PLESER - A CHOST SGRIFENNU HANES TRE PWLLHELI
gan D.G.Lloyd Hughes

UN GO anodd i'w wrthod yw golygydd Y Casglwr a phan ddaeth ar fy ôl, yn un swydd, a'i wynt yn ei ddwrn, dridiau ar ôl cyhoeddi Hanes Tref Pwllheli, i ddatgan ei awydd i gynnwys rhai sylwadau o'm heiddo, yn y rhifyn nesaf, i esbonio sut y cesglais yr holl wybodaeth ar gyfer y gyfrol 'doedd gennyf mo'r galon i'w wrthod.

Fel un o aelodau cynnar iawn Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon cefais bleser mawr wrth bori yng ngwaith y diweddar Athro T. Jones Pierce ar hanes Pwllheli yn y Canol Oesoedd a chryfhawyd yr awydd a fu gennyf ers tro i wybod rhagor. Ni feddyliais ar y pryd fod tasg mor anferth o fy mlaen.

Nid fel hanesydd yr enillwn fy mara beunyddiol ac, at hynny, 'roedd galwadau eraill yn hawlio blaenoriaeth ar oriau hamdden. Ond, trwy un o'r cyd-ddigwyddiadau ffodus hynny sy'n dod i ran dyn o dro i dro, cefais fy ngyrru gan fy nghyflogwyr i Aberystwyth i weithio.

Yn fuan ar ôl cyrraedd y dref honno sylweddolais fod hanner canmlwyddiant sefydlu'r cynllun Yswiriant Iechyd Cenedlaethol ar y gorwel. Bu gennyf ddiddordeb mawr yn ymatebion meddygon y wlad pan sefydlodd Aneurin Bevan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn 1948 a phiciais i'r Llyfrgell Genedlaethol i ddarllen rhai o newyddiaduron Cymru am 1911-2 ac i olrhain adwaith y meddygon i gynlluniau Lloyd George.

Ar ôl darllen yr hen bapurau newyddion hynny, i gyd o dde Cymru, trodd fy sylw at rai o bapurau'r hen Sir Gaernarfon a thrwy chwilio am dystiolaeth am rai o ddigwyddiadau yn hanes Pwllheli sylweddolais mor gyfoethog oedd y rheini ar gyfer olrhain hanes lleol. Unwaith yr agorais y drws arbennig hwnnw ni fu ball ar fy niddordeb.

***

YN ANFFODUS, gan na sefydlwyd ein Llyfrgell Genedlaethol tan 1909, nid oedd ganddi gasgliad cyflawn o'r holl bapurau a argraffwyd yng Nghymru cyn hynny. Mewn gwirionedd 'roedd daliadau'r Llyfrgell yn 1961 o bapurau Caernarfon, Bangor a Phwllheli yn y ganrif ddiwethaf yn wan iawn. Ychydig iawn iawn o'r North Wales Chronicle (1828 ymlaen), nifer go dda o'r North Wales Gazette (1808 - 1827) ond daliadau go fylchog o'r Carnarvon & Denbigh Herald (1831 ymlaen).

Hoeliais fy sylw ar y papurau hynny gan obeithio llanw'r bylchau ynddynt yn yr Archifdy yng Nghaernarfon neu Lyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor, ond, yn anffodus, nid oedd daliadau'r ddau le hynny yn gyflawn.

Dysgais, gyda siom, mai'r unig obaith oedd gennyf olrhain pob copi o'r papurau oedd trwy ymweld ag Adran Newyddiadurol y Llyfrgell Brydeinig yn Colindale, Llundain, a hynny a wnes, droeon lawer. Ond hwyluswyd yr ymchwil yn ystod y pum mlynedd diwethaf pan ddechreuodd y Llyfrgell Genedlaethol, er prinned ei chyllid, brynu copïau meicroffilm o newyddiaduron fel y North Wales Chronicle, Yr Herald Cymraeg a'r Genedl Gymreig am y ganrif ddiwethaf.

Bûm droeon yn myfyrio ynglŷn â'r annhegwch mawr, o safbwynt hanes Cymru, mai yn Llundain bell yn unig y ceir yr unig gopïau o lawer o newyddiaduron Cymru. I ba ddiben y cedwir hwynt yno? Teg ydyw dweud y prynais fy hun gopïau meicroffilm o'r Pwllheli Chronicle (1889-1893) a'r Udgorn (1898-1911) oblegid 'roedd yn rhatach na threulio tair wythnos i'w darllen yn Llundain.

Tra'n gweithio yn Aberystwyth bûm yn ffodus iawn i gael caniatâd un o gyfarwyddwyr y Cambrian News i mi ddarllen daliadau'r cwmni o'r newyddiadur hwnnw o 1869, pan gyhoeddwyd ef gyntaf, ymlaen. Hynny a wnes gyda'r nos, ar ôl oriau gwaith, a thros y penwythnos. 'Roedd y daliadau hynny yn cynnwys llawer o argraffiadau arbennig o'r Cambrian News ar gyfer y gogledd a thrwyddynt llwyddais i godi llawer o wybodaeth na fyddwn wedi ei chael fel arall.

Rhwng pob peth rhoddodd y trefniadau hwb mawr i'r ymchwil pan oedd hwnnw yn ei blentyndod megis a phe na bawn wedi cael y cyfle y mae'n dra phosibl na fyddwn wedi medru cyflawni cyn gymaint ag a wnes. Trwy'r trefniadau arbennig medrais olrhain tua 70 o flynyddoedd o hanes Pwllheli mewn cyfnod o tua 6 mis: hebddynt fe gymerai'r ymchwil hwnnw o leiaf dair blynedd ar ei ben ei hun.

Rhoddais flaenoriaeth i'r ymchwil ym myd y newyddiaduron gan mai drwyddynt y cefais berspectif ar ddigwyddiadau'r ganrif ddiwethaf a'r ganrif bresennol yn hanes Pwllheli. Wrth gwrs, 'roedd angen darllen yn helaeth a dilynais yr arweiniad yn y gyfrol Bibliography of the History of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) a'r atodiadau. Yn 1962 yr ymddangosodd yr argraffiad diwethaf o'r gyfrol. I ddechrau cyhoeddwyd atodiadau ar wahân, eithr, ar ôl 1972, cynhwyswyd ychwanegiadau o dro i dro yn un o rifynnau Cylchgrawn Hanes Cymru.

Bu cydweithrediad llyfrgelloedd lleol wrth sicrhau cyfrolau yr hoffwn eu darllen yn werthfawr iawn ond hoffwn awgrymu ei bod yn hen bryd cael argraffiad newydd o'r llyfryddiaeth ar ôl i bron chwarter canrif fynd heibio ers yr argraffiad diweddaraf.

***

TROF YN awr at ddefnyddiau crai eraill. Cyn bod sôn am beiriannau copïo codais yr holl wybodaeth am fedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau plwyf Pwllheli o 1755 hyd 1852 allan o Adysgrifau'r Esgob yn y Llyfrgell Genedlaethol, gwaith a wnes yn llafurus ar Sadyrnau yn ystod y chwedegau.

Cofiaf yn dda gael neb llai na'r diweddar Syr T. H . Parry-Williams yn sibrwd yn fy nghlust un pnawn Sadwrn, "Mi fyddai'n eich siwtio chi i'r dim i gael y lle yma yn agored ar y Sul".'Roedd o wedi'i deall hi.

Prynais gopïau meicroffilm o ddogfennau Sensws 1841 ac 1851 ar gyfer Pwllheli o'r Archifdy Cyhoeddus cyn bod sôn am wneud peth felly gan lawer o'r archifdai sirol, a meddyliwch am y teimlad o rwystredigaeth pan ddeallais fod canlyniadau Sensws 1861 yn y dref wedi cael eu colli yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mewn gwirionedd dysgais sut i ymgodymu â rhwystredigaeth fel magl ar lwybr yr hanesydd. Meddyliwch amdanaf tuag wyth mlynedd neu ragor yn ôl, ar drywydd dogfennau pwysig yn yr Archifdy Cyhoeddus yn Llundain, dogfennau yn ymwneud â thiroedd a oedd ym meddiant Cyngor Tref Pwllheli o 1836 ymlaen.

Yn nogfennau'r Trysorlys gwelais gyfeiriad at ohebiaeth o Bwllheli ynglŷn â'r tiroedd hynny yn 1849. 'Roedd yn amlwg fod y Trysorlys wedi casglu hen ohebiaeth ynglŷn â'r pwnc at ei gilydd er mwyn ateb y llythyr ond nid oedd y cyfryw ymhlith dogfennau 1849.

Wrth ddilyn y trywydd sylweddolais fod y swyddogion yn ychwanegu'r hen ohebiaeth at y newydd dros gyfnod o ddeugain mlynedd a phan gofnodwyd yn 1891 fod yr holl bapurau wedi cael eu trosglwyddo i'r Bwrdd Llywodraeth Lleol cyfeiriais fy ymchwil at ddogfennau'r adran honno o'r llywodraeth.

Methais orffen y gwaith mewn un wythnos ond, yng nghwrs amser, dychwelais ato. Ar ôl ail-ddechrau yn Chancery Lane gorfodwyd fi i droi i gyfeiriad Kew ond, ar ôl llai na diwrnod yno, llyncais bilsen chwerw pan ddysgais fod yr Ail Ryfel Byd hefyd wedi difrodi dogfennau'r Bwrdd ynglŷn â Phwllheli o 1897 ymlaen, yn cynnwys yr hen bapurau a grynhowyd. Chwalwyd fy ngobeithion yn y cyfeiriad hwnnw yn yfflon.

Gan na fedrwn drefnu i neilltuoli amser sylweddol ymlaen llaw ar gyfer yr ymchwil dilyn fy nhrwyn a wnes y rhan fwyaf o'r amser. Dilynais aml i ysgyfarnog, rhai'n dra difyr, eraill yn gwbl ddi-fudd ar wahân i ambell i bwt o bleser pur, yn enwedig pan ddois ar draws sgerbydau teuluol, gan gynnwys, gyda llaw, un o sgerbydau fy nheulu fy hun ni wyddwn ddim amdano.

Tawelaf ofnau pobl Pwllheli. Nid wyf yn debyg o ddwyn y sgerbydau i olau dydd.

Ond i beidio â gwamalu, mi ddywedwn fod y newyddiaduron lleol yn rhagori ar unrhyw ffynhonnell arall yn eu cyfnodau fel cronicl hanes lleol, a chofnodwyd ynddynt ddigwyddiadau pwysig a nodwyd gan ohebyddion y gellir, at ei gilydd, ddibynnu arnynt fel tystion dibynadwy.

Trwy garedigrwydd Ficer Pwllheli ar y pryd, y Parch. Huw Pierce Jones, cefais gadw yn fy meddiant am sawl blwyddyn lyfrau trethi'r tlodion o'r cyfnod 1832-1847. Trosglwyddais yr holl wybodaeth a oedd ynddynt a'i gofnodi ar gardiau, un ar gyfer pob eiddo yn y dref, cyn dychwelyd y cyfrolau. Trwy wneud hynny, a chysylltu'r wybodaeth â thystiolaethau eraill, llwyddais i greu darlun tra effeithiol o fywyd Pwllheli dros gyfnod go bwysig yn hanes y dref.

Medrais brofi nad oedd y plan o Bwllheli yn 1834 a baratowyd gan John Wood yn gwbl ddibynadwy, nid bod hwnnw yn ddiffygiol iawn; na, yn wir, mae'r plan at ei gilydd, yn ymddangos yn dra chywir. Ond daw gwir werth y wybodaeth o'r llyfrau trethi i'r golwg pan gysylltir ef â dogfen a ddarganfûm yn yr Archifdy Cyhoeddus, dogfen sy'n brawf, yn fy marn i, mor bell i mewn at y dref y llifai'r môr ar un adeg, yn ôl yn 1284.

***

OLRHEINIAIS gatalogau di-rif o ddogfennau mewn llyfrgelloedd ac archifdai y tybiwn y gallent gynnwys gwybodaeth am Bwllheli. O ystyried fy mhrofiadau ni byddai'n syndod o gwbl gennyf glywed fod dogfennau pwysig i hanes y dref yn llechu'n dawel mewn llyfrgell neu archifdy diarffordd. Y gobaith, hwyrach, yw y gall yr holl gyfrifiaduron sy'n dod yn rhannau mor hanfodol o'r broses o gadw cofnodion hwyluso'r ffordd i ddod â chofnodion o'r fath i olau dydd.

Ceisiais fanteisio ar waith ymchwil gan eraill. Soniais eisoes am lyfrau a gyhoeddwyd, ond 'roedd traethodau ymchwil am raddau prifysgolion yn ffynonellau pwysig. Yn y cyswllt hwn 'roedd cyhoeddi'r rhestr o Draethodau Ymchwil Cymraeg a Chymreig, 1887-1971, (Alun Eurig Davies) gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1973 yn gaffaeliad mawr, ond trwy gymorth staff y Llyfrgell Genedlaethol, 'roeddwn eisoes wedi darganfod gwerth y traethodau hynny. Gan fy mod wedi sôn am yr ymdeimlad o rwystredigaeth a brofais o dro i dro hwyrach y maddeuir i mi am gyfeirio at ddau draethawd arbennig, y naill ar gyfer M.A., yn 1935 a'r llall ar gyfer M.Sc. yn 1959.

'Roeddwn wedi sylweddoli fod canlyniadau deddf cau comin a basiwyd yn 1811 wedi bod yn sylfaenol i ddatblygiad Pwllheli ond pan ddechreuais geibio gwybodaeth am weinyddiad y ddeddf fe'm siomwyd pan ddysgais yn y ddau draethawd ymchwil fod yr holl waith wedi cael ei adael yn benagored.

Holais yr Archifdy Cyhoeddus yn 1969 a chefais yr un ateb a roddwyd, y mae'n debyg, i'r ddau ymchwilydd yn 1935 ac yn 1959, sef nad oedd y dirprwywr, Richard Ellis, wedi paratoi dyfarniad. Am reswm arbennig, mai yn y Gwasanaeth Suful y treuliais oes o waith, a hynny ar ôl profi, yn ystod fy mlynyddoedd cynnar yn Llundain, beth o ogoniant y gwasanaeth hwnnw yn y blynyddoedd a fu, yn enwedig drylwyredd ei safonau, roeddwn yn anfodlon efo'r ateb a roddwyd.

Ac i Lundain â fi, i'r Archifdy Cyhoeddus yn 1970, i archwilio dogfennau Dirprwywyr y Coedydd, y Fforestydd a Chyllid y Goron, oblegid penderfynais mai yno y cawn yr hyn a geisiwn. Ymhen tridiau wele ddyfarniad Richard Ellis yn dwt ac yn daclus ar y bwrdd o fy mlaen.

'Roedd Ellis, wrth gwrs, i gwblhau ei ddyfarniad erbyn 1821 ond ni wnaeth a bu rhaid olrhain deugain mlynedd o gatalogau cyn cael gafael ar y ddogfen a lofnodwyd gan Richard Ellis yn 1861. Profais wefr anghyffredin wrth ddarganfod y ddogfen honno.

***

YN 1966 aeth fy ngwaith â mi i ganolbarth Lloegr ond, trwy lwc, cefais y cyfle i ddewis i ble yr awn. 0 ran gyrfa mi fyddwn ar fy ennill, y mae'n debyg, pe bawn wedi dewis mynd i Birmingham, ond y dewis arall oedd Llanelli ac yn erbyn hwnnw 'roedd gobaith Birmingham cystal â'r mul yn y Grand National. Heb sôn am fy hoffter o dref y sospan onid oedd Aberystwyth a'r Llyfrgell Genedlaethol yn nes at honno? Yno y bûm hyd amser ymddeol ac am bron i bedair blynedd wedi hynny.

0 Lanelli teithiais i'r gogledd, i'r gorllewin a'r dwyrain i olrhain hanes Pwllheli. Bûm droeon yn Llundain, yng Nghaernarfon, Bangor, Rhuthun, Penarlâg, Dolgellau, Pwllheli a mannau eraill ond, yn naturiol, i Aberystwyth yr awn amlaf.

Dros gyfnod o bymtheng mlynedd teithiais yno, ar gyfartaledd, ddeugain tro bob blwyddyn. Pellter o 140 o filltiroedd yno ac yn ôl, cyfanrif o 84,000 o filltiroedd i'r lle hwnnw yn unig. O ddiweddaru'r treuliau i gyfateb â chwyddiant, ac o feddwl fod rhedeg car yn costio beth bynnag 25 ceiniog y filltir, dyna gost o £21,000 dim ond ar deithio i un lle, a heb sôn am ymborth na thâl am wneud y gwaith.

Mae'n well i mi, er fy lles fy hun, beidio meddwl rhagor faint gostiodd yr ymchwil i mi.