DYMA PWY OEDD EGWISYN ~ Huw Walters yn egluro
CYHOEDDWYD llythyr o eiddo Mr E Vaughan, Llandyrnog, yn rhifyn y Nadolig, 1985 o'r Casglwr, yn holi am awdur y llyfryn Barddoniaeth Egwisyn a ymddangosodd o wasg D W Davies, Caernarfon yn ystod saithdegau'r ganrif ddiwethaf. Deuthum ar draws rhai cyfeiriadau at y bardd yn ddiweddar a all fod o ddiddordeb i'ch darllenwyr.
Ymddengys fod Egwisyn – Rowland Whittington, yn frodor o Benegoes ger Machynlleth, lle codwyd ef i bregethu yn eglwys Wesleaidd Bethesda. Dechreuodd bregethu yn Awst 1844 yn Nhre'rddôl, Cylchdaith Aberystwyth, a galwyd ef i'r weinidogaeth ddeng mlynedd yn ddiweddarach yn Awst 1854 yng nghynhadledd talaith y gogledd, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon y flwyddyn honno.
Ymddengys iddo wasanaethu eglwysi'r Wesleaid yn Amlwch, Dolgellau a Thywyn. Mae ei enw'n diflannu o gofnodion cyfarfodydd taleithiol y gogledd ar ôl 1859, eithr yn ôl Minutes of the Methodist Conferences, 1862, (t.412) yr oedd ymhlith pump o weinidogion Wesleaidd a ddiarddelwyd gan yr enwad rhwng 1858 a 1860.
Ni cheir ond un frawddeg amdano ym mhedair cyfrol Hugh Jones Hanes Wesleyaeth Gymraeg (t.1234) lle dywedir mai yn eglwys Bethesda, Penegoes y codwyd ef i'r weinidogaeth. Yn ôl T Jones-Humphreys - Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig, (Treffynnon 1900), t. 140, bu'n 'llafurio'n dra chymeradwy' fel gweinidog am rai blynyddoedd cyn gadael y weinidogaeth. Ymhellach: `yn mhen amser ymfudodd i'r America, ac yno y bu farw'.
Ni ddywedir paham y diarddelwyd ef gan ei enwad, ond deuthum ar draws cyfeiriad diddorol ato pa ddydd yn y gyntaf o ddwy ysgrif gan Lewis Jones, y Rhyl – 'Hanes Newyddiaduron Eglwysig; Ffeithiau ac Atgofion' a gyhoeddwyd yn Y Llan, 2 Awst 1929. Yno dywedir iddo olynu Hugh Williams (Cadfan) fel golygydd Y Dywysogaeth ym 1870:
- ". . . Yna cafwyd gwasanaeth Mr Rowland Whittington (Egwisyn) i lanw y bwlch;
yntau hefyd
a'i gartref yn Nhywyn, Meirion. Am ryw nifer fechan o fisoedd y bu ef ynglŷn â'r gorchwyl.
Buasai yn weinidog Wesleyaidd, ond yn helynt y fly-sheets aeth yn un o'r Wesle Bach, a bu
yn gweinidogaethu i gynulleidfa yn Aberystwyth am amser. Digon helbulus fu ei fywyd wedi
hynny. Y tro diwethaf y gwelais ef areithiai ar ddirwest ar lawnt, gerllaw neuadd y dref.
Wedi i'r het fynd o gwmpas, aethom i gael sgwrs dros wydraid o gwrw bob un. Ymfudodd i'r
America, a bu farw yn y Taleithiau . . ."
Yn ystod y blynyddoedd 1844-1848 y bu helynt y fly-sheets y cyfeiria Lewis Jones atynt - pan ddosbarthwyd pedwar o draethodau dienw yn dwyn y teitl Fly Sheets from the "Private Correspondent" ymhlith gweinidogion y Wesleaid.
Perthynai awduron y traethodau i blaid y 'Wesleyan Reformers' a wrthryfelodd yn erbyn gormes y gynhadledd Wesleaidd, a pharodd yr helynt a ddilynodd rwyg mawr yn rhengoedd yr enwad am flynyddoedd lawer. Ni lwyddais i gysylltu Egwisyn â'r helyntion, ond dichon mai'r digwyddiadau hyn a arweiniodd at ei ddiarddel ym 1859-1860.
Mae'n debyg iddo ymfudo i'r Taleithiau Unedig tua'r flwyddyn 1876 yn fuan wedi cyhoeddi Barddoniaeth Esgwisyn. Mae'n werth nodi hefyd i'w araethawd, sy'n dwyn y teitl Y gwrthryfel yn India ymddangos o wasg Catherine Jones yn Nolgellau ym 1858. Cyfieithiad yw'r gwaith hwn o eiddo William Arthur a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The London Quarterly Review ym 1857.
Ni wyddys beth a ddaeth o Egwisyn ym America, ac ni wyddys pa bryd y bu farw chwaith.