DIWEDD Y BENNOD ~ A DIWEDD Y LLYFR
D.Tecwyn Lloyd ar gyhoeddi yn Lerpwl

WRTH GLYWED sôn fod hen wasg Hugh Evans a'i Feibion, Gwasg y Brython fel yr adweinid hi orau yn dirwyn i ben, ni allwn beidio â gofidio fod traddodiad hir o argraffu a chyhoeddi Cymraeg mewn tre Saesneg yn dod i ben yr un pryd i bob golwg.

Yn ystod ei oes, yr oedd Hugh Evans (1854-1934) wedi dechrau casglu rhestr o lyfrau Cymraeg a argraffwyd yn Lerpwl. Tros­glwydodd y rhestr wedyn i'w fab yng nghyfraith, William Williams, a oedd ar staff y Llyfrgell Genedlaethol ar y pryd ac yn rhifyn Gorffennaf 1951 o’r Journal of the Welsh Bibliographical Society (JWBS), cyhoeddwyd y rhestr o dan y teitl 'Liverpool Books'. Cafwyd Atodiad i'r rhestr wedyn gan Idwal Lewis (JWBS. Gorff. 1955. Cyf. V111.2).

Dengys rhestr Hugh Evans fod argraffu Cymraeg wedi digwydd yn Lerpwl ers mwy na dwy ganrif. Cyfieithiad loan Thomas o waith William Romaine (1714-95) 'Traethawd ar Fywyd Ffydd...' yw'r llyfr cyntaf ar y rhestr ac fe'i hargraffwyd yn 'Heol y Morfa', Lerpwl, ym 1767. A barnu wrth eu henwau, Saeson oedd yn argraffwr llyfrau Cymraeg cynnar.

Ymddengys fod rhyw W. Jones yn argraffu ym 1803 ac o 1816 ymlaen, ceir y frawddeg, 'Argraffwyd gan John Jones yn argraffdy Nevetts' (Grawn-sypiau Canaan gan Robert Jones, oedd y Ilyfr). Yna, ymddengys enwau Cymreig eraill: T. Thomas (1821), R. Morris (1837), R.Ll. Morris (1839, yr un gŵr efallai?), G.W. Jones & Co: (1846), Hugh Jones (1849), E. Parry & Co: (1849), E. Jones (1850), John Lloyd (1853).

***

ERBYN 1863, yr oedd Isaac Foulkes (1836-1904) wedi dechrau argraffu yno. Yn y flwyddyn honno argraffodd awdl goffa Talhaiarn 'Albert Dda' ac o 1870 ymlaen, troes at gyhoeddi yn ogystal: un o'i lyfrau cyntaf oedd 'Cybydd-dod ac Oferedd' Twm o'r Nant ym 1870.

Ef wedyn, hyd ei farw fu'r prif gyhoeddwr Cymraeg yn Lerpwl. 'Gwnaeth fwy na'r un cyhoeddwr arall i ddwyn llyfrau Cymraeg rhad i gyrraedd y bobl,' ebe William Williams amdano.

***

HEBLAW llyfrau, cyhoeddwyd amryw bapurau a chyfnodolion Cymraeg yn Lerpwl. Dyna'r Dirwestydd (1836-9) gan John Jones; misolyn oedd hwn. Yna, cylchgrawn byrhoedlog, Y Pregethwr (1836-7), o dan olyg­yddiaeth Richard Williams a John Roberts, a'i gyhoeddi gan John Jones fel dau fisolyn.

Ym 1843, dechreuodd Yr Amserau o dan ofal Gwilym Hiraethog. Pythefnosolyn ydoedd a John Jones oedd ei argraffwr a'i gyhoeddwr eto. Ym 1859, fe'i hunwyd â Baner Cymru, Thomas Gee. Ym 1867, cyhoeddwyd Y Tyst Cymreig gan yr Annibynwyr. Wythnosolyn byrhoedlog arall oedd Y Dinesydd (1888-90) a gyhoeddid gan W. Wallis Lloyd, Low Hill. Ber fu oes Y Wyntyll (tua 1890) a gyhoeddid gan ddau aelod o gapel Princes Road, sef Francis Rees Jones ac Elwy D. Symond.

Yna, ym 1890, ar Fai 22ain, dechreuodd Foulkes gyhoeddi Y Cymro: yn y papur hwn ychydig yn nes ymlaen, y cyhoeddwyd Enoc Huws a Gwen Tomos gyntaf. Yn dilyn Y Cymro, ac ar ôl dyddiau Foulkes, daeth Y Brython i'r adwy a pharhaodd o 1906 hyd 1939.

***

PAPUR Hugh Evans oedd Y Brython a'i olygydd cyntaf o 1906 hyd 1931 oedd yr unigryw Je Aitsh (sef J.H. Jones, 1860-­1934). Daeth Hugh Evans i Lerpwl ym 1875 ac am saith mlynedd cyn 1889 pan agorodd siop bapur sgrifennu a phapurau newydd yn Stanley Road, bu'n gwneud clocsiau.

Sefydlodd ei wasg argraffu ym 1897 ac ymhlith rhai o'r pethau amlycaf a argraffodd 'roedd Y Beirniad (1911-18). Sgrifennodd rai llyfrau ei hun a daeth un ohonynt, Cwm Eithin, yn un o weithiau pwysicaf a difyrraf y ganrif hyd yn hyn: yn wir, cychwynnodd ffasiwn yn y math yma o sgrifennu. Yn ystod ei oes, cyhoeddodd Hugh Evans dros 300 o lyfrau Cymraeg, yn ôl y Bywgraffiadur.

Ar ôl ei ddyddiau ef, parhawyd y gwaith gan ei feibion. Hwy a gyhoeddodd amryw o lyfrau diweddar Tegla a Chyfres Pobun o 1944 ymlaen o dan olygyddiaeth yr un gŵr. Hwy hefyd, am lawer blwyddyn, a fu'n cyhoeddi Rhestr Testunau a Rhaglen y Dydd yr Eisteddfod Genedlaethol a hwy hefyd o 1938 hyd 1959 a fu'n argraffu cyfrol y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau. Ond ar ôl dyddiau'r brodyr Evans, ciliodd y diddordeb Cymraeg ac anaml ers rhai blynyddoedd bellach y gwelid llyfr o Wasg y Brython.