn unig cynghoraf bobl i chwilio'u darllen eu hunain o'r newydd am y profion, ac yna ochneidient a hiraethent.

Ond eiliad o feddwl. Tybed wedi'r cyfan onid rhuthr a rhodres ein hoes sy'n prysur ladd disgyblaeth llenydda, fel y mae'n difa agweddau gwerthfawr eraill ar ein bywyd? Neu, ynteu, a ydwyf yn cymysgu pethau gan fod llenydda a newyddiadura, fe honnir, yn greaduriaid hollol wahanol, yn anghymarus, y naill yn cynio craig tra'r llall ond yn naddu menyn, twmpathau mawr o fenyn hefyd. Efallai'n wir, ond mae lle i amau.

Cyngor hen athro hoff i ddosbarth ohonom unwaith, "Mae tair rhan i'r defnydd a ysgrifennwch – rhagarweiniad, corff canol a diweddglo. Wedi i chi orffen eich campwaith darllenwch y peth eto, ac eto, ac eto, yna ewch ati i ddifodi'r rhagymadrodd, cribwch y corff canol yn fân a bydded y diweddglo'n ddim mwy na chrynodeb o'r hyn oedd i gynnwys eich rhagymadrodd. Efallai y cewch wedyn ei fod, ar ei orau yn ddarllenadwy, ar ei waethaf yn ddefnydd da i'r tân."

Dywedais hyn wrth gyfaill o newyddiadurwr dro'n ôl, "Ond bachan, petawn i'n dilyn cyngor fel 'na fe lwgwn. 'Rwy'n cael fy nhalu wrth y golofn" oedd ei ymateb. Wrth gwrs, 'does dim angen esbonio mai i bapur Saesneg yr ysgrifenna a'i fod yn gyfaill i olygydd arbennig.

A dyma ddod i'r craidd, yn sydyn ac annisgwyl. Llais bach yn fy nghlust yn sibrwd "Gallet ti dy hun fod wedi naddu tipyn ar y llith hon hefyd!" Syndod! Na, 'dyw'r peth ddim yn bosib. Onid wyf bob amser yn glir fel dŵr ffynnon?

A sibrwd bach arall. . . bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun . . ." Mae'n debyg felly mai pechaduriaid llenyddol ydym oll yn y bôn, ond bod rhai yn pechu'n fwy na'i gilydd – llawer mwy.

Diogel yw'n cenhedlaeth ni bellach yn llyffethair nosol y ffatri bictiwrs, a hynny ar draul darllen. Proses anochel ydyw, a diadlam. Yn wyneb dengarwch llun a lliw, defnydd darllen anystwyth, syniadaeth gymhleth ac agwedd grintach a philistaidd y llywodraeth bresennol yn bygwth trethu pob darllen, tybed yn wir oni wawriodd arnom, yn ddiarwybod inni, ddydd tranc yr ysgrifennu cynnil, diflaniad gwarineb llenyddol?