LLAFUR CALED CYHOEDDI'R BEIBL MAWR ~
Y Doctor (Derec Llwyd) Morgan yn cofio

GAN EIN bod eisoes wedi dechrau'r dasg o ddathlu Pedwar-canmlwyddiant Beibl William Morgan – cafwyd cyfarfodydd ynghynt eleni yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Thyddewi – nid yw'n amhriodol inni nodi rhai o'r amodau yr oedd yr hybarch ddoctor yn gweithio odanynt. Nid ystyried ei gamp, – dim ond ei amgylchiadau.

Bedwar can mlynedd i'r Nadolig hwn, yn 1586, gŵr un-a-deugain oed oedd William Morgan. Enillasai bedair gradd o Brifysgol Caergrawnt; ac er mai trwy gwrdd â gofynion statudol neu ffurfiol y cafodd ddwy ohonynt (gan gynnwys ei ddoethuriaeth), na feddylied neb am fychanu ei gyraeddiadau academaidd: yr oedd mab Tŷ Mawr y Wybrnant yn ysgolhaig clasurol ac yn ysgolhaig Hebraeg o'r iawn ryw. Yr oedd hefyd, drwy'i lafur didiwtor ei hun, wedi prifio'n feistr ar ei famiaith ei hun.

Buasai mewn urddau eglwysig er deunaw mlynedd. Er pedair blynedd ar ddeg buasai'n gweithio fel ficer plwyf, yn Llanbadarn Fawr i ddechrau, ac er 1578 yn Llanrhaeadr, lle cafodd fwy na'i siâr o drafferthion gyda rhai o'i blwyfolion.

Nid gŵr diddan a ymlafniai gyda Hebraeg a Chymraeg yr Hen Destament yn y plwyf hwnnw – ond rhan o'i gamp yw ei fod, mewn unigrwydd ymhell o'r Brifysgol a roesai iddo bob cymorth wrth law, wedi mynnu mynd â'r maen i'r wal.

Ni ŵyr neb erbyn hyn pa bryd y dechreuodd gyfieithu'r Beibl. Maentumiodd rhai iddo ddechrau o dan anogaeth yr Esgob Richard Davies yn fuan wedi iddo fynd i Sir Aberteifi. Mynn eraill ddweud nad aeth ati tan iddo ymsefydlu yn Sir Ddinbych. "

***

YR HYN sy'n wybyddus yw fod Pumllyfr Moses yn barod ganddo ar gyfer y wasg erbyn 1583, oblegid y mae'n dweud yn y "Cyflwyniad" i'r Beibl Cysegr-lân na fyddai "wedi gallu gweld argraffu dim ond y Pumllyfr oni bai iddo, yn y flwyddyn honno, dderbyn anogaeth gan John Whitgift, Archesgob Caergaint, i 'barhau gyda'r gwaith'.

Rhaid bod yr anogaeth honno'n anogaeth ysbrydol ac ymarferol: `fe'm cynorthwyodd', ebe Morgan, 'A'i haelioni, ei ddylanwad a'i gyngor'.

Dichon i Whitgift ddweud wrtho, ymysg pethau eraill, y dygai'r Eglwys y draul o argraffu'r Beibl, traul na allai offeiriad di-gefn fyth freuddwydio am gwrdd â hi.

Efallai i Whitgift hefyd ddweud na fyddai eisiau i Morgan ofidio gormod am gael caniatâd i gyhoeddi'i waith. Cofier bod y Ddeddf a basiodd Senedd Elisabeth yn 1563 yn gorchymyn esgobion Cymru a Henffordd i baratoi Beibl Cymraeg yn ddi-rym er ugain mlynedd.

A chan fod llawer o flaenoriaid y deyrnas o'r farn mai da o beth fyddai ei gwneud hi'n deyrnas uniaith, yr oedd o leiaf yn bosibl y gwrthodid trwydded i argraffu Beibl Cymraeg. (Mae'r drafodaeth a geir yn y "Cyflwyniad" ar yr egwyddor hon yn ddarn o ysgrifennu grymus a diplomatig.)

Er hyn, mae'n anodd gennyf i dderbyn y farn na wyddai Morgan a oedd am gyfieithu'r Beibl i gyd tan ar ôl 1583. Yn y "Cyflwyniad" trafoda gyfieithu `gweddill yr Ysgrythurau' (h.y. yr Hen Destament) cyn sôn am 'weld argraffu ond yr Pumllyfr'.

***

TA BETH am hynny, erbyn y Nadolig 1586, yr oedd wedi Cymreigio'r rhan helaethaf o'r Hen Destament. Dichon iddo fynd ati wedyn i ddiwygio Testament Newydd 1567, gan symleiddio'r orgraff a symleiddio'r iaith yr oedd William Salesbury wedi'u defnyddio.

Yna yr oedd eisiau cymhennu'r cwbl, – a gwneud trefniadau i argraffu a chyhoeddi'r gwaith, tasg ddigon trafferthus ynddi'i hun.

Efallai ei bod yn ymddangos i ni yn fwy trafferthus nag ydoedd, mewn gwirionedd, i Morgan ei hun, achos mewn cymhariaeth y gwelwn ni waith oes arall yn galedwaith.

Ac eto, 'doedd hi ddim yn hawdd. Yr oedd teithio yn anodd. Er bod y pedair priffordd Rufeinig a'u rhwydwaith o ffyrdd dibynnol, llai, ar gael o hyd, yr oedd y ffyrdd croes a grëwyd gan fasnach a phererindodau'r Oesoedd Canol bellach wedi'u briwa: gwaith llafurus iawn oedd teithio o Lanrhaeadr i Lundain, yn enwedig yn y gaeaf (a gwyddys mai ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 1587 y teithiodd y cyfieithydd i'r brifddinas.)

Ychydig o blwyfi a dalodd y sylw dyledus i'r statud a fynnai (yn 1555) eu bod yn trin a thrwsio'u ffyrdd. Ond yr oedd y lletyau ar y ffyrdd yn helaeth a digonol. Meddai William Harrison yn ei Description of England a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn honno: "Gall pob dyn ddefnyddio'i dŷ tafarn fel ei dŷ ei hun, yn Lloegr."

Mae'n bur debyg i Morgan gario'i lawysgrif – llwyth go drwm – yn ei bac, a'i gwarchod yn dra gofalus. Bychan ddigon oedd y llyfrau (prin, prin) a gyhoeddasid yn Gymraeg cyn hyn. Yr oedd cyhoeddwr y Beibl yn fentrwr mawr, felly.

***

NI WYDDOM a oedd Morgan wedi trefnu manylion ei gytundeb â'r argraffwasg ymlaen llaw ai peidio. Ond lled debyg ei fod wedi trefnu'i lety. O dan nenbren Gabriel Goodman, cymwynaswr cystal â'i enw, brodor o Ruthun a Deon Westminster er 1561, y cysgai.

Pe bai wedi dewis lletya gyda'i noddwr, yr Archesgob, buasai'n rhaid iddo groesi Afon Tafwys at ei waith, croesi naill ai mewn cwch neu dros Bont Llundain, yr unig bont a geid yn y ddinas yn yr oes honno, - pont ugeinarch, gaeedig, ac arni nifer helaeth o dai a siopau. Ond ar draws Llundain, o'r dwyrain i'r gorllewin, yr oedd ffordd dda, o Cheapside hyd at Holborn.

Ger Abaty Westminster y sefydlwyd y wasg gyntaf a welodd Llundain, ychydig dros ganrif ynghynt, yn 1476. Erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd y gweisg wedi crynhoi o gwmpas Mynwent S. Paul, er bod rhai bellach wedi'u sefydlu yn Stryd y Fflyd.

Cwynai John Stow yn ei Annales of England (1601) fod adeiladu di-drefn y maestrefi yn anharddu ymylon Llundain – ond amgylchynid y ddinas o hyd a meysydd ac â dolydd; er, yr oedd canol y ddinas eisoes yn dyrfus gan adeiladau a phobl. Hi, ebe John Lyly yn 1579, oedd `stordy a marchnad Ewrop oll'.

***

O! NA chai darllenwyr diddorus Y Casglwr gip ar Morgan wrth ei waith - yn mynd â'i gyfieithiad fesul tipyn o'r Deondy i'r argraffdy. Gŵr o brinter o'r enw Christopher Barker a gafodd y drwydded i'w argraffu, ond nid ef a'i gwnaeth, eithr rhyw ffyrm a ddirprwywyd at y gwaith ganddo.

Gweithwyr y ffyrm honno yn gosod y teip, yn argraffu proflenni, Morgan yn eu cywiro, y cysodwyr yn ail-osod teip ac yn argraffu eilwaith, blât ar y tro, a Morgan eilwaith yn rhedeg ei lygaid trosto - gwaith manwl, blinderus, cyson: yr argraffwr yn anghyfarwydd â'r Gymraeg, a Morgan (ar y dechrau, ta beth) yn anghyfarwydd â dulliau'r wasg.

Ond, wrth gwrs, yr oedd yr antur - er ei dieithred - yn antur na cheid ei anrhydeddusach, canys dwyn, o ddalen i ddalen, Air Duw yn nes at ei bobl yr oedd y cyfieithydd, cynorthwyo mewn gwaith a oedd yn cyflawni breuddwyd cenhedlaeth wych o ddyneiddwyr Protestanaidd.

Yr oedd gan yr Almaeneg ei Beibl er 1534, yr oedd gan y Saesneg ei Beibl er 1535/1539; yr oedd gan ieithoedd 'bychain' Feiblau hefyd, e.e. y Swedeg er 1541 a'r Ddaneg er 1550. Yn awr, yr oedd y Beibl Cymraeg ar ei ffordd.