COFIO'R ERYR GWYLLT gan D.Ben Rees

UN O'R cofiannau diddorol a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y Cofiant a luniwyd gan y Parch Griffith Parry, Aberystwyth i'r emynydd a'r bardd alltud a adnabyddid ymhlith Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg Llundain fel Eryron Gwyllt Walia (1803 - 1870).

Enw'r Cofiant yw Cofiant a Chasgliad y Parch Robert Owen Llundain ac fe argraffwyd y gyfrol gan John Roberts yn Chapel Street, Salford a'i gyhoeddi yn 1880. Ceir pennod gan y Parch D Charles Davies, Llundain, atgofion a llythyr gan ei gyn-weinidog y Parch Ddr. Owen Thomas (taid Saunders Lewis) ac atgofion J W Jones.

Hanai Robert Owen o Baladeulyn ger Tal-y-sarn, yn Nyffryn Nantlle ac fe'i ganwyd yn y Ffridd ar 3 Ebrill, 1803. Symudodd i Lundain yn un-ar-hugain oed i weithio fel paentiwr a dilynodd ei grefft hyd 1865.

Mae'r Cofiant yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf am y casgliad o'i waith barddonol a'i emynau, rhai ohonynt yn emynau cyfoethog iawn. Credaf yn bersonol fod ei emyn 'Hwn ydyw'r dydd y cododd Crist' yn un o emynau mwyaf eneiniedig ein hiaith ar thema Atgyfodiad Crist.

Ac yn ail y mae gwerth arbennig yn y gyfrol oherwydd y llythyron i'w deulu yn Baladeulyn rhwng 1824 a 1832.

***

CEIR darlun byw yn y llythyron hyn o'r pellter oedd rhwng Llundain a Dyffryn Nantlle, y gwahaniaeth rhwng byw ym mhentref Croydon tua deng milltir o Lundain a byw mewn tref gymharol fechan fel Caernarfon. Dyma brofiad Eryron Gwyllt Walia ar ddechrau ei drigias yn Llundain:

"Yma gall fod cymydog yn byw yn y tŷ nesaf i ni (yn 1825), heb i mi gael cymaint ag un olwg arno yng nghorph deng mlynedd o amser: pryd y gallwch chwi wybod agos pwy a driga ym mhob ystafell, o bob tŷ, ym mhob heol, trwy bob parth o ryw bentref bychan fel eich tref chwi."

Diddorol hefyd yw'r darlun a gawn o radical Cymraeg sy'n ffieiddio'r Llywodraeth.

Er iddo ysgrifennu yn ddiweddarach englynion coffa i'w osod ar feddrod yr Arch-Dori, John Elias, fe sgrifennodd hefyd englynion coffa i Joseph Harris, gŵr mwy blaengar o lawer. Cefnogodd Robert Owen ac fel cymaint o arweinwyr bywyd Cymraeg Llundain, y Diwygiad Seneddol, ac mewn llythyr pwysig dyddiedig 2 Mai, 1831 gesyd y ddadl yn chwyldroadol iawn. Dyma a ddywed y gŵr a ddaeth maes o law yn Ysgrifennydd Cyfarfod Misol Llundain:

"Cyn y bydd i'r wlad ymostwng eto i gael ei llywodraethu gan y Bwrdeisyddion, cyfoda mewn gwrthryfel diarbed yn eu herbyn, ac o'm rhan fy hun, gwell gennyf wisgo arf rhyfel, a bod hyd fy ngliniau yng ngwaed y lladdedigion, yn hytrach nag ymostwng i'w llywodraeth uffernol yn hwy."

Gem o ddyfyniad, ac yn wir y mae'r cofiant drwyddo yn dadlennu cryn lawer am oes Fictoria a chyfraniad y bardd-bregethwr Eryron Gwyllt Walia i'r oes honno.