PE CAWN I HWN ~ Huw Williams yn blysio llyfr
PAN FYDDWN yn sôn am ryw lyfr Cymraeg arbennig sy'n 'brin', nid yn aml y byddwn yn sylweddoli bod yna ambell gasgliad o gerddoriaeth neu lawlyfr cerddorol wedi ei gyhoeddi'r un cyfnod sydd yr un mor brin, onid yn wir yn brinnach o lawer!
Ymhlith y casgliadau o gerddoriaeth Gymreig gyda'r prinnaf sy'n bod y mae rhai o gynhyrchion Owen Williams o Fôn (1774 -1838), yn cynnwys Brenhinol Ganiadau Seion (sef dwy gyfrol o donau a ddarparwyd ym 1817 -1819), Psalmodia Cambro Britannica ... (1826), a The Harp of David ... (1839).
Cafwyd dau argraffiad o Brenhinol Ganiadau Seion, a phris y ddwy gyfrol i 'ragdalwyr' yr argraffiad cyntaf oedd gini, neu 12/6 am un llyfr. Prisiwyd yr ail argraffiad yn gini a hanner am y gwaith cyflawn, a phan gofiwn pa mor fychan oedd cyflogau yn y cyfnod a ddilynodd Ryfeloedd Napoleon, 'does ryfedd yn y byd' mai ychydig iawn o gopïau a werthwyd, a bod y casgliadau erbyn heddiw yn rhyfeddol o brin.
***
NI WYDDYS ond am un copi o Psalmodia Cambro Britannica (1826) sydd wedi ei ddiogelu, ac y mae hwnnw yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, ar ôl cael ei brynu'n rhywle gan awdurdodau'r Llyfrgell honno mor ddiweddar â 1880. Mae yna ddau gopi o The Harp of David (1839) wedi eu diogelu mewn llyfrgelloedd, sef un yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a'r llall yn Llyfrgell Caerdydd.
Ar y copi yn y Llyfrgell Genedlaethol fe ysgrifennodd rhywun mewn pensil mai 32 o gopïau'n unig o'r gwaith a argraffwyd, gan fod Owen Williams, yr awdur, wedi syrthio'n farw yn Chancery Lane, Llundain, cyn y llwyddwyd i gwblhau'r gwaith argraffu!
***
YR UN mor brin yw rhai o'r llawlyfrau a ddarparodd Owen Williams, gan gynnwys Egwyddor-ddysg Ragegorawl ... (1817) ac Egwyddorion Canu... (1818), ac ni ddiogelwyd ond ychydig iawn o gopïau o'r naill a'r llall, a hynny (yn briodol iawn) yn y prif lyfrgelloedd. Yr Egwyddor-ddysg Ragegorawl ... oedd prif drwydded Owen Williams i anfarwoldeb cerddorol yn y ganrif o'r blaen, a hyd at ganol y ganrif nid oedd yr un cyhoeddiad cerddorol Cymraeg arall yn fwy adnabyddus i gerddorion Cymru na'r 'Gamut', fel y gelwid ef.
Y syndod mwyaf yw bod copïau o rai o'r gweithiau rhataf a ddarparodd Owen Williams heddiw'n brinnach o lawer nag ambell gasgliad cerddorol drutach ei bris a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Cymerwn fel enghraifft, Mawl yr Arglwydd (John Ellis, LIanrwst), sef y llyfr tonau cyntaf a gafodd y genedl. Fe gyhoeddwyd hwnnw ym 1816, cyn bod Owen Williams wedi mentro cyhoeddi dim, ac eto nid yw'r casgliad yn 'brin' yn yr ystyr y gellir cymhwyso'r gair hwnnw i rai o'r llyfrau sy'n dwyn enw Owen Williams.
Ar un adeg 'roedd gennyf bedwar copi o Mawl yr Arglwydd yn fy meddiant, a chefais gyfle fwy nag unwaith i brynu rhagor o gopïau o'r gyfrol pe bawn wedi dymuno hynny. Ond am dri o weithiau pwysicaf Owen Williams, ni fu gennyf erioed gopïau ohonynt, ac ni welais erioed ddim yn dwyn ei enw yn y farchnad lyfrau ail-law!
***
OND ER mor brin yw rhai o weithiau Owen Williams, y mae yna un gwerslyfr cerddorol sydd hyd yn oed yn brinnach o lawer na dim a ddarparwyd gan yr arloeswr diwyd o'r Fam Ynys, a hwnnw yw Cyfaill mewn Llogell wedi ei lunio gan John Williams (Siôn Singer), - y 'dysgawdr miwsic o Fodedyrn', - a'i argraffu yng Nghaerfyrddin ym 1797. Hwn oedd y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg i ddysgu cerddoriaeth.
Nid wy'n bwriadu disgrifio'r gwaith yn fanwl, gan fod hynny eisoes wedi cael ei wneud gan R.D. Griffith yn Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru (1948), tt. 49-51, a cheir peth o hanes Siôn Singer mewn ambell lyfr penelin, gan gynnwys Y Bywgraffiadur Cymreig. Fodd bynnag, mae'n ddiddorol sylwi bod y Cyfaill wedi cael ei rannu'n dair rhan, y gyntaf yn cynnwys cyfarwyddiadau sut i ddysgu elfennau cerddoriaeth, a'r ail a'r drydedd yn cynnwys emynau.
Ail-argraffwyd y rhan gyntaf heb y rhannau eraill gan John James, 'Gweinidog yr Efengyl yn Aberystwyth', fel atodiad i’r Pigion o Hymnau Priodol i Grefydd (Aberystwyth; arg. James a Williams 1811), ac y mae hwnnw hefyd erbyn heddiw yn gasgliad eithaf prin.
Pa mor brin ynteu mewn gwirionedd yw argraffiad 1797 o Cyfaill mewn Llogell ... , o gymharu â rhai o'r gweithiau cerddorol hynny o ansawdd cyfatebol a ddarparwyd rhyw chwarter canrif yn ddiweddarach? Credaf mai copi neu ddau'n unig sydd wedi eu diogelu mewn llyfrgelloedd trwy Gymru gyfan.
Mae'n arwyddocaol hefyd na wyddai Gwilym Lleyn bod y gwaith wedi cael ei gyhoeddi (Llyfryddiaeth y Cymry, rhif 13,1779), ac na welsai'r hanesydd cerddorol D. Emlyn Evans ychwaith gopi o'r 'Gamut'