HEN GYFROLAU COFFA gan E.D.Jones
DIDDOROL iawn yw cyhoeddiadau coffa a gyhoeddir yn breifat. Yr enghraifft fwyaf nodedig yn fy nghasgliad i yw'r gyfrol goffa a argraffwyd yn breifat gan Wasg Gregynog, i Elphin, mab ieuanc Thomas Jones, C H, yn 1929. Bu farw y plentyn disglair mewn canlyniad i ddamwain yn Rhagfyr 1928.
Yn ychwanegol at deyrngedau gan ei rieni, atgynhyrchwyd ffacsimili o'r traethawd hunan-fywgraffiadol a ysgrifennodd y bachgen deuddeg oed ar gais ei athro ysgol ryw dri mis cyn y ddamwain angheuol.
Mae mwy o ddirgelwch mewn cyfrol arall a brynais oddiar un o'r blychau hynny y mae llyfrwerthwyr ail-law yn eu gosod allan o flaen eu siopau. Ni allaf basio un o'r rheiny heb dwrio drwyddynt, ac felly y cefais y gyfrol gwarto denau hon mewn clawr glas tywyll gyda'r llythyren D mewn aur ar wyneb y clawr. Wedi ei hagor cael y ddalen deitl 'Dilysia. A threnody on the death of the poet's wife after childbirth wherein is shown by occasion the union of English and Italian verse and the Christian philosophy of suffering is expounded.'
Yn y cyflwyniad gan y bardd rhoir dyddiadau Dilysia Thomas. Fe'i ganwyd ar 19 Ebrill 1910, a bu farw ar 16 Awst 1938, a dyna'r cyfan amdani. Mae'r enw yn awgrymu Dilys a chysylltiadau Cymreig. Pwy oedd hi a phwy oedd ei gŵr? Tybed a oes gan rywun oleuni ar y dirgelwch?
Argraffwyd y gyfrol 32tt. ar bapur Abbey Mills, Greenfield, cysylltiad Cymreig arall, ond gan Billing and Sons Ltd, Guildford yr argraffwyd hi. Rhif 83 o argraffiad preifat o 200 copi yw hi.