CYFROLAU Y GENEDL

CYFROL FACH ddiddorol o hanes llyfrau Cymraeg a Chymreig yw A Nation and its Books a gyhoeddwyd gan adran Gymreig y Bwrdd Addysg yn 1916 - diolch mae'n ddiau i Alfred T. Davies, Ysgrifennydd Parhaol y Bwrdd, sydd â rhagair i'r gyfrol. Fe'i hargraffwyd yn ddeniadol gan y Western Mail mewn clawr papur, a'r pris oedd swllt.

Ar ddechrau'r llyfryn rhoddir dyfyniad o'r Nodyn Rhag­arweiniol i Reolau Ysgolion Elfennol Cyhoeddus yng Nghymru: Gorffennaf 1907. Dyma fe:

Nodir pedwar rhinwedd mewn llyfrau Cymraeg os ydynt i lwyddo:

    Rhaid iddynt fod yn rhad. Mae'r Werin Gymreig yn darllen mwy o
    lyfrau ac yn prynu mwy ac yn fwy llengar na'r un werin yn y byd.

    Rhaid cadw at chwaeth dda. Ni lwyddodd unrhyw gyfrol ddi­-chwaeth
    erioed yng Nghymru.

    Rhaid iddynt fod yn fwy atyniadol eu hymddangosiad. Bron na chymerir
    yn ganiataol ei bod yn rhaid i lyfr rhad fod yn llyfr hyll.

    Rhaid iddynt fod yn nes at law nag ydynt. Nid oes yna'r un ganolfan y
    gall y llyfrwerthwr Cymreig droi ati.

Apelir yn daer iawn am i ysgolion Cymru sefydlu eu llyfr­gelloedd eu hunain, ac i'w helpu i ddewis fe gyhoeddir rhestr o oddeutu dau gant a hanner o lyfrau Cymraeg dan amryfal benawdau ac oddeutu'r un nifer o lyfrau Saesneg am Gymru neu ar destunau Cymreig. Paratowyd y rhestr gan D. Rhys Phillips, Llyfr­gellydd Corfforaeth Abertawe.

Ar wahân i erthyglau ar y diwydiant gwneud papur yng Nghymru ac ar rwymo llyfrau yng Nghymru ceir rhestr o'r prif werthwyr llyfrau ail-law yng Nghymru oedd wedi cyhoeddi eu catalogau eu hunain. Wele'r enwau - Frank Crow, Bank Street Wrecsam; S.V. Galloway, Pier Street, Aberystwyth; David Roberts, Llyfrwerthwr, Ffestiniog; David Williams, King Street, Caerfyrddin; Goronwy Williams, Cymric Book Stores, Rhuthun.