LLYFRAU AB OWEN ~ Y Rhestr Lawn gan E.D.Jones
MAE STOC siopau llyfrau ail-law o gyfrolau Cyfres y Fil ar drai. Y rheswm am hynny yn ôl un siop yw bod darllenwyr y Casglwr yn ymorol am eitemau coll o'u casgliadau ar gorn y rhestr a argraffwyd yn y rhifyn cyntaf. Y mae'r Golygydd yntau'n galw am barhau gyda chyfresi Owen M. Edwards. Gan fod Llyfrau Ab Owen bron yn unffurf â chyfrolau Cyfres y Fil mewn plyg, maint a phris, a chan fod hynny wedi arwain llawer i ddryswch ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng y cyfrolau, credaf y byddai'n dda cael rhestr y tro hwn o Lyfrau ab Owen. Dylid pwysleisio fod O.M. wedi ei gwneud yn glir nad oedd Llyfrau ab Owen i'w hystyried yn gyfres. Eto, oherwydd y tebygrwydd rhyngddynt y mae'n siŵr y bydd llawer yn ceisio casglu'r rhain hefyd yn ogystal â chyfrolau Cyfres y Fil. Dyma gais i lunio rhestr gyflawn o Lyfrau ab Owen:
-
1. Gwreichion y Diwygiadau wedi eu casgku gan Garneddog. 1905.
2. Clych adgof. Penodau yn hanes fy addysg gan Owen Edwards. 1906.
3. Tro trwy'r wig gan Richard Morgan. Cyfrol 1. 1906.
4. Cerrig y Rhyd gan Winnie Parry. 1907.
5. Capel Ulo gan Elwyn. 1907.
6. Tro trwy'r gogledd gan Owen Edwards. 1907.
7. Robert Owen, Apostol Llafur Cyfrol 1. 1907.
8. Dafydd Jones o Drefriw gan y Parch. O. Gaiannydd Williams. 1907.
9. Tro i'r dde gan Owen Edwards. 1907.
10. Gwaith Hugh Jones, Maesglasau :
i. Cydymaith yr Hwsmon, 1774.
ii.Hymnau newyddio, 1797 1907.
11. Trwy India'r Gorllewin gan y Parch. D.Cunllo Davies. dim dyddiad.
12. Ceris y Pwll gan Owen Williamson, Dwyran, Môn. 1908.
13. Robert Owen, Apostol Llafur Cyfrol II. 1910.
14. Caniadau Buddug wedi eu casglu a'u dethol gan ei phriod. 1911.
15. Brut y Tywysogion. Cyfrol I. 1913.
16. Cyfrinach y Dwyrain gan y Parch. D.Cunllo Davies. 1914.
17. Dr. W.Owen Pughe gan y Parch. T.Mordaf Pierce. 1914.
Argraffwyd y cwbl gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Swyddfa "Cymru," Caernarfon. 'Ab Owen' sydd ar waelod y meingefn, ac eithrio bod enw 'Wrexham, Hughes a'i Fab' ar rai copïau. Mae'n debyg mai llenni gwreiddiol wedi eu rhwymo'n ddiweddarach yn Wrecsam yw'r copïau hynny, gan y ceir copïau gwreiddiol o'r un llyfrau gydag 'Ab Owen' ar y meingefn. Sylwer ar y nifer a ymddangosodd yn 1907, blwyddyn na chyhoeddodd ynddi ond un gyfrol o Gyfres y Fil.
Nid wyf yn gwarantu fy mod wedi gosod y cyfrolau yn union drefn eu hymddangosiad o fewn y flwyddyn. Nid yw tudalen deitl Gwreichion y Diwygiadau yn unffurf â theitlau'r lleill. 'Llanuwchllyn: Ab Owen' sydd ar ddalen ynddi hi. Nid oes ddyddiad arni chwaith. ond dyddir y Rhagymadrodd ar Fai 1, 1905. Mewn rhestri gesyd O.M. hi'n ail i Glych adgof, - awgrym mai wedi ei chyhoeddi y daeth i’w feddwl alw'r llyfrau hyn yn Lyfrau ab Owen, ac ni cheir rhestr ohonynt ynddi hi. Ar ddiwedd Clych adgof y ceir y rhestr gyntaf o'r llyfrau hyn.
Yn ôl y rhestr hon, 'Telynegion Maes a Môr' Eifion Wyn oedd y bedwaredd gyfrol i fod, ond am ryw reswm, er fod y darlun olaf yn Clych adgof wedi ei dynnu o "Telynegion Maes a Môr" yn ôl y cyfeiriad oddi tano, ni chyhoeddwyd y Telynegion yn y ffurf hon. Cyhoeddwyd y gyfrol serch hynny yn yr un Wasg, ond heb ddyddiad. Yn y Rhagymadrodd, a ddyddiwyd ym mis Mai, 1906, fe ddywed Eifion Wyn y 'cyhoeddir y llyfr dan ofal Mr. Owen Edwards, noddwr caredicaf llên Cymru'. Rhoes O.M. hwb iddo yn y Cymru Coch, Awst 15, 1905. Gellir casglu ei fod o'r wasg erbyn hynny.