O'R NEIL I FENAI ~ Cardiau Lady Enid Parry

ER IMI ddechrau codi Y Casglwr pan ymddangosodd y rhifyn cyntaf, ni fu gennyf awydd casglu dim fy hunan. Er hynny, y mae gennyf gryn ddiddordeb yn y pethau y mae pobl eraill yn eu casglu. Y mae un o'm ffrindiau yn casglu doliau, ac y mae ganddi erbyn hyn gasgliad anferth o ddoliau o bob rhan o'r byd lle y bu hi'n teithio.

Bu ffrind arall yn casglu tebotiau, ac un o'm trysorau pennaf yw tebot bach pinc, â llun o fae Aberystwyth arno, a 'A present from Aberystwyth' wedi ei ysgrifennu o dan y llun. Fe roes hi'r tebot bach tlws yma yn anrheg i'm gŵr pan gafodd ei ben blwydd yn bedwar ugain oed.

Yn rhifyn diwethaf Y Casglwr, rhifyn cyntaf degfed blwyddyn y cylchgrawn, Mawrth '86, dyma ddarllen erthygl hynod o ddiddorol gan Dafydd Guto, casglwr cardiau Post. Wrth ei darllen, cofiais fod gennyf rywle yn y tŷ yma ddau neu dri o hen gardiau post, er nad yw'r un ohonynt mor hen â'r cerdyn hynaf ym meddiant Dafydd Guto.

Y marc post sydd ar y cerdyn hynaf yn fy meddiant i yw Chwefror 26,1907. Llun wedi ei baentio â llaw sydd ar un ochr iddo - llun dyfrlliw o fachgen a geneth mewn cwch rhwyfo ar afon Menai, wedi ei dynnu o ochr Caernarfon, a thair llong hwyliau yn y cefndir, gydag arfordir Sir Fôn y tu ôl iddynt. Maint y cerdyn yw 5¾"' x 3¾", a 'Carnarvon' sydd ar y marc post.

Cyfeiriwyd y cerdyn at 'Miss J. Jones, Post Office, Bottwnog, Nr. Pwllheli', sef fy mam, a oedd yn athrawes yn ysgol Miss Kerrish, yng Nghaernarfon. Saesnes oedd Miss Kerrish, a hi a anfonodd y cerdyn at fy mam, a oedd wedi mynd dros dro i ddysgu plant Ysgol Pont y Gof yn Llŷn, gan fod un o athrawon yr ysgol honno yn wael.

Yn Swyddfa'r Post ym Motwnnog yr oedd hi'n lletya, yn ystod y tymor y bu hi yn ysgol Pont y Gof.

Dywed Miss Kerrish ar y cerdyn, 'This PPC was painted by Gwladys Hall, so is unique.' Y mae gennyf gof plentyn am rai o aelodau'r teulu Hall, a oedd yn byw yng Nghaernarfon yn ystod chwarter cyntaf y ganrif hon.

***

I MI yr anfonwyd y ddau hen gerdyn arall sydd yn fy meddiant, a'r ddau oddi wrth Robert Bryan, y bardd a'r cerddor o Gaernarfon a oedd yn ffrind mawr i'm rhieni.

 

Treuliai Robert Bryan bob gaeaf yn yr Aifft, er mwyn ei iechyd. Yno, yr oedd ei dri brawd wedi agor siopau dillad, yng Nghairo i ddechrau, ac ehangu wedyn yn Alexandria, Port Said a Khartoum.

Anfonodd gerdyn imi yn 1911, â marc post Alexandria arno. Maint y cerdyn yw 5½" x 3½". Sepia yw'r llun, a'r gair 'Egypte' wrth ei ben a 'Pyramide de Sahhara' ar ei waelod.

Llun un o'r pyramidiau ydyw, a dau o frodorion y wlad gyda'u hanifeiliaid yn y tywod o'i flaen. Ar y cefn ceir y cyfarchiad "Gyda phob dymuniad da i'r fechan a phawb sydd yn ei charu, oddiwrth R.B." Mae'n debyg mai cerdyn i'm croesawu i'r byd oedd hwn.

Anfonodd ail gerdyn imi yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1913 yn ôl y marc post. Nid yw enw'r lle y postiwyd y cerdyn yn glir o gwbl, ond y mae'r gair 'postcard' wedi ei argraffu mewn amryw o ieithoedd - Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Rwseg. Llun teml ar ynys Philaw sydd arno - llun du a gwyn.

'Rwy'n trysori'r ddau gerdyn hyn, ac yn gresynu fy mod i'n rhy ifanc i gofio'r gŵr dawnus a'u hanfonodd imi, ac a drafferthodd hefyd i gario potelaid o ddŵr o'r Iorddonen i Gaernarfon i'm bedyddio.

 

NODYN
Dywedwyd o dan ddarlun cerdyn post o eifr gwylltion yn y rhifyn diwethaf mai ar Ynys Lawd (sydd ar arfordir Môn) yr oedd y geifr. Ond ar ynys 'Lundy'(sef Ynys Wair ym Môr Hafren 'roedd yr hen eifr yn crwydro! — Gol.)