Y FFYDD DDIFFUANT gan Derec Llwyd Morgan

YNG NGHWPWRDD gwydr siop Eric Jones, Caernarfon y gwelais i fy nghopi gorau o Y Ffydd Ddi-ffuant gyntaf. Erbyn hyn, y mae'n dri chant oed.

Yn 1667 - blwyddyn cyhoeddi Paradise Lost - y cyhoeddodd Charles Edwards ei fersiwn cyntaf o'r Ffydd Dd-iffuant, sef pan aeth i Rydychen wedi i'w wraig wahanu ag ef ac ymbil arno 'to live asunder' (Wel, dyna'i stori ef chwarter canrif yn ddiwedd­arach.) Ymhen pedair blynedd, cyhoeddodd Edwards ail fersiwn o'r llyfr, un llawnach y tro hwn, yn ymdrin yn awr â hanes y Ffydd yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd.

Erbyn Ebrill 1677 yr oedd wedi ychwanegu darn godidog ar "Rinwedd y Ffydd" at y rhannau hanesiol. Ac am y drydedd waith mewn un mlynedd ar ddeg plymiodd yn ddwfn i'w boced i gyhoeddi - y tro hwn - waith a saif yn un o glasuron mawr rhydd­iaith Gymraeg.

Cafodd ei adargraffu bedair gwaith yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r ganrif ddiwethaf. 0 Wasg y Sais John Rogers Amwythig y daeth argraffiad 1722. Nid oes enw golygydd wrtho. Ond y mae'n ffyddlon iawn i'r gwreiddiol. Er, gwelodd pwy bynnag a'i paratôdd ar gyfer y wasg yn dda ddileu'r bennod a oedd gan Edwards yn cymharu seiniau'r Gymraeg a'r Hebraeg.

***

MAE'R argraffiadau anffyddlon yn fwy diddorol! Dyna argraffiad R.Jones, Dolgellau, 1811. Aeth rhywun ati'r tro hwn i gywiro a phreneiddio Cymraeg Edwards (gwneir ‘yn helaethach' yn ‘dra eheliaeth', a phob 'ef’ yn 'efe', ac i sensro tipyn ar gynnwys ei lyfr, Fe dorrodd allan ohono gynifer ag y gallai o'r darnau Calfinaidd sy'n ei fritho, nid yn unig y geiriau 'etholedig' ac 'etholedigion', and hefyd adran ryfeddol wych yr awdur ar y pwnc ‘na thycia mâth yn y byd ar foddion i droi pobl yn gyffredin, sef y colledig, at Dduw.'

Fe werthwyd argraffiad Dolgellau mewn dim o dro. A dyma R. Jones yn perswadio'r Parch­edig Ddr. Peter Williams, Llan­bedrog i ymgymryd â golygu argraffiad newydd arall o'r Ffydd. Cyhoeddwyd hwn yn 1822.

Gŵr o Laneurgain, sir y Fflint, oedd Williams yn wreiddiol, MA DD Prifysgol Rhydychen; ac offeiriad a ddaliai fwy nag un fywoliaeth.

Y mae'n cyflwyno'r gwaith i Richard Edwards Nanhoron, cyrnol milisia sir Gaernarfon. I mi, y mae rhywbeth chwithig iawn yn y ffaith hon, sef fod rheithor Anglicanaidd yn cyflwyno i sgweiar lyfr gan genedlaetholwr ysbrydol o Biwritan a drowyd allan o'i blwyf pan adferwyd Siarl II yn 1660.

***

YMYRRODD Peter Williams yn chwyrn â’r llyfr gwreiddiol, gan newid ffurf cymalau a brawddeg­au dirifedi; sensrodd (eto) lawer o'r darnau Calfinaidd neu led­Galfinaidd; gwelwn hefyd arwyddion cynnar o glwyf yr ydym ni'n dioddef yn erchyll wrtho, sef yr awydd i ddwyn popeth yp-tŵ-dęt (dywedir mai Switzerland yw Helfetia Charles Edwards, ac mai'r Atlantic Ocean yw'r môr mawr!)

Ar y llaw arall, y mae rhinwedd­au i’r argraffiad. Peter Williams oedd y cyntaf o olygyddion Y Ffydd Ddi-ffuant i roi inni rywfaint o hanes Edwards. At hynny, ef oedd y cyntaf i ychwanegu at destun 1677 nodiadau eglurhaol: y mae rhai ohonynt yn werthfawr. Ac efallai y dylem ddiolch i'r Parchedig Ddoctor Williams am un fendith arall hefyd. Ei ddymuniad gwreiddiol, meddai, oedd argraffu'r Ffydd 'in the mode of spelling adopted by Dr. W. Owen Pughe,' ond am ryw reswm neu'i gilydd nis gwnaeth. Am bob dim, diolchwn!

***

GOLYGYDD 1856 yw fy ffefryn i, William Edmunds, 'Athraw Ysgol Rammadegol Llanbedr', ysgolhaig ifanc hirben a doeth, a wnaeth enw mawr iddo'i hun fel tiwtor a phrifathro. Wyth-ar-­hugain oed ydoedd Edmunds pan anfonodd ei argraffiad o'r Ffydd at Spurrell yng Nghaerfyrddin - ond y mae ei nodiadau yn gyforiog o wybodaeth glasurol a hanesyddol a diwynyddol, a'i ragymadrodd yn gyflwyniad ysgolheigaidd teg.

Mewn un man ynddo, y mae’n adolygu’r argraffiadau cynt, ac y mae’n feirniadol ohonynt, o’r beiau a'r gwallau a’r newidiadau. Ebe ef : 'os Hanes y Ffydd, Hanes y Ffydd a dim llai na mwy ddylai fod.' Gwir ei wala.

Eithr nid Ffydd 1677 a geir ganddo fo chwaith, ond testun caboledig yr ysgolhaig cydwybodol glân na allai ddioddef na blerwch gramadegol y gwreiddiol na’i ddiffygion orgraffyddol. A llyfr rhyfedd a geir yn y diwedd, - bron na ellir dweud bod ei grychiadau rhywiog wedi cael eu smwddio’n llyfn gan haearn trwm effeithiol Oes Victoria, a bod ei boendod Piwritanaidd wedi diflannu – i raddau helaeth iawn – yn y broses.