MANION BYD gan Glyn Evans
ELENI bydd y Genedlaethol yn ymweld â Wrecsam am y seithfed tro.
Helen Luyddawg oedd testun y Gadair yno ym 1876 gyda saith yn cystadlu. Ond pan alwodd Mynyddog, yr arweinydd, am i Eusebius yr enillydd ddatgelu ei hun cododd dyn ieuanc ar ei draed a dweud mai'r diweddar Thomas Jones o Langollen oedd Eusebius.
Anfonodd Taliesin o Eifion, dyna ei enw barddol, ei awdl i Wrecsam y diwrnod y bu farw a dywedir mai ei eiriau olaf oedd, "Ydyw'r awdl wedi ei danfon yn saff ?"
Yn ystod y seremoni a ddilynodd adroddwyd yr englyn hwn:
- Adwaedd iaith bedyddio yw - rhoi mawredd
Ar y meirwon heddiw;
Swyn odiaith Gorsedd ydyw
Graddio'r bedd ag urddau'r byw.
***
STEDDFOD 1888 yn Wrecsam oedd y Genedlaethol gyntaf i T. Gwynn Jones ei mynychu "o wirfodd" ond dywedodd nad oedd "yn adnabod digon o bobl i fwynhau Eisteddfod" yr adeg hynny.
Aeth un diwrnod yn angof llwyr wedi iddo daro i mewn i siop lyfrau Hughes a'i Fab a dod o hyd i gasgliad o gerddi Scott.
***
ERBYN Eisteddfod Wrecsam 1933 yr oedd Lloyd George yn Steddfodwr ac fel hyn y'i cyflIwynwyd ef gan Caerwyn:
- Ei lafar sydd ar Iwyfan - yn aur pur,
Ef yw'r pen ymhobman;
Ni ddaw gŵr ar ddydd y gân,
Yn agos at dad Megan.
Cofia ef ei hun yn fachgen 13 oed ym 1876 yn chwarae ar y stryd y tu allan i weithdy ei ewythr yn Llanystumdwy a hen ŵr gwyrgam yn hercio i mewn a darllen rhannau o awdl y bwriadai ei hanfon i Eisteddfod Wrecsam.
Taliesin o Eifion oedd hwnnw!
Yn eisteddfod 1933 cadeirydd seremoni'r coroni oedd Bardd y Brenin, John Masefield, ac yn ddiddorol iawn fel ag y mae'r Eisteddfod Ogleddol sy'n dilyn un Wrecsam yng Nghaernarfon y tro hwn felly yr oedd ym 1933 a 1935 hefyd.