DIRGELWCH ARISTOTLE

LLYFR Y BU cryn drafod arno ymhlith rhai o aelodau'r Gymdeithas yn ystod yr wythnos­au diwethaf yw Gwaith Aristotle yr enwog Philosphydd... A thipyn o syndod oedd deall bod yna amryw o gasglwyr llyfrau reit brofiadol yn ein mysg na chlywsant erioed sôn am y llyfr hwnnw, heb son am weld copi ohono!

Beth yw'r dirgelwch, - os dirgelwch hefyd, - sydd ynglŷn â chyhoeddi'r Ilyfr hwn? Pwy, er enghraifft, a fu'n gyfrifol am yr argraffiad ohono a gyhoeddwyd tua diwedd y ganrif o'r blaen, a phwy tybed a aeth ati i ddiwygio orgraff rhai o'r argraffiadau cynnar, ac i ail-ddosbarthu'r darluniau yn ddu a gwyn mewn rhai o'r copïau, ac yn ddarluniau lliw mewn ambell argraffiad? A rhoddwyd y pwyslais ar enw parchus Aristotle am y teitlau er mwyn cuddio'r ffaith mai cyfrol ddarluniadol ar ryw yw hi.

Yr hyn a wyddom i sicrwydd yw mai cyfieithiad yw hwn o lyfr Saesneg a ddarparwyd, efallai, mor gynnar â'r ail ganrif ar bymtheg dan y teitl The Works of Aristotle... His complete master­piece... His Experienced, Midwife ... His book of Problems... His Last Legacy... (llyfr, gyda llaw, y mae un argraffiad ohono yn cael ei ddisgrifio yng nghatalog y Llyfrgell Brydeinig fel "Doubtful or supposititlous work."

Gwelsom bedwar argraffiad Saesneg o'r gyfrol, sef yn gyntaf copi yr argraffwyd y geiriau "Printed for and sold by all the booksellers" ar yr wyneb-ddalen (Llundain 1796); yn ail, copi wedi ei gyhoeddi gan Cocker, Harris & Finn (Llundain, tua 1820); yn drydydd, copi mwy ei faint wedi ei argraffu gan Thomas Richardson (Derby, tua 1840); ac yn olaf, copi ag enw J. Smith (Llundain, 1857) fel argraffydd a chyhoeddwr.

***

YNG NGHATALOG Llyfrgell Caerdydd (1898) y mae cyfeiriad at argraffiad Cymraeg gan R. Jones, Conwy, wedi ei gyhoeddi ym 1816, ond 1826 yw'r dyddiad ar y copi Cymraeg cynharaf sydd wedi ei ddiogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor, gydag enw Robert Jones, Conwy, fel cyhoeddwr.

Gan O. Evans-Jones a'i Gwmni yn Llanrwst yr argraffwyd copi personol Mr. Derwyn Jones, Llyfrgellydd Cymraeg Coleg y Brifysgol Bangor, ac y mae hwnnw heb ei ddyddio. Nid oes dyddiad, nac enw argraffydd na chyhoeddwr ar gopi Mr. Huw Williams, Bangor, ond ar yr wyneb-ddalen dywedir ei fod yn "Gyhoeddedig i’r Llyfrwerthwyr."

Mae pedwar gwahanol argraffiad o'r llyfr ym meddiant y Dr. Bruce Griffiths, Bangor, y cyntaf wedi ei gyhoeddi yng Nghonwy ym 1826: yr ail wedi ei argraffu gan John Jones, Llanrwst (d/d); y trydydd yn dwyn enw Edward Jones, High Street, Bangor, fel cyhoeddwr (d/d eto); a'r pedwerydd (sy'n edrych fel copi anghyflawn) wedi cael ei argraffu yn swyddfa D. Jones yn Amlwch (d/d). A'r Dr. Bruce Griffiths yw'r unig aelod o'r Gymdeithas y clywsom ni amdano sy'n berchen copi o'r gyfrol a argraffwyd yn y Fam Ynys!

***

YNGLŶN â’r llyfr hwn mae tystiolaeth Mr. Tom Roberts o Goleg y Brifysgol Bangor, sy’n frodor o Hermon, Sir Fôn, yn haeddu sylw.

Meddai: "Wrth adrodd ei hanes yn gweini ar fferm ym Môn tua dechrau'r ganrif dywedodd fy nain bod dwy o'i chydforynion wedi cael eu gorfodi i adael eu lle ar ôl i'w meistr ddod o hyd i lyfr a chlawr du iddo dan fatres eu gwely. Aristotle oedd enw'r llyfr, ond ni wyddwn innau y pryd hynny beth oedd cynnwys y llyfr. Yr oeddwn yn methu'n lan â deall pa wrthwynebiad fyddai gan y ffermwr i waith yr athronydd o Wlad Groeg, a pha ddiddordeb fyddai gan y morynion ynddo."

Erbyn hyn fe ŵyr Mr. Roberts fel ninnau mai Aristotle (chwedl ei nain) oedd yr unig lyfr o'i fath, - yn trafod materion fel rhyw, anhwylderau merched, problemau esgor, ac yn y blaen, - y gallai'r Cymro uniaith cyffredin droi iddo am wybodaeth a chyfarwyddyd yn nechrau'r ganrif - a chyn hynny, fe ymddengys.