ANGAU YR EISTEDDFOD ~ Cipdrem Hywel Teifi Edwards

0 STEDDFOD fawr Llangollen (1858) ymlaen pan ddaeth y mudiad eisteddfodol yn bwnc trafod a diwygiad dechreuwyd ymddiddori o ddifri mewn cadw "prif gynhyrchion yr Eisteddfodau gyda'i gilydd mewn ffurf wasan­aethgar, gryno a rhad", fel y câi pobl ar wahân i'r beirniaid y fantais o'u gweld. Ac fe genhadwyd hyn gan ddiwygwyr megis Glan Alun a Chreuddynfab a Gwilym Tawe.

Fe arloeswyd y ffordd gan y Gwyneddigion a chyhoeddodd Isaac Clarke Taliesin 1859-61 yn gylchgrawn chwarterol "at was­anaeth y Cymdeithasau Llenyddol yr Eisteddfodau, a'r Orsedd yng Nghymru". 0 Eisteddfod Llan­gollen y tarddodd hwn ac Ab Ithel oedd ei olygydd. Ei brif ddiben oedd cyhoeddi cynnyrch buddugol eisteddfodau a chyfar­fodydd llenyddol, ynghyd â'r beirniadaethau. Yn y gyfrol gyntaf, fel enghraifft, cyhoeddwyd o Eisteddfod Llangollen, awdl Eben Fardd, "Brwydr Maes Bosworth", pryddest Nicander "Cymeriad Rhufain", rhieingerdd Ceiriog "Myfanwy Fychan" - ynghyd â'r beirniadaethau.

Ond naill ai o ddiffyg cefnogaeth neu o ddiffyg defnydd (yr oedd Ab Ithel ymhell o fod yn un o Gymry mwya' poblogaidd ei ddydd) daeth einioes Taliesin i ben.

***

YNA SEFYDLWYD yr unig gylchgrawn a fu i ymdrin yn gyfan gwbl â'r eisteddfod. Y teitl, yn addas iawn, oedd 'Yr Eistedd­fod,' er i 'Llys Arthur' gael ei awgrymu hefyd, a'r golygydd oedd Creuddynfab, a oedd hefyd yn ysgrifennydd yr eisteddfod.

Derbyniodd Cyngor yr Eistedd­fod, mewn cyfarfod yn Yr Amwythig, 10 Ebrill 1863, gynnig o £150 oddi wrth bwyllgor Eisteddfod Caernarfon 1862 tuag at gyhoeddi cyfansoddiadau'r eisteddfod honno. Ac archwyd i Greuddynfab ysgrifennu at bwyllgor Caernarfon i'w hysbysu y bwriedid sefydlu cylchgrawn swyddogol chwarterol gan yr Eisteddfod ac y buasai cyfansodd­iadau Caernarfon yn y rhifynnau cyntaf.

Trefnwyd i Hughes a'i Fab, Wrecsam gyhoeddi'r cylchgrawn am swllt y chwarter - ac yn rhad i danysgrifwyr (gini y flwyddyn). Rhwng Ebrill 1864 ac Awst 1866 cyhoeddwyd dwy gyfrol o Yr Eisteddfod - wyth rhifyn oddeutu naw deg o dudalennau yr un.

Yn y pedwar rhifyn cyntaf ceir llawer o gynnyrch amrywiol Eisteddfod Caernarfon gan gynnwys y traethodau canlynol: "Aneddau Cymry Fel y Maent ac fel y dylent fod"; "The Best Mode of Teaching the English Language to Welsh Children in English Day Schools"; "Benyw: Ei dylanwad ar Gymdeithas" a "The Geology of the Caernarvonshire Rocks". Hefyd, dwy dôn gynulleidfaol, tair canig o dan drefniant o "Difyrrwch Gwŷr Harlech" a "Nos Calan". Ceir hefyd beth o gynnyrch Eisteddfod Abertawe ac Eisteddfod Llandudno 1864.

***

AR WYNEB-ddalen ail gyfrol Yr Eisteddfod priodolir golygiaeth y pedwar rhifyn olaf i Rydderch o Fôn (John Prydderch Williams o'r Rhyl), ond camarweiniol yw hyn. Penodwyd Rhydderch o Fôn yn Ysgrifennydd Yr Eisteddfod pan ymddeolodd Creuddynfab yn Nhachwedd 1864. Yn ôl Mr. Derwyn Jones ni olygodd Rhydderch o Fôn namyn yr wythfed - yr olaf - o'r rhifynnau.

Ni ymddangosodd y pedwerydd rhifyn olaf yn rheolaidd ac awgryma Mr. Derwyn Jones mai yn Awst 1866 yr ymddangosodd y rhifyn olaf.

Yn yr ail gyfrol ceir cynnyrch Eisteddfodau Cenedlaethol Abertawe, 1863; Llandudno, 1864; ac Aberystwyth, 1865. Yn wir cyfieithiad David Griffiths o "Hamlet, Tywysog Denmarc", buddugol yn Llandudno sy'n llenwi'r chweched rhifyn o glawr i glawr.

***

PAN DDAETH tranc Yr Eisteddfod awgrymwyd pedwar rheswm tros hynny mewn erthygl arweiniol yn Y Faner, 25 Gorff­ennaf 1866.

Dadleuwyd fod y teitl yn peri dryswch a'i bod yn anodd gwahaniaethu rhwng y cylchgrawn a'r sefydliad. Ond ni ddylid rhoi llawer o bwys ar yr ymresymiad yma.

Yn ail, honnwyd fod y cynnwys yn ansafonol, fod yna lu o gyfan­soddiadau gwobrwyedig sylfaenol wedi eu diystyru - neu wedi eu colli. Ond anghyfiawn yw'r feirniadaeth yma hefyd. Fe gynhwysodd Creuddynfab ddewis da o gynhyrchion - a dylid cofio fod rhai o'r cyfansoddiadau yn rhy faith i'w cynnwys. A thybed nad oedd yna brinder defnyddiau hefyd - ac mai dyna pam y llanwodd "Hamlet, Tywysog Denmarc" rifyn cyfan?

Yn drydydd, haerodd Y Faner fod ymddangosiad afreolaidd y cylchgrawn wedi ei ddrygu. Ac mae'n gywir na chyhoeddwyd y rhifynnau olaf yn ôl unrhyw drefn. Rhaid beio Creuddynfab am hyn a'r unig esgus a ellir ei gynnig yw ei fod yn bur wael yn 1865.

Pedwerydd achos marwolaeth Yr Eisteddfod oedd diffyg cefnogaeth. "Anfynych iawn", meddai'r Faner,"y gwelir rhifyn ohono ar ford nac yn llyfrgell y darllenwyr Cymreig mwyaf cyson a'n llenorion mwyaf brwdfrydig."