HEN RWYMWYR LLYFRAU gan Bedwr L.Jones

CYFROL a gefais yn anrheg a'm cychwynnodd ar y trywydd. Copi ydoedd o Eiriadur Cynaniadol Saesneg a Chymraeg Gweirydd ap Rhys a gyhoeddwyd gan Thomas Gee yn 1857.

Un o nifer o lyfrau dysgu Saesneg a gyhoeddwyd yn Gymraeg yn sgil Adroddiad Llyfrau Gleision enwog 1547 oedd Geiriadur Gweirydd. Ond nid ei gynnwys a ddenodd fy sylw. Nid yr enw ar ei ddalen flaen chwaith, a dystiai fod y gyfrol yn 1864 yn eiddo i Owen Owen, Tŷ Mawr, Llaniestyn - llanc ifanc pedair ar ddeg oed ar y pryd.

Na, nid y cynnwys na'r ffaith i'r Geiriadur fod yn eiddo i'r gŵr a ddaeth yn ddiweddarach yn Brif Arolygwr Ysgolion cyntaf Bwrdd Canol Cymru a barodd i mi ym­ddiddori yn y gyfrol, ond yn hytrach label bychan ar du fewn y clawr blaen ac arno'r geiriau 'Bound by E. Hughes, Dinas' Yn Llŷn y mae Llaniestyn. Yn Llŷn hefyd, ac yn yr un ardal, y mae Dinas. Pwy yn Dinas yn 1864 oedd yn rhwymo llyfrau yn broffesiynol ac yn ymfalchïo digon yn ei grefft i fynnu gadael ei enw mewn llythrennau euraid ar y cyfrolau a fu dan ei ddwylo?

Yr ateb yw'r Parch. Evan Hughes, gweinidog gyda'r Methodistiaid yn Dinas. Pregethwr undonog a sych ydoedd, yn ôl pob hanes. "Fel pregethwr nid ydoedd mor huawdl a deniadol â rhai; ond pregethai yn sylweddol ac ysgrythurol", meddai'r ysgrif goffa iddo yn Y Drysorfa ar ôl ei farw yn 45 oed ar 16 Ebrill 1866. Cadarn, yn hytrach na chain, yw rhwymiad y Geiriadur ganddo hefyd.

Dysgu'r grefft gan ei dad-yng­-nghyfraith a wnaeth Evan Hughes. Pregethwr Methodist oedd hwnnw hefyd, a gweinidog yn eglwys Dinas, sef y Parch. Moses Jones.

***

UN 0 ardal Brynengan oedd Moses Jones - o Feudy'r Gaerwen, bwthyn ar fferm Dewi Wyn o Eifion. Ymunodd â seiat Brynengan yn 1811, dechreuodd bregethu yn 1818 dan ddylanwad Diwygiad Beddgelert, a symudodd i fyw i Dŷ Capel, Ysgoldy Pencae­newydd. Yn y fan honno y trodd ei law at rwymo llyfrau. Yng nghofiant ei fab, y Parch. John Moses Jones, Dinas ceir disgrifiad byw iawn ohono.

Aeth â'r grefft i'w ganlyn pan symudodd o Bencaenewydd i Dinas tua 1841.

***

YNG NGHYFNOD Moses Jones ac Evan Hughes nid oedd pregethu a bugeilio yn rhoi i weinidog fywoliaeth ddigonol. Am hynny 'roedd yn rheidrwydd ar weinidogion ymorol am ryw gynhaliaeth arall ychwanegol at eu byw: ffermio neu gadw ysgol, er enghraifft, neu ynteu gadw siop, - neu'n well fyth gael siop i'r wraig ei chadw. Ffordd arall bosib yr adeg honno i weinidog a phregethwr gael deupen y llinyn ynghyd oedd troi at rwymo llyfrau.

Dyna a wnaeth y Parch. Owen Williams, Tywyn, Meirionnydd (1784-1859), a chymhellodd ef Henry Rees yn bregethwr ifanc i gymryd at yr un fywoliaeth, "Nid oes dim gwaith llawer mwy cyd­weddol â'r weinidogaeth, oni bai i chwi fyned i gadw ysgol", meddai Owen Williams wrtho, ac addawodd iddo ddigon o gyfle i ddarllen, rhyddid llwyr i deithio i bregethu, ac yn y man gynhaliaeth gysurus. Derbyniodd Henry Rees y cyngor ac yn 1821 aeth i'r Amwythig i ddysgu rhwymo llyfrau.

Pregethwr arall, Annibynnwr y tro hwn, a fu ar un adeg yn brentis o rwymwr - yn Llanbedr Pont Steffan - oedd Michael Jones (1787-1853), gweinidog enwog yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn. A chofiwn, hefyd, i Eben Fardd yn 1829 fynd i Gaernarfon 'to learn book­binding.'  Dair blynedd yn ddiweddarach cofnoda Eben yn ei ddyddiadur iddo wario tri swllt a deg a dimai yng Nghaernarfon am millboards (sef deunydd cloriau), marble paper, morocco (neu ledr ystwyth) ac outside paper.

Ys gwn i a adawodd Eben Fardd neu Michael Jones neu Henry Rees neu Owen Williams neu Moses Jones eu henwau ar gyfrolau a fu'n cael eu clorio ganddynt? Byddai'n ddiddorol cael gwybod.