ENWAU'R BEIBLAU gan Gerald Morgan

BEIBL PARRY, Beibl yr Esgob Morgan, Beibl Cromwell - di≠ddorol yw sylwi fel y bu i'r Cymry fedyddio gwahanol argraff≠iadau o'r llyfr pwysicaf yn yr iaith Gymraeg. Nid fod hon yn arfer unigryw i'r Cymry - ceir llawer o sŰn yn Saesneg am y gwahanol gyfieithiadau a wnaethpwyd. Y mae Ilawer yn gwybod am Beibl King James, gan mai dyna'r cyf≠ieithiad Awdurdodedig, ond cyn hwnnw, 'roedd rhai diddorol megis y Breeches Bible a enwyd felly oherwydd i'r cyfieithwyr ddefnyddio'r gair "breeches" i ddisgrifio dillad Adda ac Efa.

Y mae hefyd y Beibl Mawr - The Great Bible - Beibl Genefa, Beibl yr Esgobion, a'r prinnaf oll ohonynt, Y Beibl Drwg - The Wicked Bible. Cafodd bron pob copi o hwn ei losgi oherwydd i'r argraffwyr wneud camgymeriad ofnadwy yn y Deg Orchymyn. Yn lle, "Thou shalt not commit adultery" argraffwyd "Thou shalt commit adultery."

Ond yn Gymraeg, enwau pobl a gysylltir yn bennaf gyda'r gwahanol argraffiadau. Y cyntaf oedd Testament Salesbury, 1567. Y mae'r enw dipyn bach yn gam≠arweiniol, gan i Salesbury gael help gan yr Esgob Richard Davies a chan Thomas Huet, Tyddewi.

Ond y mae'r traddodiad yn iawn yn gwobrwyo Salesbury ‚ chymaint o'r clod - onid ei egni a'i athrylith ef yn bennaf a sicrhaodd dorri mudandod Gair Duws yn Gymraeg? Mae tadogi'r cyfrifoldeb am Feibl 1588 ar yr Esgob William Morgan yr un mor gywir, er i hwnnw hefyd dderbyn llawer o help gan Gymry a Saeson yn ei waith mawr.

Ond nid yw'r enw "Beibl Parry" mor gywir o bell ffordd ‚'r rhai blaenorol. Dyma'r enw a roddir ar ail argraffiad y Beibl cyfan, a argraffwyd ym 1620. Esgob Llan≠elwy oedd Parry, ac yr oedd ei wraig yn chwaer i wraig un o ysgolheigion mwyaf yr iaith Gymraeg, y Dr. John Davies, Mallwyd. Erbyn hyn y mae efrydwyr y Beibl yn hyderus mai John Davies, ac nid Richard Parry, oedd yn bennaf gyfrifol am yr argraffiad anferth, safonol hwn.

OND NI fynnai neb ddadlau ‚ llysenw'r argraffiad nesaf, y Beibl a gyhoeddwyd ym 1630. 'Roedd cyfrol yr Esgob Morgan yn fawr, a chyfrol Parry yn enfawr - Beiblau i'w darllen yn yr eglwysi oedden nhw. Ond Beibl i'r bobl oedd y nesaf, a'i enw hyd heddiw yw "Y Beibl Bach". A bach yw ef, o unrhyw safbwynt, a rhaid bod ein hynafiaid wedi gwneud cryn gam a'u llygaid wrth bori dros y print m‚n.

Bu'n rhaid disgwyl am fwy nag ugain mlynedd cyn yr argraffiad nesaf, ac y mae i hwn enw rhyfedd iawn - Beibl Cromwell, 1654. Er gwaethaf ei dras Gymreig, ni wyddai Cromwell ddim Cymraeg, a'r unig esboniad ar y teitl yw fod Cromwell wedi cyfrannu'n ariannol tuag at y gost o gyhoeddi'r gyfrol.

Beth bynnag, wedi Beibl Cromwell, bu'n rhaid i'r Cymry aros chwarter canrif am argraffiad arall, ac er nad oes llysenw traddodiadol i hwnnw, 'does dim dwywaith mai Beibl Stephen Hughes, y golygydd, neu Beibl y Welsh Trust, y cyhoeddwyr ddylai fod yn enwau ar argraffiad 1677.

***

DAETH argraffiad arall ar Űl bwIch o ddeuddeng mlynedd, ym 1690, ac y mae traddodiad wedi bedyddio hwnnw fel Beibl yr Esgob Lloyd o Lanelwy, er bod cryn amheuaeth a fedrai yr Esgob Gymraeg o gwbI. Nid oes gair da i Feibl Lloyd o ran cywirdeb, ond bu'n rhaid aros eto dros chwarter canrif am Feibl arall, sef Beibl Moses Williams.

Hwn oedd Beibl cyntaf yr S.P.C.K., oedd wedi bod yn cyn≠hyrchu eisoes gryn nifer o lyfrau duwiol Cymraeg. Gwyddom lawer am y gwaith o'i gyhoeddi, ac fel y bu i'r golygydd, Moses Williams, ysgolhaig Cymraeg gorau ei ddydd, deithio trwy Gymru yn hel tanysgrifiadau. 'Roedd yr argraffiad cryno hwn yn boblogaidd iawn.

PARHAODD gweithgarwch yr SPCK, ar Űl marwolaeth Moses Williams, a phan fu galw yn y pedwardegau o'r ddeunawfed ganrif am argraffiad arall, cymerodd y Gymdeithas bender≠fyniad syfrdanol. Am y tro cyntaf, gofynnwyd i leygwr fod yn olygydd y gyfrol, nid o ran ei wybodaeth Ysgrythurol, ond, mae'n debyg, oherwydd nad oedd ymhlith yr offeiriaid Cymraeg neb oedd yn gystal ysgolhaig Cymraeg ‚ Richard Morris, Llundain, un o Forysiaid MŰn.

Ond yr oedd y Gymdeithas yn llygaid ei lle wrth ofyn iddo; cafwyd gwaith sy'n ddihareb o gywirdeb orgraff ac argraff hyd heddiw.

Daeth chwyldro arall ym 1770 pan ddaeth y fersiwn fwyaf adnabyddus o'r holl Feiblau diweddar allan, sef Beibl Peter Williams. 'Roedd y cyhoeddiad hwn yn chwyldro, oherwydd iddo fod y Beibl cyntaf i'w argraffu yng Nghymru.

'Roedd Peter Williams a'r argraffydd, John Ross Caerfyrddin, yn torri'r fraint a sicrhaodd na fedrai neb ond Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ac Argraffwyr y Brenin, gyhoeddi'r Beibl. Esgus Peter Williams, mae'n debyg, oedd mai Esboniad oedd ei waith ef, gyda'r testun ynghlwm wrtho. Beth bynnag, ni feiddiai neb ei erlid yn gyfreithiol, a gwerthwyd ugeiniau o filoedd o gopÔau o sawl argraffiad o waith Peter Williams, ac y mae enw ei Feibl ar lafar gwlad hyd heddiw.

***

DYNA'R olaf, mae'n debyg, o dras y Beiblau bedyddiedig. Bu mynd ar Feibl esboniadol, a argraffwyd yn wreiddiol yn Nhrefeca, ac yr oedd gan Wasg Drefeca Feibl arall, efallai'r lleiaf a argraffwyd erioed yn Gymraeg, ond nid yw'r rhain yn cymharu o ran maint nac hyd yn oed cywirdeb ‚ Beiblau Peter Williams neu Richard Morris.