YMYL Y DDALEN gan Dafydd Wyn Wiliam
DIAU FOD gan bawb ohonom o leiaf un llyfr neu lyfryn sy'n hynod oblegid yr hyn a chwanegwŷd ato ag inc neu bensel gan ei berchennog gynt neu ei fenthyciwr. Gwnaed hyn fynychaf ar y dalennau glan ar ddechrau neu ar ddiwedd cyfrol, ond ceir digon o enghreifftiau o sgribliadau ar ymyl y ddalen brintiedig.
Rai blynyddoedd yn ôl cefais gopi o Bucheddau'r Apostolion â'r Efengylwyr (1704) yn rhodd gan fy nghyfaill Gruffudd Huws o Dy'n-yr-ardd, Bodedern, Môn. Cafodd ef afael ar y gyfrol hon pan oeddid yn pentyrru llyfrau adeg yr ymgyrch salvage yn ystod lladdfa 1939-46. Bachgen ysgol wyth oed oeddwn ar y pryd a chofiaf apêl yr ysgolfeistr ar i ni'r plant ddwyn gyda ni unrhyw lyfrau, hen neu newydd, i'r ysgol.
Ymatebodd plant Ysgol Gynradd Bodedern yn frwd i'r alwad hon a gwelaf yn awr y domen fawr o lyfrau a grynhowyd yn yr ystafell ddosbarth, a'r ysgolfeistr yn eu byseddu gan osod ambell un o'r neilltu. Cyfaddefodd wrthym ni blant ei fod yn synnu gweld cystal llyfrau yn cael eu trin fel sbwriel. Do, fe aeth llawer o drysorau ein cenedl i ebargofiant yn y cyfnod hwnnw. Un o'r rhai a achubwyd yw fy nghopi i o Bucheddau'r Apostolion. Oddi mewn i'w gloriau ceir y nodyn hwn:
Rhodd y Parchedig Wm. Wynn o Faesyneuadd Esqr.
i'w Gyfathraches Jane Glynn
o'r Rhiwgoch Awst y 18 dydd 1704.
Islaw'r nodyn ceir enw Griffith Roberts ac ar wyneb-ddalen y gyfrol ceir enwau Jane Roberts; Jane Glynn; John Garmons 1725.