FE FÛM INNAU'N BACMON
Gair o brofiad H.Garrison Williams
A FUO chi 'rioed yn Bacmon? Naddo, mae'n ddiau. Fe fûm i - ond cyn mynd at y stori honno rhaid i mi ddechrau trwy gyflwyno Plenydd.
"Yr oedd Plenydd", meddai'r cyn-Brifathro Owen Prys, "yn llenor gwych, yn feddyliwr byes a gwyddai yn dda beth a âi ymlaen yng nghylchoedd meddwl yn ei oes." Rhan o'i Ragair yn y Gyfrol Goffa a ddaeth allan yn 1929, yn dwyn y teitl Plenydd oedd hyn, ac â ymlaen i ddweud "Credaf y darfu i nifer fawr a ddaethant yn flaenllaw ym mywyd Cymru, mewn crefydd, gwleidyddiaeth a gwasanaeth cymdeithasol, ddyfod yn drwm dan ddylanwad cyfareddol ac argyhoeddiadol areithyddiaeth a sêl Plenydd. Cynhyrfai feddylgarwch, cyfrannai wybodaeth, deffroai gydwybod, a chwaraeai ar bob tant dyner yn y galon o blaid sobrwydd a phurdeb bywyd cymdeithasol."
Am ei ddawn fel bardd, caeth a rhydd, ac fel englynwr dywedodd Pedrog ei fod wrth ddarllen ei farddoniaeth yn teimlo "ym mhresenoldeb ysbryd dyn gwir athrylithgar, cyfaill dihoced a llawn cydymdeimlad, a bardd a allasai ennill unrhyw gadair neu goron pe rhoddasai ei fryd ar hynny.
Clywais lawer iawn o bobl bwysig, ar ôl ei farw ar y 27ain Awst 1926, yn dweud pethau cyffelyb amdano, ond er y cyfan y peth pwysicaf i mi ydoedd mai Taid oedd o.
Roedd taid a nain yn ffermio yn yr Hafodlon, y Ffôr, ar gwr Eifionydd, pan oeddwn i’n hogyn ysgol, ac yno byddwn i a'm cyfeillion yn mynd i chwarae ar ôl te a thrwy ddyddiau dedwydd gwyliau ysgol. 'Roedd o a minnau yn ffrindiau mawr iawn, ac roeddwn wrth fy modd pan ddechreuai ddweud hanes ei deithiau ar hyd a lled Cymru i gyfarfodydd dirwest.
Cofiaf yn dda ar ôl ei farw fod cannoedd o lythyrau cydymdeimlad wedi dod i’r teulu, a nifer fawr o'r De. Un wraig, nas Cofiaf ei henw yn awr, yn dweud mai slotyn meddw oedd ei gŵr ar un adeg. Daeth Plenydd i'r fro, ac wrth fynd i lawr y stryd am y neuadd gwelodd y truan yn feddw ar y palmant. Cododd ef, ac er ei gyflwr aeth ag o i'r neuadd. Gosododd y dyn i eistedd ar y llwyfan, wrth ei ochr, ac yng ngeiriau'r wraig "fe drodd ddalen newydd".
Ymddengys fod gan y teulu erbyn amser ysgrifennu'r llythyr cydymdeimlad, siop gwerthu esgidiau mewn tair tref yn y De.
Un gwanllyd o gorff oedd taid, a bregus fu ei iechyd bron ar hyd ei oes. 'Roedd ganddo wasgod drydan arbennig, a batrïau yn ei phedair poced, i'w gadw'n gynnes yn y gaeaf. Eto 'roedd y corffyn gwannaidd, tenau hwn yn gallu ymgynnal yn rhyfeddol. Dyma raglen ei gyfarfodydd ym mis Hydref 1895 -<
1af: Cymanfa Ddirwestol Porthmadog; 2ail: Caer; 3ydd: Wrecsam 4ydd: Tredegar; 5ed: Aberdâr; 6ed: Hirwaen; 10ed: Merthyr; 15ed: Lerpwl (Central Hall); 16eg: Lerpwl (Princes Road); 17eg: Rock Ferry; 18ed: Bootle; 19eg: Lerpwl (Newsham Park); 22ain a'r 23ain: Cyfarfodydd yr Alliance ym Manceinion; 24: Bolton; 26ain a'r 27ain: Hanley; 28ain: Crewe.
***
MAE'N debyg fod Plenydd yn un o'r blaenoriaid ieuengaf erioed i'w ordeinio. Cyn cyrraedd ei ddeunaw oed codwyd ef yn flaenor gan Eglwys (MC) Ebeneser, y Ffôr, yn 1862.
Bu'n gyfrifol am gyfieithu amryw o lyfrau Saesneg i'r Gymraeg, ac mae gen i un o'm blaen 'rŵan. Un o gyfres y Science Primers gan A. Geikie. FRS yw ac wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg o dan ei olygiad ef. Argraffwyd y llyfryn cas caled hwn yn 1881 gan Robert Owen, Heol Fawr, Pwllheli. Ei deitl yw "Daearyddiaeth Anianyddol."
Yn ystod ei fywyd cafodd lawer iawn o brofedigaethau. Claddodd saith o'i naw plentyn - rhai yn ifanc iawn, ac fel hyn y canodd yn ei hiraeth amdanynt:
- I'm Hannwyl Blant a Hunodd
- (Saith ohonynt)
0, mor wyw bethau yw mawr obeithion!
Mi yn fy adail, hwy yma'n fudion;
A ddaw'r golau rywbryd ar ddirgelion?
Llyw yr awr sydd yn llaw'r lôn - diameu
Ceir goleu ym moreu codi'r meirwon."
Un o'r gweithgareddau a roddai fwynhad arbennig iddo oedd arwain eisteddfodau a chyngherddau. Bu lawer gwaith yn arwain Cyngherddau poblogaidd a fyddai ar y lawnt o flaen Ffynhonnau Trefriw. Oherwydd hyn 'roedd pobl y fro yn ei adnabod yn iawn, ac efallai mai hyn a symbylodd fy nhad i lenwi portmanto gyda chopïau o Gyfrol Goffa ei dad yn Haf 1929 i fynd i Drefriw a'r cylch i'w gwerthu. Cefais fynd gydag ef yn bacmon cynorthwyol am yr wythnos.
I fynd o'r Ffôr i Drefriw y pryd hynny - er nad yw'r milltiroedd rhwng y ddau le ond tua deugain - yr oedd yn rhaid llogi tacsi O.H. Griffith, Garej y Ffôr i fynd â ni i stesion Chwilog. Yna trên i Fangor; newid yno i drên Caer a newid drachefn yn stesion Cyffordd Llandudno i drên oedd yn mynd o'r lle hwnnw am Flaenau Ffestiniog. Disgyn yn stesion Llanrwst a Threfriw ac yna cael bws bach Bob Jones i Drefriw.
Yr oeddym yn aros yn y tŷ agosaf i garej y bws bach, wrth rhyw lwc, ac felly nid oedd yn rhaid llusgo'r portmanto yn rhy bell. Ar y siâp oedd ar fy nhad yn ei gario mae'n siŵr gen i ei fod yn andros o drwm. Cawsom groeso mawr gan wraig y llety - hen ferch mi gofiaf oedd hi - a mawr fu ei gofal amdanom am yr wythnos.
***
AETH Y diwrnod cyntaf i setlo i lawr. Erbyn hyn, wrth gwrs, 'roedd y Ffynhonnau wedi cau, ond y dyfroedd iachusol yn dal i gael eu gwerthu mewn poteli arbennig, drwy'r post. Fodd bynnag, 'roedd un o'r ffrindiau mawr a wnaeth fy nhad, yn ystod anterth poblogrwydd y dyfroedd, yn gigydd yno. Pyrs Evans - onid wyf yn camsynio - oedd ei enw.
Bu ef yn hynod garedig wrthym ac un prynhawn aeth â ni ein dau ynghyd â phecyn trwm o'r llyfrau cyn belled ag y medrai modur fynd i fyny i'r mynydd i gyfeiriad Llyn Crafnant. Ffordyn, Model T oedd ei fodur. 0 gofio pa mor serth oedd y ffordd, ar adegau, 'roedd y gymwynas yn un werthfawr iawn.
Yn wir fe nogiodd y Ffordyn ar y serthedd - dwy gêr ymlaen oedd iddo a'r gêr isaf yn rhy ‘uchel' i fynd i'r afael â'r fath allt. Ond 'roedd yr ateb gan Pyrs Evans. Aeth â phen ôl y Ffordyn trwy lidiart, trodd ei du blaen at i waered, gosododd y car yn y gêr wysg-y-cefn, ac felly yn y gêr isel hon yr aeth yr hen frawd wysg ei din i'r top.
Wedi ffarwelio a'r cyfaill, oedd yn awr yn prysuro yn ôl i werthu cig i drigolion yr ardal, troesom ein dau tua'r mynydd a Llyn Crafnant. Wedi aros i ryfeddu at odidowgrwydd yr olygfa buom yn crwydro o fferm i fferm. Credaf fy mod yn cofio enwau rhai - Maes Mawr, Cae Crwn, a Blaen y Nant. Cofiaf yn dda gynhesrwydd croeso'r bobl a'u caredigrwydd i'r ddau lyfrwerthwr crwydrol.
Wedi cael cynnig peth wmbreth o baneidiau te, ac yfed rhai, ymlaen â ni o Ian Llyn Crafnant am Lyn Geirionydd. Hamddena a syllu ar gofeb Taliesin a galw wedyn yn Nhal-y-Llyn, Tu Hwnt i'r Gors a lleoedd eraill. Cael yr un croeso cynnes yma eto.
Fe werthwyd copi o'r llyfr i bob aelwyd ac yna - gan fod y dydd wedi cerdded ymlaen - disgyn yn araf a blinedig i lawr o'r mynydd heibio i Eglwys Llanrhychwyn a lle o’r enw Tan yr Eglwys hyd at chwarel na chofiaf ei henw yn awr. Cyrraedd o’r fan honno i ffordd Llanrwst i Drefriw, a diolch am gael eistedd ar ben wal gyfagos.
Toc, a diolch amdano, dacw weld to bws Bob Jones Trefriw yn dod, a bendithiol i draed y pacmon bach oedd cael eistedd wedi'r cerdded. Cofiaf fod yn dda iawn gennyf gael mynd i'r gwely y noson honno.
Bu'r arhosiad yn Nhrefriw yn fendithiol ar lawer cyfri. Dysgais chwarae croci (croquet) yn y cae chwarae cyhoeddus, cafwyd wythnos o dywydd braf cynnes a chroeso mawr, ac yn bwysicach na dim gwerthwyd nifer fawr iawn o gopïau o’r Gyfrol Goffa i Taid.
Diolch i wraig ofalus ein llety am ei charedigrwydd, i Byrs Evans - y cigydd cymwynasgar - am ei help mawr, ac wrth gwrs i fws bach Bob Jones, Trefriw.
Er nad oes unlle yn debyg i gartref gyda pheth tristwch y chwifiais fy llaw, mewn ffarwel, o'r bws bach ar gychwyn y daith yn ôl i’r Ffôr.