RHUFONIAWC - A DIFLANIAD ORIEL Y BEIRDD
gan Huw Williams

'ROEDD E. Wyn James yn llygad ei le wrth awgrymu yn ei ysgrif 'Argraffwyr Pedr Fardd' yn y rhifyn diwethaf mai un anodd iawn cael gafael ar ei hanes yw Robert Lloyd (Llwyd) Morris ('Rhufoniawc'). Bu'n argraffu mewn amryw o leoedd heblaw Lerpwl, mae'n amlwg, ond gwasgarog yw'r wybodaeth amdano, ac y mae'n rhaid dibynnu ar y cylchgronau am fân gyfeiriadau ato.

Fel argraffydd yng Nghaernarfon y caiff ei ddisgrifio yn rhifyn Tachwedd 1832 o Seren Gomer, pan gyfeirir at farw ei fab, Merddin Llwyd, ar Fedi 19, 1832. Mae'n rhaid, felly, mai byr iawn fu ei arhosiad yn Nhreffynnon ac yn Ninbych (onid hefyd yng Nghaernarfon!), oherwydd ceir cyfeiriadau at 'Robert Morris, Printer' yng nghyfeiriaduron ('Directories') Lerpwl am 1834-1839: yn 1834 yr oedd yn 9 Mason Place, Villars Street, yn 1837 yn 64 Tithebarn Street, ac yn 1839 yn 70 Tithebarn Street.

Ceir amryw o gyfeiriadau ato yn y wasg am 1840, gan iddo brynu'r Gwladgarwr y flwyddyn honno, a hefyd wasanaethu fel ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol y Gordofigion, Lerpwl, sef gŵyl dridiau a gynhaliwyd dros y cyfnod Mehefin 17-19, 1840 yn y 'Royal Amphitheatre'. Ceir hanes yr Eisteddfod hon yn llawn yn rhifyn Awst 1840 o Seren Gomer, t.248 (yn 52 Dale Street, Lerpwl, yr oedd 'Rhufoniawc' yn byw ar y pryd), a rhestrir yn fanwl y gwahanol bersonau amlwg a oedd ynglŷn â hi.

Yn ystod yr Eisteddfod cyfeiriwyd at 'Rhufoniawc' fel `awenydd neu ddyscybl bardd' a 'raddiwyd' yn yr Orsedd, ynghyd a 19 o bersonau eraill gan 'y bardd gweinyddawl'. Tybiaf mai yn yr ŵyl hon hefyd y dyfnyddiodd Robert Lloyd Morris y ffugenw 'Rhufoniawc' am y tro cyntaf, ac mai'n ddiweddarach yn 1840, sef yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni, y derbyniodd ei `radd' fel prydydd (gw. Seren Gomer, Tachwedd 1840).

***

MAE'N amlwg fod Robert Lloyd Morris yn gymeriad pur adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol y genedl cyn 1840, a hynny'n bennaf oherwydd ei gysylltiadau â gwahanol fudiadau a chymdeithasau Cymraeg. (Yn ystod ei arhosiad yn Ninbych, er enghraifft, gwasanaethai fel Cofiadur Cymdeithas Cymreigyddion y dref honno; gw. Seren Gomer, 1832).

Parhaodd ei gysylltiad â'r Eisteddfod am flynyddoedd maith ar ôl 1840, oherwydd yn ôl Trysorfa Lenyddol, wedi ei golygu gan Rhydderch o Fôn, yr oedd yn aelod o bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol y Rhyl, 1863, sef yr ŵyl ryfedd honno pryd y cynhaliwyd cystadleuaeth nofio am y tro cyntaf (a'r olaf hefyd, mae'n debyg!) yn hanes yr Eisteddfod.

Etifeddodd un o'r meibion, hefyd, ddiddordeb ei dad yn 'y pethe', a rhestrir John Morris (Ap Rhufoniawc), y Rhyl, fel un o danysgrifwyr y drydedd gyfrol o weithiau Talhaiarn (t.307).

Ond pwy tybed oedd Robert Lloyd Morris a oedd, yn ei ddydd, yn argraffydd ac yn eisteddfodwr digon prysur, ond na thybiwyd ei fod yn ffigwr digon pwysig i gynnwys dim o'i hanes yn yr un o'r prif eiriaduron bywgraffyddol?

Yn sicr, y mae peth dirgelwch ynglŷn â'i hanes. Yn Rhestr Ffugenwau Henry Blackwell yn y Llyfrgell Genedlaethol (Llsgr. LI.G.C. 6361) rhoir gyferbyn â 'Rhufoniawc': "Rev. Robert Llwyd Morris, Bristol, England, 1855". Beth tybed oedd sail Blackwell dros ddweud hyn?

Nid yw enw Robert Lloyd Morris yn Crockford am 1860 (y copi cynharaf a welais i), ac er ei bod yn eithaf posib iddo droi i'r eglwys a chael ei urddo, ar ôl methu mewn busnes, y mae'n annhebyg mai yn 1855 y digwyddodd hynny, gan ei fod wrthi'n brysur yn argraffu yn ystod y flwyddyn honno, onid hefyd am ddeunaw mis neu ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Awgrymaf mai yn y Rhyl y magwyd 'Rhufoniawc', a'i fod yn fab i John Morris, adeiladydd yn y dref honno a fu farw 20 Ebrill 1857. Yn ei ewyllys, enwa fab o'r enw Robert Lloyd Morris, heb ddisgrifio dim pellach arno. Blwydd-dal o bumpunt yn unig a adawyd iddo, sy'n awgrymu efallai na fedrai'r tad fentro rhoi rhagor yn ei ddwylo ar y tro!

***

YN 1855, ceisiodd 'Rhufoniawc' drefnu un o anturiaethau busnes mwyaf uchelgeisiol ei yrfa fel argraffydd, pan benderfynodd gyhoeddi darlun o drigain neu ragor o wŷr llên Cymru dan y teitl 'Gwyddfa Myfyr', wedi ei baentio gan Ellis Owen Ellis (Ellis Bryncoch), brodor o Abererch, a oedd ar y pryd – fel 'Rhufoniawc' – yn byw yn Lerpwl.

Yn ôl Y Dysgedydd, 1855 (t.440), bwriedid hefyd gyhoeddi cydymaith i'r darlun ar ffurf 'llyfr eglurhaol yn cynnwys bywgraffiad o'r enwogion hynny, i gael ei roddi gyda'r gwaith pan ddelai allan o'r wasg'. Yn ôl yr hanes, 'roedd y darlun yn bedair troedfedd o hyd a dwy droedfedd o led, ac er ei fod yn waith gŵr a ddisgrifiwyd ganrif a chwarter yn ôl fel 'un o'r lluniedyddion hynotaf a ddaeth erioed o Gymru', mae'n weddol amlwg na chyhoeddwyd erioed mo'r darlun y cyfeirir ato hefyd fel "Oriel y Beirdd", gan fod `Rhufoniawc' wedi methu â sicrhau digon o danysgrifwyr i'r antur.

Bu Ellis Bryncoch farw yn 1861, ond beth tybed a ddigwyddodd i'r 'Oriel'? Gwyddys i William Morris (Gwilym Tawe) dalu can gini am y llun gyda'r bwriad o gymryd yr hyn a eilw Myrddin Fardd yn 'haul-arluniau' ohono, ond fe erys yn ddirgelwch beth a ddaeth o'r Oriel wedi hynny.

Tybed a oes unrhyw sail i'r stori a glywais ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl, sef mai cael ei anfon i America – fel amryw eraill o'n trysorau cenedlaethol – fu hanes yr Oriel o'n gwŷr llên?