BARGEN YR HISTORIE OF CAMBRIA gan T.J.Morgan
DARLLENAIS pa ddydd yma fod copi o'r llyfr uchod ar werth mewn Ffair Lyfrau: nid wyf yn cofio'n fanwl beth oedd y pris ond yr oedd yn gannoedd lawer o bunnoedd, yn tynnu at fil. Clywais wraig yn dweud dro'n ôl am dŷ ei mab, hen dŷ mewn man dymunol ar graig uwchben y môr "I know very well, he is sitting on a fortune".
Yr ydwyf innau'n eistedd ar ffortiwn os talwyd yr holl gannoedd am 'Historie of Cambria' David Powel, a phris wy bantam a dalais i am fy nghopi.
Fe'i prynais pan werthwyd llyfrau Syr Vincent Evans yn ôl yn y tridegau. Bu raid imi ymgynghori â'r Bywgraffiadur i geisio penderfynu haf pa flwyddyn y cynhaliwyd yr arwerthiant. Bu Syr Vincent farw ar y deunawfed o Dachwedd 1934.
Mae gennyf gof imi gael cip arno ym mis Awst y flwyddyn honno yn Eisteddfod Castell-nedd. Yr oedd ei wyneb yn ddigon cyfarwydd gan fod ei lun bron yn ddieithriad yn rhaglenni'r Eisteddfod Genedlaethol slawer dydd, ac yno yng Nghastell-nedd y dyellais pwy yn hollol a benderfynai ymhle y cynhelid yr Eisteddfod ymhen dwy flynedd ac mai Syr Vincent oedd ysgrifennydd y Gymdeithas lywodraethol bwysig honno.
Cynrychiolai bwysigrwydd a dylanwad Llundain yn hanes yr Eisteddfod yr adeg honno.
***
MAE'N ymddangos felly mai rhywbryd yn haf 1935 y bu'r arwerthiant ond pe profai rhywun fod y cyfan wedi cael aros hyd 1936 fe fyddwn yn barod i ildio.
Yn y cyfnod cynnar hwnnw fe ddeuai gwahoddiad blynyddol i ddod i ddarlithio yn Rhydychen mewn ysgol haf i athrawon, ac ar y bore Sadwrn yn 1935 (neu 1936) dau ddiwrnod cyn cychwyn am Rydychen, gwelais hysbysiad yn y Western Mail fod Hodgson's yn gwerthu llyfrau Syr Vincent ar y dydd Iau.
Yr oedd amserlen y darlithiau yn profi fy mod yn rhydd ar y dydd Iau ar ôl darlith gynnar, fel y gallwn fynd ar y trên i Lundain i fod yno mewn pryd. Anfonais am ddau gatalog: anfon un i mi yng Ngholeg Sain Pedr, ac un i Griffith John Williams yng Ngwaelod-y-garth. Rhois wybod i GJW ar y Sul a threfnu ei fod yn anfon ei 'gynigion' imi yn Rhydychen.
Pan ddaeth y catalogau i law gwelwyd fod dwy 'lot' yn dilyn ei gilydd, y gyntaf yn gopi cyfan a hollol ddifrychau o'r Historie, a'r ail yn gopi arall a rhyw gymaint bach o ôl staen lleithder ar ychydig o ddalennau, ac yr oedd y peth a elwir y dyddiau hyn yn 'added bonus', sef y geiriau 'and others'.
Pan ddaeth llythyr GJW ar y dydd Mercher yr unig 'gynnig' oedd chwe gini am y copi cwbl lân. Euthum i fyny mor bell â'r chwe gini, ond aeth rhywun arall yn uwch, ond nid rhyw lawer a chollwyd y dydd.
Yn union wedyn fe ddaeth yr ail gopi 'and others', ac am ryw reswm anesboniadwy fe gefais i hwn, neu'r rhain, heb fawr o gystadleuaeth am ryw bum punt. Mae'r gyfrol yn berffaith i bob pwrpas, ac nid yw ôl y lleithder yn werth sôn amdano.
Beth am yr 'ychwanegion'? Yr wyf yn cofio imi yrru 'cynnig' drwy gyfrwng Maggs am ryw gyfrol nad oedd o ddiddordeb mawr i mi, ond bod 'and thirty others' wrth ei chwt, a siawns bod rhywbeth annisgwyl o lwcus yn eu plith; yr unig beth a ddaeth o'r gambl oedd cyfrol fach o natur ddefosiynol a fu'n eiddo ar un adeg i un o hynafiaid R 0 F Wynne, Garthewin, a chan fy mod wedi cael aros yn groesawgar yn ei dŷ yn ystod Eisteddfod Dinbych, anfonais y gyfrol yn ôl i fod ar silffoedd ei lyfrgell.
***
Y PETH pwysicaf ymhlith yr ychwanegion y tro hwn oedd copi o'r ail argraffiad yr Historie of Cambria sef fersiwn William Wynne (1697). Erbyn hyn y teitl yw The History of Wales ... Now newly augmented and improved by W Wynne, A.M. and Fellow of Jesus College, Oxon. Mae ychydig bach o ôl traul ar ledr y rhwymiad ac y mae'r ddalen 309-10 wedi ei rhwygo allan yn llwyr. Y mae cynnwys y ddalen goll wedi ei roi yn ôl mewn llawysgrifen yn gelfydd iawn ac ar stribed cul cul yng nghesail y ddalen newydd fe ellir darllen y geiriau:
- This leaf (torn out by some evil-disposed persons) was supplied by T L D Jones
Parry 1847 from a similar Edition of the same valuable work at Madryn.
Fe aned yr aelod hwn o deulu Madryn yn 1832 a bu fyw hyd 1891. Y mae modd dangos mai'r perchennog ar yr adeg yma oedd Eben Fardd. Ceir 'Ebenezer Thomas Clynnog' ddwy waith ar draws print y tudalen teitl, yr un peth eto ar y tudalen gwag ar ddiwedd y 'Description of Wales' sy'n fath o ragymadrodd, a gwelir ysgrifen Eben yn bendant mewn nodiad ar ymyl y ddalen.
Yn y Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd a gyhoeddodd E G Millward fe geir y canlynol ar gyfer Chwefror 12, 1847:
- Supp'd with Mas. Jones Parry, Madryn, at Plas, and lent him Yorke's Royal Tribes,
Wynne's History of Wales and Wm Jones' Welsh Etymology. He is an admirably
clever and intelligent young gentleman.
Mae'n deg casglu fod Jones Parry wedi cael cytsyniad Eben iddo ef lunio copi o'r hyn a oedd yn eisiau a'i osod yn ei le yn gywrain ac iddo roi cofnod neu eglurhad ar y stribed cul.
Enw arall ar y tudalen teitl yn rhedeg i lawr ar hyd yr ymyl yw `Alfred Ivor Parry'. Y mae'r enw hefyd ar y tudalen gwag ar y dechrau'n deg 'A.Ivor Parry Pwllheli'. Fe ddylwn wybod pwy oedd ond ar y funud ni allaf gofio. Mae ansawdd yr inc a natur yr ysgrifbin yn ei osod rhwng cyfnod Eben Fardd a'r perchennog a ddilynodd A I P.
Nid rhaid petruso ynghylch y perchennog nesaf sef Llewelyn Williams. Ceir stamp ei lyfrgell at y tudalennau blaen cyntaf, llun mynach a memrwn o'i flaen, y geiriau 'Llyfyr Da yw Lleufer Dyn' ar sgrôl uwchben y mynach, y geiriau ex libris tua gwaelod y llun ac enw Llewelyn Williams ar sgrôl yn rhedeg ar draws. Nid yw enw Vincent Evans ei hunan i'w weld yn unman.
***
ERBYN HYN nid wyf yn hollol sicr pa lyfrau eraill a oedd ymhlith yr ychwanegion, a pha faint a dalwyd am lyfrau eraill a brynais. Yr oedd dwy gyfrol History of Wales J E Lloyd, ac y mae'n amlwg iddynt gael eu hanfon i'w hadolygu.
Yr oedd Bardd Rin Timothy Lewis yn eu plith ac fe ddaeth rhyw lyfr neu'i gilydd ac ynddo lythyr oddi wrth A E Edwards, Archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, yn dweud wrth J E Lloyd fod ffordd John Morris Jones o drin Gwenogvryn yn Y Cymmrodor xxviii yn afresymol o ffyrnig. Mae'r llythyr wedi ei roi ynghadw yn rhywle ymhlith fy llyfrau fel na allaf gofio mwyach b'le mae.
***
FE GEFAIS un fargen arall yn haeddu sôn amdani, sef y ddwy gyfrol a gyhoeddodd John Rhys a Gwenogvryn, Y Mabinogion a'r Brutiau. Argraffwyd 500 o gopïau yn 1886 o'r gyfrol gyntaf, a dywedir fod y copïau 1 hyd 80 ar bapur o waith llaw, a nodir mai rhif 62 yw'r copi hwn, a cheir llofnod Gwenogvryn ei hunan arno.
Daeth yr ail gyfrol allan yn 1888-9, dywedir yr un peth am hon, a'i rhif yn 62, ond y mae heb lofnod Gwenogvryn. Yr oedd copïau gennyf eisoes o RM A RBB, y rhai cyffredin, fel petai. Fe ddaeth R J Thomas i de rywbryd ac fe werthais y ddwy iddo fe. Gwerthwyd llyfrau R J Thomas rywbryd ar ôl ei farw. Pwy tybed biau nhw nawr?