CANU'R "CYMRU COCH" ~ Meredydd Evans yn pori

I'R SAWL sy'n ymddiddori mewn llên gwerin, hen gerddi a chaneuon gwerin, mae CYMRU O.M. Edwards yn chwarel gynhyrchiol i gloddio ynddi. Dyma rai enghreifftiau o faes canu gwerin yn gyffredinol.

Bûm yn gyfarwydd â'r gân ' Wrth fynd hefo Deio i Dywyn' ar hyd fy oes, am 'wn i. Yn sicr, 'does gen i gof yn y byd pa bryd yn union y dysgais hi; y tebygrwydd yw imi ei chodi ar fy nghlust pan oeddwn yn hogyn ar yr aelwyd gartref yn Nhanygrisiau. Cyd-dyfodd â mi.

Ac yn wir, mi dyfodd rywfaint dros y blynyddoedd; o leiaf, deuthum i wybod ymhen amser bod mwy o benillion yn perthyn iddi na'r nifer a arferai fy mam eu canu.

Tybiwn hefyd, a minnau'n blentyn, mai'r Brithdir ger Dolgellau oedd y lle a enwid yn y pennill cyntaf. Rhaid fy mod yn ddioglyd iawn fy meddwl. Pwy fyth a fyddai'n ddigon diamcan i gychwyn o'r fan honno, teithio trwy Fwlch Oerddrws i ardal Mawddwy, cyn troi'n ôl ar hyd yr un ffordd, heibio ffermdy Gwanas ac yna i lawr bwlch Tal-y-llyn i gyfeiriad Abergynolwyn?

Erbyn heddiw gwn yn amgenach. Pe bawn, bryd hynny, wedi digwydd edrych yn rhifyn XI cylchgrawn O.M., byddai Henri Myllin wedi'm goleuo. Dyma ddyfyniad o dudalen 277:

Erbyn imi ddarllen ysgrif Henri Myllin gwyddwn mai Iago Mochnant oedd awdur y geiriau (diolch i'm cyfaill gwybodus D. Roy Saer) ac nad Brithdir, Meirion, oedd Brithdir y gan, ond roedd enw iawn y 'Mistar Jôs a anfonodd ddau ar daith i Dywyn yn newydd sbon imi. A bonws annisgwyl oedd deall bod yr Iago ei hun yn hawlio gwybod rhywfaint am ysbrydion!

Y cam nesaf fydd lleoli'r ddadl yn yr Eurgrawn. Tybed a allai un o ddarllenwyr Y Casglwr fy nghyfarwyddo?

***

GAN AROS gyda Iago Mochnant cystal imi gyfeirio ymhellach at benillion eraill a briodolir iddo yn Cymru: rhifyn XII y tro hwn (t.41). Ymddengys i ŵr, a'i galwai ei hun 'Ceunantog', anfon llythyr at y golygydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am Iago Mochnant; fe'i cafodd gan J. Griffiths a fu ar un adeg yn glochydd yn Llanrhaeadr:

Llithriad ar ran y clochydd oedd y cyfenw 'Morris' mi dybiwn; a gresyn i Geunantog yntau lithro wrth fethu â chofio'r alaw. Y gwir yw bod y geiriau hyn, ynghyd a rhai penillion ychwanegol, wedi ymddangos yng Nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Cymru (Cyfrol II, t.57) i'w canu ar yr alaw a adwaenir yn arferol fel 'Robin Ddiog'.

Yno dywedir i'r golygydd glywed canu'r gân am y tro cyntaf yn Ne Arfon ac iddi gael ei chyhoeddi'r waith gyntaf gan Alafon yn Cymru'r Plant. Hyd yma ni fûm ar ei thrywydd yn y cylchgrawn hwnnw.

Unwaith yn rhagor, tybed a ŵyr un o ddarllenwyr Y Casglwr ym mha rifyn y dylwn edrych amdani?

Yn y cyfamser mae'n debyg y gellir derbyn mai Iago Mochnant biau'r geiriau; ond cystal nodi, gyda llaw, bod peth gwahaniaeth rhwng dau bennill y clochydd a'r rhai a gyhoeddwyd gan J.Lloyd Williams.

***

UN O fy hoff garolau Nadolig yw 'Roedd yn y wlad honno' ond ni wyddwn pwy oedd awdur y geiriau hyd nes imi ddarllen amdano yn Cymru, rhif XVII (tt.254-6). Yn y fan honno ceir y garol yn ei chyfanrwydd a, hyd y gwn, dyna'r tro cyntaf i'r geiriau gael eu hargraffu'n gyflawn. Fe'u hanfonwyd i'r golygydd, ynghyd â rhai o gerddi eraill yr un prydydd, gan ŵr o'r enw W. Ryder, a drigai ar y pryd yng Nghaerludd.

Ond mae'n amlwg iddo dreulio cryn dipyn o'i amser yn Ardudwy lle casglodd, meddai, ran helaeth o waith un a ddisgrifir ganddo fel 'hen fardd gwledig'. Y bardd dan sylw oedd John Richards, neu Sion Ebrill, a dreuliodd ei oes yn Mhenygarth, ger Llanbedr, Ardudwy, ac a fu farw, yn ôl amcangyfrif W. Ryder, rywbryd yn nhridegau neu bedwardegau cynnar y ganrif ddiwethaf.

Dengys y cerddi a gyhoeddwyd yn Cymru fod Sion Ebrill yn dra chyfarwydd â chonfensiynau barddonol ei gyfnod, a chân yn eithaf syml a chlir, heb ganiatáu i'r gynghanedd ormesu arno. Dyma fo ar ei orau;

Gellir casglu o'r byrdwn i'r garol sy'n cynnwys y llinellau hyn, carol fwyaf adnabyddus y prydydd, ei fod yn brotestant ac eglwyswr selog; a'r un byrdwn a ddyry ddyddiad y garol inni: 1792.

Ymddengys iddo hefyd gyfansoddi marwnad i ddau frawd a foddwyd oddi ar arfordir Ardudwy yn 1821 ond, ar wahân i ambell ddyddiad penodol fel hyn, main iawn yw'r wybodaeth amdano, hyd y gwn i. Byddai unrhyw oleuni pellach ar ei hynt yn dra derbyniol.

A phwy tybed, oedd W. Ryder? Beth a ddaeth o'i gasgliad o waith Sion Ebrill? Rhown lawer am gael golwg ar hwnnw.

***

O hyn i'r diwedd carwn ymdrin â dau bennill a welir yn y golofn 'Holi ac Ateb' yn Cymru, rhif XXXVII, t.94:

Mynnai'r holwr gael gwybod pwy oedd yr 'Harri' dan sylw a phwy a wahoddai'r cantorion. Methais â darganfod atebion mewn rhifynnau diweddarach ac felly fe'm bwriwyd ar fy adnoddau fy hun. Pwy oedd yr Harri hwn; pwy hefyd y datgeiniaid?

Yn Hen Benillion (T.H.Parry-Williams) cefais nad oedd ond y pennill cyntaf wedi ei nodi, a hwnnw ar ffurf gryn dipyn yn wahanol:

Ond yr oedd hwnnw'n awgrymog gan ei fod yn defnyddio'r gair 'ymryson', fel pe bai'r gwahoddwr yn synio am Ganu Cylch. Sut bynnag, mae'r penillion hyn yn tystio'n bendant i boblogrwydd canu penillion mewn rhan o Arfon. Ond ym mha gyfnod ac ym mha ran o'r sir yn union?

Codais y cwestiynau hyn un pnawn Sul yn ddiweddar, a minnau'n digwydd bod ar aelwyd groesawgar fy nghyfeillion Guto a Marian Roberts, yng Nghapel Ucha Clynnog. Ar unwaith dyma ddechrau estyn cyfrolau o'r silffoedd a chyda chymorth y ddau dechreuwyd bwrw peth goleuni ar y dirgeledigaethau.

Pwy oedd Harri? Y ffynhonnell gyntaf i droi iddi oedd Llyfr Cerdd Dannau (Robert Griffith) a chael yno bod gŵr o'r enw Harri Parry yn blodeuo fel telynor yn sir Gaernarfon tua dechrau'r ddeunawfed ganrif; ond ni chysylltid hwn yn benodol â Llanllyfni.

Serch hynny, wrth gwrs, gallai fod yr un â Harri'r pennill gan mai sôn y mae hwnnw am rywun a 'ddêl' gyda'i delyn i bentref Llanllyfni.

Tybed a ellid cael cyfeiriad manylach nag un Robert Griffith? Fe gafwyd un; hynny yn Cymru, rhif LX, tt.46-7. Yn ôl tystiolaeth Robert Williams, Llanbedrog, telynor a anwyd tua 1800, cysylltid dau Harri â Llanllyfni yn benodol:

Dyma ddod â ni yn nes yrŵan at Harri'r pennill, 'does bosib. Ond pa un o'r ddau yma ydoedd ac a ellid gosod dyddiad, neu fras-ddyddiad, ar ei gyfer?

***

YNG nghofiant Michael Roberts, sy'n cynnwys bywgraffiad byr o'i dad, John Roberts, Llangwm, mae cyfeiriad at 'Harri y Telynwr'. Yn ffermdy'r Ffridd, Baladeulyn, y magwyd John Roberts (1753-1834) ac i eglwys y plwyf, Llanllyfni, yr arferai fynd pan oedd blentyn.

Y pryd hynny, tua chanol y ddeunawfed ganrif ac, yn wir, mewn blynyddoedd blaenorol, ymddengys bod bywyd cymdeithasol yr ardal, gyda'r diwydiant copr yn Nrws y Coed a'r diwydiant llechi yn chwarel Y Cilgwyn, yn un bywiog dros ben.

'Roedd deuddeg o dafarndai i'w cael rhwng Drws y Coed a Llanllyfni ac yn un o'r rheini, yn y Talyrni, y treuliodd Marged Uch Ifan flynyddoedd cynnar ei hoes; hyhi, wrth gwrs, yn enwog am ei champau ar y delyn ac am sawl gorchest gorfforol.

Sonia Michael Roberts yn y bywgraffiad i'w dad am rai o'r gorchestion hyn ac am y chwaraeon, y nosweithiau llawen, y neithiorau, ac ati. Dyma ddyfyniad sy'n berthnasol i ni:

Dyma Harri, y tad, mae'n siŵr. Daw hyn â ni i flynyddoedd canol y ddeunawfed ganrif. Ac atgyfnerthir hyn oll gan gyfeiriad at delynor a geir yn un o goflyfrau eglwys y plwyf, Llanllyfni, sy'n nodi enwau rhai o grefftwyr yr ardal yn y cyfnod 1744-52.

Deuthum ar draws y wybodaeth hon mewn ysgrif gan y Parchedig Gwynfryn Richards dan y pennawd 'Crefftau a Diwydiant Dyffryn Nantlle' a gyhoeddwyd yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol XXXI, 1970. Dyma'r cyfeiriad: 'Henry Robert Parry Harper'. Tybed, gyda llaw, a oedd yn fab i, neu bod cysylltiad teuluol rhyngddo a Robert Parry, y dywedir iddo fod yn athro telyn i John Parry Rhiwabon?

Beth bynnag am hynny ni ellid bod yn siŵr eto mai'r Harri arbennig hwn oedd Harri yr hen bennill. Y cyfan y gellid bod yn weddol siŵr yn ei gylch oedd bod yna ryw Harri neu'i gilydd yn delynor a drigai ym mhlwyf Llanllyfni tua chanol y ddeunawfed ganrif. Y cam nesaf oedd ceisio lleoli rhai o'i datgeiniaid, a phennu dyddiad ar eu cyfer nhw, os yn bosib.

***

A BWRW mai ffurf ar 'Drws y Coed', ger Llyn y Dywarchen, oedd 'Ddrwsgoed' yn y pennill, mai William Griffith, a ddaeth i fyw yno yn 1744 ac a fu'n noddwr i'r Morafiaid yng Ngwynedd, oedd 'Wiliam' y pennill; a'i fod, ymhellach, yn ddatgeiniad; gellid yn weddol hyderus gasglu mai Harri, y tad, oedd Harri'r pennill.

Ond 'roedd cynseiliau yr ymresymu hwn braidd yn rhy fregus. A phur anobeithiol oedd cael trywydd ar Rhisiart, Rolant, Ifan a Dafydd; er bod lleoliad daearyddol y tri olaf yn eithaf amlwg.

Cawsom daro deuddeg gyda `Gruffydd Isalltgoed' ac i Guto, a fagwyd yn Isallt, Cwm Pennant, y bu'r diolch am hynny! Yn nes ymlaen yn y gyfrol a gynhwysai'r penillion dan sylw digwyddodd daro ar erthygl gan Alltud Eifion, disgynnydd o deulu meddygol enwog Isallt Fawr, ar 'Beddgelert a'i Enwogion'. Cyfeiria ef at Isallt, hefyd, fel 'Is-allt-goed' ac 'Isalltgoed'. Dyna'r lle felly.

Ymhellach, yr oedd yno Gruffydd, sef Griffith Roberts (mab Robert Roberts, o'i wraig gyntaf) a sefydlodd yn nes ymlaen fel meddyg yn Nolgellau. Ganwyd y Gruffydd hwn yn 1735 a bu farw yn 1808. Fel casglwr hen lawysgrifau Cymraeg y cofir amdano'n bennaf erbyn hyn ond, yn ôl Alltud Eifion yr oedd hefyd 'yn un o'r datganwyr goreu gyda'r delyn yn Sir Gaernarfon'.

Ar sail hyn oll credaf nad awn ymhell o'm lle ped awgrymwn bod awdur y penillion tri-thrawiad hyn yn cyfeirio at Griffith Roberts, Isallt; hynny cyn i'r gŵr hwnnw ymsefydlu yn Nolgellau. Ni wn pa bryd y bu hynny – dyna fater i ymchwilio rhagor yn ei gylch – ond dichon y byddai'n weddol ddiogel i ddyddio'r penillion rhwng tua 1750 a 1765. Byddai Gruffydd bryd hynny rhwng 15 a 30 mlwydd oed ac wedi cael amser felly i sefydlu ei hun fel canwr penillion o bwys yn y sir.

I grynhoi: arwyddocâd yr hen benillion hyn yw eu bod yn tystio i boblogrwydd canu gyda'r tannau yn y rhan honno o Arfon sy'n gorwedd rhwng Abergwyngregin yn y dwyrain, a Chwm Pennant yn y de, tua chanol y ddeunawfed ganrif. Da eu cael.

***

A MINNAU ar fin cwblhau hyn o ysgrif bernais y byddai'n ddiddorol imi gael mwy o wybodaeth, os yn bosibl, am rai o'r enwau lleoedd a nodir yn yr ail bennill. Euthum i lygad y ffynnon, at yr Athro Bedwyr Lewis Jones a'i gael, fel bob amser, yn barod i gynorthwyo. 'Drwsgoed' a 'Ffriddgoed' oedd yn fy mhoeni fwyaf.

Fe gofir imi gyfeirio'n gynharach at hen dŷ Drws y Coed, ger Llyn y Dywarchen, ond dysgais bellach bod lle arall o'r un enw ym mhlwyf Llandwrog. Tybed ai hwn oedd 'Drwsgoed' y pennill?

Erys 'Ffriddgoed' yn ddirgelwch. Ymddengys bod lleoedd o'r enw hwnnw – ffurfiau perthynol arno, o leiaf – i'w cael yn Llangywer, Trawsfynydd a Llanrhaeadr-yng-Ngheinmerch, ond ni wna hyn mo'r tro; nid ydynt o fewn ffiniau Arfon.

Ond beth am 'Ffridd'? Efallai bod y prydydd, dan ddylanwad ei fesur tri-thrawiad, wedi ychwanegu sillaf at yr enw er mwyn ei gael i odli A 'Drwsgoed' ac 'Isalltgoed'. Os felly rhesymol a fyddai ceisio taro ar 'Ffridd', rywle yng nghyffiniau Llanllyfni, ac y mae mwy nag un i'w chael. Mewn lle o'r enw hwn, fel y gwelsom, y magwyd John Roberts, Llangwm.

Tybed ai yn Ffridd Baladeulyn y trigai 'Rhisiart' y pennill? Ai ef oedd yno, tybed, cyn i rieni John Roberts symud yno yng nghanol y pumdegau? A oes a etyb?