Y FFORTIWN FAWR A'R HEN DDARLUN
Gair o brofiad Dafydd Wyn Wiliam

CAN MIL o bunnau yn y daflod - dyma bennawd ysgrif Reginald M. Hoare sy'n trafod adfer peintiad­au olew yn The Country Gentleman's Estate Magazine (1966) tt. 466/68. Mae'n wir na chefais i beintiad olew gwerth miloedd o bunnau yn yr atig, eithr fe drewais ar beintiad sy'n werth ychydig gannoedd o bunnau mewn modurdy. Fel hyn y bu.

Tua diwedd Awst 1970, a minnau ar wyliau ym Môn, euthum un pnawn i holi gwraig weddw oedrannus a oedd ganddi ddefnyddiau ar hanes lleol Bodedern, pentref fy mebyd. Bu'n hael ei chymorth. Ar ddiwedd fy ymweliad arweiniodd fi i'r modurdy gerllaw ei bwthyn newydd i weld sypyn o gylch­gronau aflêr a llaith oedd yn gorwedd ar y llawr.

Yn pwyso ar un o'r muriau, wedi ei led orchuddio, fe sylwais ar yr hyn a dybiais oedd ymyl uchaf peintiad olew di-ffrâm. Nes­eais ato a chanfod ar unwaith ei fod yn waith arlunydd medrus. Gwaetha'r modd yr oedd y paent mewn mannau yn plisgio oddi ar y cynfas. At hyn yr oedd tri rhwyg ynddo.

Llun merch ifanc hardd mewn ystum fyfyrgar ydoedd. Anturiais geryddu'r wraig am osod y peintiad yn y fath le. Pwys­leisiodd hi nad oedd am gadw pethau mor hen ffasiwn yn ei bwthyn. Ffarweliais â'r wraig. Wrth foduro adref ni allwn lai na throi a throsi y peintiad a'i dynged yn fy meddwl. 'Roeddwn yn sicr, pe'i gadewid yn y fan a'r lle dros aeaf arall, y byddai lleithder yn ei lwyr ddifrodi.

***

Y NOSON honno ni chefais na hun na heddwch. Beth pe cynigiwn £5 am y peintiad . 'Ni fyddaf ', meddwn wrthyf fy hun, 'ddim gwaeth o roi cynnig ar hynny.' Bore trannoeth yr oedd fy nghynnig wedi ei anfon ymaith ar ffurf llythyr. Coeliwch neu beidio, fe ddaeth ateb gyda'r peintiad. Erbyn holi'r perchennog nid oedd ganddi na chownt na chyfrif am ei achau.

Archwiliais y peintiad o'r newydd a chael ei fod mewn cyflwr pur wael. Er hynny yr oedd yn bleserus i edrych arno. Mesurai 27" x 35". Oblegid rhwyg go egr yn y canfas nid oedd modd gwybod ai ci neu benglog a anwesai'r ferch yn ei harffed. Tybed ai gwaith un o'r meistri ydoedd. Efallai yn wir ei fod yn werth £100,000, onid mwy!

Ceisiais farn cyfeillion, Mr. a Mrs. S.LI. Protheroe o Blasty Treiorwerth ym Modedern, am y peintiad. Yr oeddent wedi dotio arno. Gan eu bod hwy yn treulio y rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain, a chanddynt dŷ yn Chelsea, gofynnais iddynt fynd â’r peintiad i'r ddinas honno ac ymofyn barn arbenigwyr. Adwaenent ddigon o bobl ddylanwadol ym myd y celfyddydau ac yr oedd ganddynt gysylltiadau â Christie's, yr arwerthwyr byd-enwog.

***

AETH YSBAID hir heibio cyn i undim pendant ddigwydd. Yna ym mis Mai 1974 daeth gair ataf i Bontyberem yn Nyfed oddi wrth Mrs. Protheroe. Rhoddasai'r peintiad yn nwylo Reginald M. Hoare, arbenigwr mewn adfer peintiadau. Fe'm hysbyswyd gan Mr. Hoare mai £150.70 oedd ei amcangyfrif ef o'r drawl i adfer fy mheintiad olew. Anfonais air ato ar frys i ddatgan fy mod yn cytuno â'i delerau ac yn ei wahodd i gymryd y dasg. Ar 29 Medi fe gefais hwb i'r galon trwy'r nodyn isod:

Dear Reverend Wiliam,

Llusgodd yr wythnosau heibio. Ar 18 Tachwedd fe ffoniais Mr. Hoare. Yr oedd wedi cwblhau ei waith. Ar 6 Rhagfyr yr oeddwn yn Llundain. Treuliais y bore a'r pnawn yn Llyfrgell y Dr. Daniel Williams yn copïo rhai llaw­ysgrifau. Oddi yno ymlwybrais tua Chelsea a chael seiad felys yng nghartref syber y Protheroes. Bu iddynt hwy fy hebrwng i Kensington i gartref Mr. Hoare.

Ei wraig, clamp o ddynes, a atebodd y drws. Ymddangosodd Mr. Hoare ei hunan, yntau yn ddwylath o ddyn, ac heb na rhwysg na rhagrith fe'n harwein­iod at risiau tro haearn ym mhen eithaf ei dŷ. Wedi disgyn ar hyd­ddynt yr oeddem yn ei stiwdio.

Methwn â chredu a welwn. Nid bach o gamp a gyflawnwyd gan Mr. Hoare. Yr oedd y peintiad yn gyfan ac eglur. Penglog a ddelid gan y ferch ifanc yn y darlun. Ymadawodd y Protheroes ond nid cyn i un ohonynt alw am dacsi i mi. Fe'm gadawyd i gyda Mr. Hoare i gael sgwrs.

Awgrymodd fod fy mheintiad, nad oedd enw wrtho, yn null ysgol yr arlunydd Sbaenaidd Bartolome Estaban Murillo (1618 - 87). Ehedodd yr amser. Canodd cloch y tŷ. Disgwyliai'r tacsi wrth y drws. Telais i Mr. Hoare am ei waith, diolchais iddo ac ymaith â mi gyda'm llun.

***

ER DIOGELU'R peintiad ar y daith yn ôl i Bontyberem, bernais mai gorau peth fyddai teithio ar un o'r trenau nos. Yr oedd hi erbyn hyn yn hwyrhau. Ymadawai'r trên am 1.20 a.m. Disgynnais o'r tacsi a cherddais yn dalog i'r orsaf a'm peintiad dan fy nghesail. A minnau ar fin esgyn i'r trên fe ddywedodd un o weision yr orsaf wrthyf na ellid caniatáu i mi fynd â'm parsel ar y trên. Cyfrifid ef yn 'luggage'.

Canfu fy mod yn isel-galon. Cymerth drugaredd arnaf a dywedodd ei fod am gau ei lygaid am y tro. Neidiais i'r trên a chloi fy hunan a'r peintiad yn yr ystafell a neilltuwyd i mi. Cyrhaeddais orsaf Abertawe, cymryd tacsi oddi yno at fy ngherbyd a oedd wedi ei barcio nid nepell oddi yno, a chyrraedd Pontyberem yn ddiogel.

Rhaid bellach oedd holi am y sawl a beintiodd fy narlun. Dilynais awgrym Mr. Hoare ynglŷn ag ysgol Murillo. Sicrheais ffotograffau lliw o'm peintiad ac anfon un ohonynt at bennaeth Amgueddfa Prado ym Madrid yn Sbaen gan geisio ei farn. Atebwyd fy holiad trwy lythyr dyddiedig 6 Chwefror 1975. Nid gwaith Murillo ydoedd chwaith. Tebycach mai llun Eidalaidd ydoedd o'r XVII ganrif.

Ymgysylltais wedyn â phennaeth Amgueddfa Uffizi yn Fflorens yn yr Eidal, eithr ni chefais ddim goleuni o fudd o'r fan honno.

Tro Sotheby & Co., Llundain, oedd hi wedyn i dderbyn fy holiad. Barnodd un o arbenigwyr y cwmni enwog hwnnw fod fy mheintiad yn perthyn i Ysgol Naples yn yr XVII ganrif a'i fod yn arddull A. Vaccaro. Yr oedd bron yn sicr, fodd bynnag, nad gwaith yn ei law ef ydoedd.

Y cam naturiol nesaf oedd mynd i lygaid y ffynnon, sef Naples. Gwneuthum hynny trwy lythyr. Fe'i hatebwyd gan arolygydd cyffredinol holl orielau a gweithiau celfyddyd yng nghylch Naples. Wele'r llythyr wedi ei drosi i'r Gymraeg:

Dyna bendantrwydd o'r diwedd.

Gwyddwn eisoes fod cyfrol ar fywyd a gwaith Vaccaro wedi ei chyhoeddi yn Naples yn 1951. Nid oes gopi o'r llyfr yng Nghymru na Lloegr. O'r hyn lleiaf, er mynych holi, methais â chael gafael arno. Deallaf fod copi yn Llyfrgell Prifysgol Harvard yn America. Yr oedd y tu hwnt i'm cyrraedd yn y fan honno. A minnau ar fin anobeithio fe anfonais at y cyhoeddwyr yn Naples, a sicrheais gopi o'r gyfrol. Erbyn hyn fe wn gryn dipyn am waith a chefndir Vaccaro. Arben­igai mewn peintiadau unigol o'r seintiau.

***

UN O'R rheini sy'n crogi ar un o barwydydd fy nghartref i mewn ffrâm newydd gwerth £54.74: Paentiad ydyw o Fair Magdalen. O'r Oesoedd Canol ymlaen hi oedd delwedd yr edifeiriol. O'i heisteddfa cwyd ei golygon chwyddedig tua'r nef fel pe'n gweld angel. Treigla deigryn o'i llygaid de a gorffwys ei llaw dde ar benglog. Gwyn, gwyrdd tywyll a choch yw lliw ei gwisgoedd. Dengys ei hwyneb a'i gwddf mai llaw un o'r meistri a'u peintiodd.

Eisoes bu'r peintiad yn gyfrwng pleser a boddhad mawr i mi. Nid yw'n edrych allan o'i le mewn tŷ cyffredin ac ni flinais syllu arno. Efallai nad yw'n werth y canfed ran o £100,000, ond y mae'n fwy o werth i mi nag unrhyw bris a osodir arno. Hwyl i chwi ar gasglu gweithiau'r meistri!

***

(Carwn ddiolch i'm cyfaill Silas T. Jones am ei gymorth hael i mi gyda chyfieithu Eidaleg a Sbaeneg i'r Gymraeg, heblaw sawl cymwynas arall.)