YFORY AMGUEDDFA ABERTAWE gan Rhidian Griffiths

AWGRYMWYD yn ddiweddar y gellid troi Amgueddfa Abertawe yn westy. Byddai hynny'n drueni mawr ac yn golled i'r ardal, oherwydd mae i'r amgueddfa, a Sefydliad Brenhinol Deheudir Cymru o'i blaen, hanes hir a diddorol sy'n ymestyn yn ôl dros ganrif a hanner.

Pan sefydlwyd Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol yn Abertawe yn 1835 'roedd y dref yn ffasiynol ac yn boblogaidd, a'i bae yn denu nofwyr egnïol a chleifion yn chwilio am burach awyr.

Ond 'roedd hi hefyd yn prysur ddatblygu'n ganolfan fasnachol a diwydiannol, a chyn hir byddai'r gweithiau copr ar waelod y cwm yn gor-doi'r ardal â haenen drwchus o fwg, nes ei throi, yng ngeiriau'r nofelydd Jack Jones, yn llwyfan addas i berfformiad awyr agored o Inferno Dante.

Prif ysgogydd y mudiad i sylfaenu'r amgueddfa oedd George Grant Francis (1814-82). Fe'i ganed yn Abertawe ac ar hyd ei oes bu ganddo ddiddordeb ysol ym mhob dim yn ymwneud â'r dref, ei hanes a'i hynafiaethau, ei hadeiladau a'i sefydliadau, ei bywyd cyhoeddus a chynlluniau i wella arni - enwi'r strydoedd a rhifo'r tai, ehangu'r dociau, estyn y rheilffyrdd, harddu'r canol, a chodi twnnel dan afon Tawe.

Ond nid serch at y dref yn unig a barodd iddo ef fod mor frwd dros sefydlu'r gymdeithas a roes fod i'r amgueddfa. 'Roedd nifer o gymdeithasau llenyddol ac athronyddol, a'u diddordeb ym mhob pwnc dan haul, wedi'u sylfaenu mewn trefi mawr ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif ddiwethaf, a hwyrach mai dylanwad cymdeithasau o'r fath ym Mryste a Chastell Nedd a fu'n sbardun i Francis.

Yn 1835, ac yntau'n ŵr ifanc 21 oed, aeth ati i lunio prospectws a denu 50 o danysgrifwyr i ffurfio Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol gyda Lewis Weston Dillwyn, naturiaethwr a hanesydd lleol, yn llywydd arni. Amcan y gymdeithas oedd cymell astudiaeth o bob agwedd ar fyd natur, hanes lleol, llenyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol.

Yn y flwyddyn gynta'n unig cafwyd 172 o aelodau ac aethpwyd ati i godi adeilad pwrpasol yn y 'Burrows' yn ymyl y môr. Agorwyd hwnnw yn 1841 dan nawdd y Frenhines Victoria a'i enwi'n Sefydliad Brenhinol Deheudir Cymru.

***

BWRIADWYD y Sefydliad i fod yn amgueddfa ac yn llyfrgell i Dde Cymru, a daeth yn gyrchfan o bwys. Casglwyd iddo bob math o greiriau lleol – siarterau a dogfennau eraill, blodau a bywyd gwyllt yr ardal, crochenwaith, medalau, lluniau a mapiau.

Agwedd bwysig iawn ar waith y lle oedd y llyfrgell, a fu dan ofal Francis tan 1879. Casglodd lyfrau o hen lyfrgelloedd cylchynol y cylch a chael rhoddion gan foneddigion Abertawe. Sefydlwyd casgliad gwerthfawr o gyhoeddiadau lleol, ac yn 1848 agorwyd clwb llyfrau, yr aelodau i brynu llyfrau swmpus ar bynciau llenyddol a gwyddonol a'u cyflwyno i'r llyfrgell wedi iddynt gylchredeg am ddwy flynedd.

Cyhoeddwyd y catalog cyntaf yn 1851 (er mai 1848 yw'r dyddiad arno), ac mae'n rhestru tua 1800 o weithiau. Erbyn cyhoeddi'r ail gatalog yn 1876 'roedd y casgliad wedi tyfu i ryw bedair mil.

Ond araf oedd twf aelodaeth y Sefydliad er mor gyflym yr oedd y dre'n datblygu yn ystod ail hanner y ganrif, a chan mai cymdeithas o danysgrifwyr oedd hi nid oedd ei hincwm yn fawr. Agwedd dadol oedd agwedd y Sefydliad o'r dechrau – lledaenu gwybodaeth ac addysgu pobl yn enwedig ar bynciau technegol a gwyddonol. Cynhelid darlithiau gyda'r nos a dosbarthiadau addysg wyddonol ac yn 1856 bu symudiad aflwyddiannus i sefydlu Ysgol Wyddonol yn rhan o'r sefydliad.

***

BOB blwyddyn ar y Llungwyn a'r Mawrthgwyn agorid yr adeilad i aelodau'r 'dosbarthiadau gweithiol' (operative classes yw term yr adroddiadau blynyddol), a deuai'r rheini yn finteioedd i weld yr amgueddfa. Ond go brin y gellid disgwyl iddynt ymaelodi trwy danysgrifiad.

'Roedd hyd yn oed yr aelodau'n gwyro oddi wrth y safonau aruchel a osodid ar y dechrau, a chwynai'r swyddogion fod yn rhaid iddynt brynu nofelau – o bob gwarth! – er mwyn cadw diddordeb yn y llyfrgell.

Wedi agor Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe yn 1876 a sefydlu'r Ysgol Dechnegol yn 1897 collodd y Sefydliad Brenhinol lawer o'i ddylanwad fel llyfrgell ac fel noddwr addysg wyddonol a thechnegol yn y dref.

Serch hynny daliodd ati fel amgueddfa a chadwyd y llyfrgell tan ryw ugain mlynedd yn ôl pan wasgarwyd hi, gan drosglwyddo'r llawysgrifau i ofal Coleg y Brifysgol a chadw'n unig gasgliad lleol gwerthfawr. Yn 1973 daeth y Coleg i'r adwy i helpu cynnal yr amgueddfa, a hynny'n llwyddiannus iawn, nes i brinder arian ei orfodi i dynnu'n ôl.

Y cam hwnnw sydd heddiw wedi peryglu eto ddyfodol yr amgueddfa, a daliwn i obeithio y daw help iddi o gyfeiriad arall. Byddai'n gywilydd inni petai sefydliad mor bwysig yn gorfod mynd yn rhan o gadwyn o westyau. Byddai hefyd yn sarhad ar y cof am Dillwyn, Francis a'u tebyg. Beth tybed a feddylient am eu disgynyddion? Yn sicr, nid dyna fyddai eu syniad o progress.