GENEDIGAETH Y FORD GRON - YNA'R CYMRO
O lygad y ffynnon gan John Eilian

YMDDIDDAN â'r diweddar Syr David Hughes-Parry yn Llundain a barodd gyhoeddi'r Ford Gron. Braidd yn ddigalon oedd ef ynglŷn â chyhoeddi cylchgronau Cymraeg - a chofier bod iddo gyswllt pur glos â Syr Owen M. Edwards a'i waith: merch Syr Owen oedd ei briod.

Daliwn innau wrtho na fyddai llawer o brynu ar gylchgronau Saesneg chwaith pe baent oll ar yr un dull â’r Fortnightly Review, dyweder, ac y dylid, cyn anobeithio, geisio dilyn dulliau'r dydd o ran argraffwaith ac o osod y llenyddiaeth ger bron. Y penderfyniad a wnaeth fy mhriod a minnau oedd y byddem yn ceisio, ein hunain, gychwyn cylchgrawn Cymraeg modern ei arddull, llydan ei apêl, a gweld be ddigwyddai.

Yr oedd angen sefydlu'r cylchgrawn ar seiliau busnes; golygai hynny gael swyddfa fach, gan y byddai'n rhaid ymdrin nid yn unig â'r gwaith golygyddol ond ceisio denu hysbysebwyr 'cenedlaethol' oddi wrth yr amrywiol agencies yn Llundain. Gyda'r Daily Mail yn Northcliffe House yr oeddwn i yn gweithio, ac er mwyn hwylustod cymerasom ystafell fach yn Fetter Lane, EC4, sy'n agor bron gyferbyn i Swyddfa'r Post yn Fleet Street.

***

GWASG Hughes a'i Fab, Wrecsam, oedd yr unig un yr oedd yn ymddangos i mi fod ganddi'r offer a'r cymwysterau i gynhyrchu'r misolyn. Cawsom groeso mawr gan ei pherchennog, Mr. Rowland Thomas, oedd ei hunan wedi bod â'i lygaid yn agored am gyhoeddiad a allai fod yn adnewyddiad i ochr Gymraeg ei wasg.

Cyhoeddwr papur wythnosol Saesneg yng Nghroesoswallt oedd ef, a'i deulu o'i flaen, a phan ddaethai yn ôl o ryfel 1914-18 yr oedd wedi prynu Cwmni Hughes a'i Fab yn Wrecsam ac wedi cychwyn papur wythnosol arall, y Wrexham Leader. Y cam nesaf yn ei fryd oedd cychwyn papur wythnosol Cymraeg i Gymru oll, ac yn gam tuag at hynny yr edrychai ar ddyfodiad Y Ford Gron i'w chynhyrchu yng ngwasg Hughes a'i Fab.

Yn Llundain yr oeddem yn brysur yn ymohebu â phob ardal yng Nghymru i gyhoeddi am y cylchgrawn ac i greu diddordeb. Ysgrifenasom gannoedd o lythyrau at ein ffrindiau a'n cydnabod ac at bobl y rhoddwyd eu henwau i ni. Golygai hyn fod ein cartref yn Clapham, a'r swyddfa, am fisoedd yn blith­drafflith gan brysurdeb, ond cysurlon oedd pob ymateb.

Printiwyd deunaw mil o'r rhifyn gyntaf (chwe cheiniog hen oedd y pris) ac o dipyn i beth fe setlodd y cylchrediad ar dipyn dros 13,000. 'Doedd dim tebyg wedi digwydd ym myd y cylchgronau. Yr oedd Wrecsam wrth eu bodd.

OND 'doedd hi ddim mor braf yn Llundain. lawn i ddau weithio fel dau slaf yn asbri a her y cychwyn, ond yr oedd yn amhosibl dal ati, a byw. Gwelai Mr. Rowland Thomas sut y safai pethau, a'r diwedd fu iddo ef brynu'r Ford Gron a'm gwneud innau yn olygydd a chyhoeddwr i Hughes a'i Fab, oedd ar y pryd yn cyhoeddi llyfrau yn egnïol hefyd.

Cafwyd cyfnod toreithiog. Gweithiau T. Gwynn Jones, mewn cyfrolau unffurf, cain, oedd un cynnyrch. Hefyd 'Llyfr Mawr y Plant' - y cyntaf. Deuai'r Llenor (W.J. Gruffudd) allan yn chwarterol. Cafwyd Mr. W.S. Gwynn Williams, Llangollen, i mewn i roi trefn a dosbarth ar yr anthemau a'r rhan-ganau a hefyd i olygu cylchgrawn misol Y Cerddor Newydd. Ond nod mawr parhaus Mr. Rowland Thomas oedd ei bapur wythnosol Cymraeg.

Gan mai papur i gylchredeg dros Gymru oll ydoedd i fod, teimlai Mr. Thomas mai "Y Cymro" oedd yr unig enw addas iddo. Ond yr oedd eisoes bapur wythnosol o'r enw hwnnw, sef yr un a gyhoeddid gan E.W. Evans a'i Feibion, Dolgellau, ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd - yn bapur annibynnol o'i gymharu a'r papur swyddogol Y Goleuad.

Y diwedd fu prynu'r papur hwn er mwyn ei deitl, a'i gyhoeddi mewn da bryd cyn Prifwyl Wrecsam 1933, ac fe ymunodd Mr. Einion Evans, o gwmni Dolgellau, â staff Y Cymro newydd. Bu'n aelod golygyddol gwerthfawr am flynyddoedd a thros gyfnod yn olygydd. Wedi i'r Ail Ryfel Byd ddechrau daeth yn swyddog uchel yn yr RAF ac wedyn yn swyddog i'r British Council.

Aelod nodedig arall oedd Mr. Percy Ogwen Jones, oedd wedi bod ar staff y Daily Herald, ar ôl bod yn olygydd Y Dinesydd, papur wythnosol y Blaid Lafur yng Nghaernarfon. Bu yntau am gyfnod yn olygydd Y Cymro. Un arall oedd Mr. Edwin Williams, newyddiadurwr profiadol o Groesoswallt. Cyn hir daeth dyn ieuanc swil o Lille at y drws, sef Meredydd, o Benycae, brawd yr Athro Bleddyn Roberts. Bu ef yn gymrawd celfydd iawn, yn enwedig yn ei waith ar Y Ford Gron.

***

NID OEDD cydweithrediad llwyr rhwng Mr. Rowland Thomas a minnau ar sut bapur y dylai'r Cymro fod. Yr oedd i fod yn fodern ei ddull ond chwenychai ef bapur cyffelyb ei naws i’r British Weekly - crefyddol ond anenwadol. Dadleuem ninnau mai papur newyddion cyffredinol a ddylai fod os mai at gylchrediad helaeth yr amcenid, ond bod newyddion eglwysig i gael eu lle. Rhyw fath o gyfaddawd a fu.

Hefyd barnai Mr. Thomas mai defnyddio'r Ford Gron fel cnewyllyn i gylchrediad Y Cymro oedd gallaf. Felly y bu, a'r teitl ar ben mast y papur newydd am gyfnod fu ' Y Cymro a'r Ford Gron'. Nid oedd y rhan fwyaf ohonom yn credu bod galw am ddiddymu'r Ford Gron: buasai darllenwyr Y Ford Gron wedi prynu'r ddau. Wythnosau o ddirfawr chwys, a gwaith bron ddydd a nos, fu i'r rhai oedd yn arwain at gyhoeddi'r Cymro. Yr oedd y swyddfa olygyddol yn adeilad Hughes a'i Fab yn Wrecsam. Cysodid peth ohono hefyd yno, ond yn Wrecsam y peiriennid. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd fe werthwyd peiriannau argraffu Hughes a'i Fab a pheidiodd y cwmni cyhoeddi â bod ond megis cysgod. Cyhoeddir Y Cymro yn llwyr o Groesoswallt.