Y GREFFT O DDARLUNIO HEN DDAMWAIN YN Y PWLL ~
Robin Evans yn ymdrin â'r problemau

DYDI GWEITHIO am chwe neu saith diwrnod yn ffilmio ar eich cwrcwd ddim yn hwyl. Ond dyna sut y gwnaethpwyd y rhan fwyaf o 'TRYCHINEB TYNEWYDD', y rhaglen olaf yn y gyfres ALMANAC.

Yn y Pwll Mawr (Big Pit) Blaenafon yr oeddan ni yn ceisio adrodd un o straeon glofaol enwoca'r Rhondda.

Syniad Ioan Roberts a Hywel Davies oedd y rhaglen. Ac 'roeddwn i o'i phlaid yn syth pe bai dim ond am y ffaith mai stori o'r Rhondda oedd hi – y cwm y mae'r clap olaf o lo wedi ei godi ohono erbyn hyn.

Hywel wedyn yn mynd ati i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil, loan yn sgwennu a finna'n pendroni sut ar wyneb y ddaear yr oeddan ni'n mynd i ail-greu trychineb mewn pwll glo!

Ond 'roedd gan y stori yma un fantais fawr ar drychinebau glofaol eraill. 'Doedd nifer y cymeriadau ddim yn fawr. (Ar gyllideb fechan ALMANAC dwi ddim yn credu y gallem ni ystyried ail-greu hanes Senghennydd, er enghraifft!) Er hynny hon oedd y drychineb ddaeth â gwrhydri glowyr y de i sylw'r byd.

Beth bynnag, sgript awr yn barod. Ugain o actorion wedi'u castio. Y cyfan oedd ei angen oedd pwll glo.

Buom yn ystyried adeiladu set. Ond 'doedd hynny ddim yn apelio rhyw lawer. Beth am bwll glo preifat?

Ac yna'r awgrym y dylem fynd i Bwll Mawr, Blaenafon, sydd bellach yn amgueddfa. O'i blaid - dim problem cael caniatâd; fyddem ni ddim yn amharu ar waith neb; 'roedd 'na lowyr, arbenigwyr o gwmpas rownd y rîl; 'roedd 'na gelfi wrth law ac 'roedd yno ddŵr mewn rhan o'r pwll. Wedi'r cyfan, dŵr yn gorlifo'r pwll oedd Trychineb Tynewydd.

Hefyd ym Mlaenafon 'roedd 'na ambell i dwnnel coed fel Tynewydd ac enghraifft o'r hyn a elwir yn piler a stôl, sef y dull o gloddio glo yn Nhynewydd yn 1877.

***

YMLAEN â'r ffilmio. Rhagfyr 1984 oedd hi. Pythefnos oer, rewllyd a'r rhan fwyaf o'r actorion yn gorfod bod ym Mlaenafon tua'r hanner awr wedi chwech 'ma. (Y merched coluro a gwisgo ynghynt, wrth gwrs. Dydi o'n waith rhamantus?) Am hanner awr wedi wyth, gweddill y criw yn cyrraedd – rhyw bedwar ar ddeg i gyd, yn griw cynhyrchu, dynion sain a chamera.

Dafydd Hobson, hogyn o Gaernarfon oedd y gŵr camera – Cymro Cymraeg, brwdfrydig iawn. Ond o'r holl ALMANACIAU mae Dafydd wedi'u ffilmio, go brin iddo gael cymaint o sialens â hon. Wedi'r cyfan, mae'n rhaid i ddyn camera gael golau. Ac o dan ddaear dim trydan o gwbl. Dim cebl, dim byd a allai greu'r sbarcyn lleiaf. ('Roedd yn rhaid i ni i gyd adael ein 'watches' ar ben y pwll hyd yn oed.) Yr unig bŵer a ganiateid oedd batris, a'r rheini wedi'u selio.

Ond fe gafodd Dafydd Hobson fflach, os maddeuwch chi'r term.

Daeth i Bwll Mawr efo rhyw ffrâm sgwâr mecano-yr-olwg. Arno glynodd rhyw ddwsin o lampau helmed y glöwr. Clymodd y batris i gyd yn dynn efo belt. A dyna ni - ei lifoleuadau bach ei hun. Ac felly y bu'n ffilmio dan ddaear am dros wythnos.

Beth am rai o'r problemau eraill?

***

FEL ARFER wrth ffilmio mae 'na rywbeth neu rywun yn rhywle yn siŵr o amharu ar y dyn sain druan - awyren, car, babi'n crio ... Dan ddaear y broblem ydi distawrwydd! Ac 'roedd y meicroffon yn clywed sŵn y camera'n troi. O'r herwydd bu'r camera'n gwisgo côt am dros wythnos.

'Roedd pawb yn gweithio mewn mannau cyfyng iawn, yn griw ac actorion. Ond ar y cyfan, 'chydig iawn o gwyno a fu. 'Roedd rhai wedi gwirioni efo'r profiad, ambell un yn sylweddoli cymaint gwaeth oedd (yw) hi ar y glöwr go iawn, a rhai - actorion yn eu plith - ag ofn gwirioneddol.

Diau fod hyn wedi bod o help i'w perfformiad. Dim ond un ohonyn nhw oedd yn teimlo'n gartrefol. Ernest Evans oedd hwnnw, cyn-löwr a fu'n gymorth mawr i lefnyn o Eifionydd oedd heb fawr o brofiad o byllau glo.

Gwaith ara' deg iawn ydi ffilmio ar y gorau, ond mewn amodau fel hyn 'roedd hi'n arafach fyth. O ganlyniad 'roedd 'na fwy o bwysau ar bawb i wneud pethau'n iawn y tro cyntaf. Ac i rywun fel Dafydd Hobson oedd, mewn un olygfa, at ei ganol mewn dŵr a'r to yn fregus iawn uwch ei ben, 'doedd hi ddim yn hawdd.

Mewn rhan o'r pwll o'r enw Hoskins yr oedd y dŵr ym Mlaenafon. Yn Whitemans yr oedd rhai o'r dynion wedi'u 'carcharu'. Yn y stôl yr oedd y pump fu'n gaeth am un diwrnod ar ddeg. Ac yn New Face y ffilmiwyd y golygfeydd achub a cheibio.

Ar ôl diwrnod neu ddau yr oedd yr enwau yma'n gyfarwydd i bawb o'r criw. Ac ar ôl y bore cynta, âi pawb hefyd ar ei union i'r shed i nôl ei lamp a'i helmed cyn ymlwybro at ben y siafft. 'Roedd 'na ryw deimlad ein bod ninnau hefyd yn cychwyn shifft!

Lleoliad arall fu'n destun sawl sgwrs oedd River Arch. Yno, lle 'roedd nant fechan yn llifo dan ddaear y ffilmiwyd y deifwyr yn eu gwisgoedd a'u helmedau trymion. Mae stori hir a dwsinau o alwadau ff6n tu ôl i'r siwtiau.

Trodd rheolwr cynhyrchu Ffilmiau'r Nant, Morus Elfryn, sawl carreg cyn dod o hyd i gwmni yn ne Lloegr oedd yn casglu hen siwtiau deifwyr. Ond yno yn wir yr oedd dwy siwt wreiddiol o gwmni Siebe Gorman – yr union gwmni a logwyd yn Nhynewydd yn 1877.

Actorion rhaglen 'Almanac'. Cefn - William Huw Thomas(George Jenkins), Dorien Thomas(Moses Powell),
Alun ap Brinley(John Thomas).Blaen - Ian Staples(David Hughes), Elfed Lewys(David Jenkins).

***

MAE cyd-ddigwyddiadau yn frith wrth wneud rhaglenni fel hyn. Cymerwch chi Ian Staples, y bachgen oedd yn actio David Hughes. Mae cartref Ian yn yr union stryd yn Ferndale ag 'roedd David Hughes ei hun yn byw. Nith i David Hughes sy'n byw yn y tŷ heddiw a hi soniodd wrth Ioan Roberts fod 'na "fachgen bach yn y stryd 'ma sy'n mynd i'r ysgol Gymraeg yn Rhydfelen."

Yn digwydd bod, 'roedd o'n actor bach da hefyd a 'doedd acen y Rhondda ddim yn ddieithr iddo! Fwy nag oedd hi i Elfed Lewys a Dorien Williams, dau arall sy'n wreiddiol o'r Cwm.

Oherwydd diffyg amser ac arian bu'n rhaid i ni adael y Pwll Mawr heb ffilmio nifer fawr o fân olygfeydd a dŵr ynddyn nhw. Cwblhawyd y gwaith hwnnw, gydag actorion gwahanol ond yr un gwisgoedd, a stancyn neu ddau mewn ogof yn Nhrefor wrth droed yr Eifl!

Ydych chi'n cofio'r injan stêm honno y bu Trefor Selway a Huw Ceredig yn cynnal sgwrs fer o'i blaen a mwg mawr ym mhobman. Wel, 'roedd yn rhaid cael hwnnw er mwyn cuddio'r weiren bigog oedd tu ôl iddyn nhw.

Rhyw fywyd fel'na ydi gwneud ffilm.