Y GYFROL GYMRAEG GYNTAF I'W HARGRAFFU YM MECSICO ~ Huw Edwards yn cofio T.Ifor Rees

DDECHRAU'R flwyddyn hon, ac yntau'n 87 mlwydd oed, bu farw'r Dr. T. Ifor Rees. Cafodd yrfa ddisglair mewn gwledydd tramor gan iddo fod am nifer o flynydd­oedd yn Gonswl Prydeinig mewn amryw o wledydd yn Ewrop ac yn Amerig Ladin ac fe'i dyrchafwyd i fod yn Llysgennad Prydain Fawr ym Mecsico ac yna yn Bolivia. Er iddo dreulio rhan helaeth o'i oes mewn gwledydd pell, eto iaith a diwylliant Cymru oedd ei brif hyfrydwch ac fe lwyddodd i gyfoethogi'n llęn mewn mwy nag un ffordd ddiddorol.

Er iddo wneud enw iddo'i hun fel cyfieithydd (cyfieithodd ef a Rhiannon Davies ddwy nofel gan Henri Troyat 'Y Brawd' a 'Y Meirw ar y Mynydd') yn y chwe­degau a dywedwyd fod ei gyfieith­iad rhagorol o un o nofelau enwocaf Ffrainc, La Terre qui meurt gan Rene Begin yn "darllen fel gwaith gwreiddiol yn disgrifio ei henfro ef ei hun yng ngogledd Ceredigion"), mae'n debyg mai'r ddau lyfr a ysgrifennodd ar ôl iddo ymddeol a dychwelyd i Bow Street sydd fwyaf adnabyddus i ddarllenwyr Cymru.

Mae'r cyntaf ohonynt, "Sajama: Teithiau ar Ddau Gyfandir­(1960) yn son am rai o'i deithiau ac yn disgrifio rhai o'r gwledydd y bu'n byw ynddynt yn yr Amerig - Mecsico, Nicaragua, Peru a Bolivia. Hefyd ceir llawer o wybodaeth am hen ddiwylliannau'r Maya a'r Inca, gan gynnwys disgrifiad byw o'i Ymweliad i hen "ddinas goll" yr Inca yn unigeddau mynyddoedd yr Andes, sef Machu Picchu - dinas a ddarganfuwyd mor ddiweddar â 1911 gan yr Americanwr Hiram Bingham.

Ym 1964 cyhoeddodd olynydd i'r gyfrol hon, sef "Illimani". Yn y gyfrol hon eto ceir rhagor o atgof­ion am ei deithiau yn yr Amerig Ladin ac am ei ymweliadau a'r Grand Canyon ac Ynysoedd Cayman. Y mae'n cynnwys hefyd bennod ddiddorol fawn (a ymddangosodd yn wreiddiol yn y Llenor ym 1933) sef hanes ymddangosiad rhyw Gymro o'r enw Morgan Tillert o Lansan­ffraid-ar-Elai, ger Caerdydd o flaen y Chwilys.

Morwr ar long John Hawkins oedd y gŵr ifanc hwn. Carchar­wŷd ef gan y Sbaenwyr, cafodd ei groesholi gan y Chwilys yn Ninas Mecsico a'i ddirdynnu ar yr arteithglwyd ym 1574.

Fel y gŵyr pawb a ddarllenodd y ddwy gyfrol uchod, nid yn unig yr oedd T. Ifor Rees yn llenor ond ‘roedd hefyd yn ffotograffydd penigamp. Mae'r ddwy gyfrol yn cynnwys nifer fawr o ffotograffau mewn lliw a du-a-gwyn.

LLAI cyfarwydd, efallai, yw'r llyfr a gyhoeddodd yn breifat "In and Around the Valley of Mexico" (1953). Er y ceir yn y gyfrol hon ddisgrifiad digon diddorol o'r fro a chrynodeb da o'i hanes, ni fyddai neb yn gwadu mai'r hyn sy'n rhoi arbenigrwydd i'r gwaith yw'r ffotograffau gwych (dros 50 ohonynt) o'r fro a’i thrigolion a dynnwyd gan yr awdur.

Ar ôl dweud hyn i gyd, credaf y bydd pob casglwr llyfrau'n cytuno mai'r tair cyfrol a gyhoeddodd T. Ifor Rees ar ei drawl ei hun tra 'roedd yn Gonswl ym Mecsico yw'r rhai mwyaf rhamantus a diddorol o'i holl weithiau.

Y gyntaf ohonynt oedd "Rubaiyat Omar Khayyam - trosiad i'r Gymraeg o gyfieithiad (neu aralleiriad os mynner) adnabyddus Edward Fitzgerald (argraffiad cyntaf) ". Gwaith Ifor Rees ei hun oedd y trosiad, wrth gwrs. Er bod Fitzgerald wedi seilio'i waith ar y gan Berseg, y mae mor wahanol iddi nes y gellir dweud ei fod yn meddu rhinweddau cân wreiddiol.

Dyma'r ymgais gyntaf i drosi dehongliad Fitzgerald o gân yr hen Omar i'r Gymraeg, gan mai cyfieithu'n uniongyrchol o'r Berseg a wnaeth Syr John Morris Jones. Argraffwyd tri chan copi ohono yn Ninas Mecsico gan The American Book & Printing Co. S.A. ym 1939.

***

'ROEDD Ifor Rees yn ymhyfrydu yn y ffaith mai dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu ym Mecsico (sonia am hynny mewn llythyr a ysgrifennodd ataf ychydig wythnosau cyn iddo farw).

Edrydd hanesyn diddorol sy'n cyfeirio at y fenter yn Illimani ac y mae'n werth ail-adrodd yr hanes.

Torrwyd cysylltiadau diplomatig rhwng Prydain a Mecsico yn 1938 ar ôl cweryl ynglŷn â thalu iawndal i Gwmnďoedd Olew. Gwaith Ifor Rees oedd ceisio gwella tipyn ar berthynas rhwng y ddwy wlad yn y gobaith y byddai modd adfer cysylltiadau diplomatig yn y man.

Cyfarfu â'r Gweinidog Tramor Eduardo Hay mewn parti yn nhŷ cyfaill. "Hytrach yn oeraidd oedd agwedd y Gweinidog i gychwyn... Yr hyn a ddaeth â chynhesrwydd i'w lais a mwynder i'w wedd oedd fy nghyfeiriad at ei gyfieithiad i'r Sbaeneg o Rubaiyat Omar Khayyam fel y ceir y gerdd honno yn Saesneg, yn nhrosiad adnabyddus Edward Fitzgerald - gwaith y gwyddwn ei fod yn lled falch ohono. Yr oedd copi o'i gyfieithiad yn fy meddiant, ac wrth sôn amdano, crybwyllais fy mod innau wedi cyfieithu'r gân i'r Gymraeg. Diddorodd hyn ef yn fawr, yn enwedig gan na wyddai hyd hynny am fodolaeth y Gymraeg. A minnau ynghanol yr ymddiddan hwn, torrwyd ar ein traws gan eraill a fynnai gael gair â'r Gweinidog, ond cyn ein gwahanu, meddai wrthyf: "Rhaid inni barhau'r sgwrs yma ryw dro eto" Felly y bu.

***

DYNA Rubaiyat Omar Khayyam wedi agor y drws i mi gael mynedfa at y gŵr hollbwysig na allwn fynnu sgwrs ag ef ar dir diplomataidd. Y dwthwn hwnnw y gân ac anawsterau cyfieithydd fu mater ein hymddiddan, heb gyfeiriad o unrhyw fath at "asgwrn y gynnen" rhwng y ddwy lywodraeth.

Crybwyllais wrtho am fy mwriad i argraffu fy nghyfieithiad ym Mecsico, gan ychwanegu mai'r cyfieithiad hwn, o gyflawni fy mwriad, fyddai, yn lled sicr, y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn y wlad. Rhoes hyn foddhad mawr iddo, ac yn y fan cynigiodd roi benthyg imi flociau arbennig a wnaethid ynglŷn â'r argraffiad o'i waith ef.

Ac yn wir ar ddiwedd y trosiad Cymraeg o 'Omar' ceir y nodyn canlynol: "Dyledus a diolchgar yw'r cyfieithydd i'r Cadfridog Eduardo Hay, Gweinidog Tremor Mecsico, am roi benthyg bathau llofnodiad Omar Khayyam, ac i Mr. R.C. Hesketh, Dinas Mecsico, am gynllunio a thynnu'r arddurn­iadau a geir yn y llyfryn."

***

CREDAF bod G.J. Williams yn or-­hael pan ddywed, wrth adolygu'r llyfr i'r Llenor (Cyfrol XX, tud. 100) "ei bod yn gyfrol hardd y gellir ei dodi ochr yn ochr â llyfrau Gwasg Gregynog" ond yn sicr y mae'n gyfrol fach digon hardd ac mae'r argraffwaith yn gain.

Rhaid cytuno â’i sylwadau ar y cynnwys. " Dywedwyd mai amheuaeth ac anobaith Omar a geir gan Fitzgerald, ond y mae ei dristwch mwyn a miwsig ei linellau wedi gwneuthur ei gan yn un o'r darnau mwyaf poblogaidd yn yr iaith Saesneg. Credaf fod Mr. Rees wedi rhoddi inni gyfieithiad a eill beri i ddarllen­wyr Cymraeg deimlo hud a chyfaredd y gwreiddiol."

Ym 1942 cyhoeddodd ei ail lyfryn ym Mecsico "Marwnad a Ysgrifennwyd Mewn Mynwent Wledig. Cyfieithiad o Gân anfarwol y bardd Saesneg, Thomas Gray, 'Elegy Written in a Country Churchyard.' Argraffwŷd gan 'The American Book and Printing Company’, Dinas Mecsico, 1942.

Dywed Ifor Rees yn y rhagair: "Swynwyd fi'n gynnar gan waith Thomas Gray, ac yn arbennig gan y gân enwog hon. Gwyddwn am drosiad adnabyddus Dafis Castell Hywel ohoni i'r Gymraeg (yr unig un y gwyddwn amdano pan ymgymerais â'i chyfieithu fy hun), ond er bri y trosiad hwn, rhaid i mi gyfaddef na chefais erioed fawr o swyn y gwreiddiol ynddo, gan na chadwyd at fydr y gwreiddiol. Dyna a'm gyrrodd i geisio cyfieithu'r gân fy hun, a hyderaf y maddeuir i mi am grybwyll yma i feirniad mewn Eisteddfod Genedlaethol ers talwm weld peth haeddiant yn y cyfieithiad gan iddo ei farnu yn deilwng o wobr."

***

GWAITH a enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol tua (1929) oedd y drydedd gyfrol, a'r mwyaf swmpus o gryn dipyn, a gyhoeddodd Ifor Rees yn Ninas Mecsico. Hwn oedd 'Taith o Amgylch fy Ystafell' , sef ei gyfieithiad o lyfr Xavier de Maistre 'Voyage autour de ma Chambre’. Cyhoeddwyd 'Taith o Amgylch fy Ystafell' gyntaf yn y flwyddyn 1794 ac ystyrir ef yn un o emau llenyddiaeth Ffrainc. Gan ddefnyddio dodrefn ei ystafell fel bochau, megis, i grogi ei fyfyrdod­au arnynt, dyry de Maistre i ni gipolwg ar ei syniadau gwleidyddol, crefyddol a moesol, ar ei ddyngarwch diamheuol a'i diriondeb, ei ddynoliaeth hoffus a'i gariad at natur, a hynny mewn iaith syml ond coeth.

Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn ym 1944, ac argraffwyd cant a hanner o gopďau yn unig gan yr American Book & Printing Co. (darluniau eto gan R.C. R. Hesketh).

I mi mae rhamant ac apęl arbennig i'r tair cyfrol fechan yma a gyhoeddwyd mor bell o ddaear Cymru. Yn sicr maent yn dangos nid yn unig cariad Tom Ifor Rees tuag at iaith a llenyddiaeth Cymru ond hefyd ei chwaeth, ei ddychymyg a'i fenter. 'Rwy'n siŵr y byddai'n hoffi i mi orffen trwy ddyfynnu'r hen Omar: