DEUDDEG MIL O BRINTIAU ~ Cipdrem gan Gwyneth Lewis
Argraff Boydell o Gastell Caernarfon yn 1750
MAE YN y Llyfrgell Genedlaethol dros ddeuddeng mil o brintiau topograffig o Gymru. Fe'u cyhoedwyd o ganol y ddeunawfed ganrif hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg pryd y disodlwyd yr amrywiol gyfryngau ysgythru gan y camera.
Cynrychiolir gwaith nifer o arlunwyr enwog, yn eu plith rhai o Gymru - Richard Wilson, Thomas Jones, Moses Griffith, Edward Pugh a Hugh Hughes.
Fe rydd astudiaeth o'r printiau olwg ar ddatblygiad y gwahanol fathau o ysgythru dros y blynyddoedd megis llin-ysgythru, cerfio ar bren ac ar fetel, 'aquatint' a lithograff.
***
UN O'R printiau cynharaf yw Castell y Waun gan Toms yn ôl Badeslade, 1735. Mae'n waith ffurfiol, manwl a glân o bensaernïaeth y castell a chynllun y gerddi a'r llynnoedd gyda phanorama yn y cefndir yn ymestyn o Gaer i'r Amwythig. Printiau eraill gan yr un arlunwyr yw Castell Penarlag a phlasty Erddig. Perthyn i'r un dosbarth mae golygfeydd y brodyr Samuel a Nathaniel Buck o gestyll ac eglwysi a gyhoeddwyd rhwng 1740 a 1742. Printiau hirgul ydyw'r rhain gydag argraff fân odditan pob darlun.
Brodor o Benarlâg oedd John Boydell y cyhoeddwyd yn 1749-1750 ei gyfres o lin-ysgythriadau o gestyll a threfi caerog Caernarfon, Conwy, Rhuddlan a Dinbych, ynghyd â golygfeydd eraill. Cyfres arall yn yr un cyfrwng ydyw'r un o ddarluniau Richard Wilson, 1775, yn gosod allan gadernid Cestyll Caernarfon, Cilgerran a Phenfro, ehangder a thawelwch copa Cader Idris a Llyn Tegid a holl geinder gorchestwaith William Edwards ym Mhontypridd. Disgybl i Wilson oedd Thomas Jones o Bencerrig, Sir Faesyfed. Ymhlith ei brintiau o Dde Cymru mae un diddorol o dref Caerfyrddin yn dangos cwryglau gerllaw y bont.
Yn ychwanegol at ddarluniau dyfrlliw Moses Griffith, cydymaith Thomas Pennant, mae yn y Llyfrgell hefyd ysgythriadau o amryw ohonynt. Nodwedd amlwg o'i waith yw'r sylw a rydd i fanylion fel y gwelir oddi wrth yr offer amaethu yn ei brint o Ynys Enlli a gwisgoedd y cyfnod yn yr olygfa o Domen Y Bala.
***
AIL HANNER y ddeunawfed ganrif oedd oes aur darluniau dyfrlliw a dyma'r union adeg y daethpwyd o hyd i gyfrwng addas i'w hatgynhyrchu trwy'r dull aquatint. Paul Sandby - ei hun yn arlunydd medrus mewn dyfrlliw oedd arloeswr y cyfrwng hwn ym Mhrydain. Yn ei Views in Aquatinta 1775 - printiau o liw sepia - mae ambell lun diddorol fel yr un o Landyfai, Sir Benfro sy'n cynnwys golygfa o gywain gwair wrth ymyl y castell neu'r un o felin ŷd a phandy Pengwern ger Ffestiniog.
Golygfeydd ar lan afon Dyfrdwy o Lyn Tegid i bont Owrtyn yw testun darluniau aquatint T. Walmsley ac F. Jukes 1792-1794. Cynhyrchwyd ganddynt brintiau gwych, yn eu plith hen blasty Crogen a phontydd Corwen a Llangollen. Print o ddiddordeb hanesyddol yn ogystal â thopograffig yw'r un o ddarlun Thomas Rowlandson o'r bont bren dros dro a godwyd yn Aberystwyth wedi i storm olchi i ffwrdd yr hen bont gerrig yn 1796.
Mae Samuel Ireland yn Picturesque Views on the River Wye yn dilyn cwrs yr afon honno o Bumlumon i Gas-gwent. Dyry ddisgrifiad o ddiwrnod marchnad yn Llanfair-ym-muallt ond darlun o achlysur tebyg yn Aberystwyth sydd ganddo am, medd ef, fod mwy o elfennau'r picturesque yno nag yn y dref ar lannau'r Wy.
Dilyn afonydd o'u tarddle i'w haberoedd a wna J.G. Wood hefyd a chyhoeddodd yn 1813 gyfrol sylweddol o gerfiadau ar fetel (etchings) gydag aml i brint yn adlewyrchu diwydiant y cyfnod fel y rhai o weithfeydd haearn Llangrwyne a Llanelli (Brycheiniog), Cyfarthfa a Phenydarren a gwaith copr Treforus. Mae ganddo hefyd brintiau o raeadrau Cilhepste ac Einion Gam a phlatiau tudalen-ddwbl o drefi Aberhonddu, Caerdydd, Llandeilo, Hwlffordd, Dolgellau, Bangor, Biwmares a rhai eraill.
***
MAE printiau aquatint William Daniell, 1814 yn darlunio mordaith Richard Ayton o gwmpas yr arfordir o Sain Dunwyd ym Morgannwg i Gaergybi ac ymlaen i'r Parlwr Du, Sir y Fflint. Printiau ysgafn, tyner, wedi eu lliwio yn aml mewn gwawr bastel ydynt o borthladdoedd, aberoedd a goleudai.
Yn 1816, tair blynedd wedi marw'r awdur - Edward Pugh o Rhuthun - cyhoeddwyd Cambria Depicta yn Y Strand, Llundain gan Evan Williams, brodor o Geredigion. Ymhlith y printiau aquatint hyn mae gwaith copr mynydd Parys a rhai o gymeriadau diddorol fel Emma Dolben, Mary Thomas o blwyf Llangelynin (y wraig a ymprydiodd) a `Bella' y wraig dweud ffortiwn.
Yn Beauties of Cambria Hugh Hughes 1823 gwelir enghreifftiau o doriadau ar bren - un o'r dulliau cynharaf o ysgythru a ddaeth yn ôl i fri gyda Thomas Bewick ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Yn y Meddiant, Glan Conwy y bu Hughes wrthi'n paratoi'r gwaith. Cynnwys ei waith brintiau o rai o'r golygfeydd llai adnabyddus fel rhaeadr Glyn Hir ar afon Llwchwr ger Llandybie a Phwll Caradog ger Ystradmeurig.
Ysgythriadau sy'n adnabyddus i lawer yw rhai o ddarluniau Henry Gastineau a gyhoeddwyd mewn 56 o rifynnau o Wales Illustrated tua 1832. Adeiladau hynafol sydd ganddo yn bennaf ar wahân i rai fel afonydd Rhondda a Tâf sy'n dangos y newid a fu yn y parthau hynny o'r wlad.
***
ERBYN canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y lithograff yn gyfrwng atgynhyrchu a chafwyd llawer o waith cain ynddo yn enwedig mewn lliw. Mae'r gyfres o waith G. Hawkins yn ddiddorol am ei bod yn croniclo hanes adeiladu Pont Britannia dros afon Menai 1849-50. Cyflëir awyrgylch o brysurdeb ac o achlysur arbennig yn y print o nofio'r ail diwb ar 3 Rhagfyr 1849. Lithograff arall ddiddorol yw'r un o afon Ebwy ger Parc Tredegar yn dangos bedyddio yno ar Sul 22 Hydref 1843 'pryd y trochwyd naw o bersonau yng ngwŷdd rhai miloedd o edrychwyr.'
Ymhlith y printiau mae llawer enghraifft wych o'r gelfyddyd ysgythru ar ei gorau, ond prif nod y casgliad serch hynny yw cofnodi a darlunio daearyddiaeth a hanes Cymru.