ORIAWR RHYW GARDI gan Hafina Clwyd
UN O'R mannau oedd yn medru fy hudo iddo fel cacynen at bot o jam mefus oedd Marchnad Hen Bethau Ally Pally yn Llundain. I'r dienwaededig, Ally Pally yw'r gair brodorol am Alexandra Palace, anghenfil o adeilad yng ngogledd Llundain lle y darlledwyd y rhaglenni teledu cyntaf a lle a losgwyd i'r llawr ryw dair blynedd yn ôl.
Yn achlysurol cynhelid Ffair antiques enfawr yn y Neuadd Fawr yno - neuadd oedd yn ddigon mawr i gynnal seremonïau’r Coroni a'r Cadeirio pe bae angen. Yno byddai cannoedd o stondinau yn gwerthu popeth fyddai'n debygol o dynnu dŵr i ddannedd unrhyw gasglwr.
'Rwy'n edifar hyd heddiw na fuaswn wedi benthyg pres er mwyn medru prynu'r cerflun Staffordshire hwnnw o John Eleias am £30. Gallaf ei weld y munud yma yn swatio ar y stondin a'r miloedd yn cerdded heibio – miloedd nad oedd erioed wedi clywed sôn am John Eleias na'r un Eleias arall o ran hynny – a'u waledi'n llawn. Y cwbl fedrwn i ei wneud oedd syllu'n farus arno.
Un o'r rhai oedd yn 'rhedeg' stondin yno yn gyson oedd un o 'nghyd-athrawon yn yr ysgol yn Llundain. Erbyn hyn y mae wedi gadael ei swydd fel uwch-athro gan iddo flino taflu ei berlau o flaen y moch a chychwyn busnes llwyddiannus fel casglwr a gwerthwr hen bethau.
Ac yn gwneud mwy o arian ambell ddiwrnod nag a wnâi fel athro mewn hanner blwyddyn! Un o'r pethau y mae'n ei gasglu yw copi rhifyn cyntaf o bob llyfr Penguin a gyhoeddwyd – ac y mae'r rhai cynharaf yn medru bod yn werthfawr iawn, credwch fi.
Un diwrnod dywedodd wrthyf fod ganddo oriawr boced arian wedi'i gwneud yng Nghymru. "Anrheg iawn i dy ŵr" meddai'n gyfrwys. Gan ei fod yn gyd-athro (a hefyd yn Gymro) fe'i cefais ganddo am bris rhesymol – fy nghopi argraffiad cyntaf o St. Joan (Bernard Shaw) rhifyn Penguin.
Ni wn hyd heddiw pwy gafodd y fargen orau. Ar ddiwrnod call ni fuaswn yn breuddwydio am brynu oriawr boced arian, yn arbennig gan nad oedd fy ngŵr ar y pryd yn berchen siwt a gwasgod er mwyn ei harddangos yn ei gogoniant. . .
Oriawr rhif 330482 o siop O.Davies, Llanbedr Pont Steffan. Tu mewn i'r cas ceir - William Lloyd Jenkins, Cribbin 1914. A phwy tybed oedd hwnnw? |
Ond pan agorais yr oriawr a darllen beth oedd yn ysgrifenedig ynddi, fe fu'n rhaid i mi ei chael. Y tu mewn i'r cas wedi'i gerfio yn yr arian y mae'r geiriau: 'William Lloyd Jenkins. Cribbin. 1914.' Dros y blynyddoedd bûm yn meddwl tybed pwy oedd o? Ai ar ei ymadawiad i'r Rhyfel Mawr y cyflwynwyd yr oriawr iddo? Ac a ddaeth o'n ôl? Sut y bu iddi `fynd ar goll' o bentref bach Cribbin a chyrraedd siop deliwr mewn hen bethau yng ngogledd Llundain?
Buaswn wrth fy modd yn darganfod rhywbeth am ei pherchennog cyntaf. A hefyd am ei gwneuthurwr oherwydd y tu mewn i'r oriawr fe welir y manylion canlynol: 0 Davies, High Street, Lampeter. No. 330482. Y marc arian yw llew gorweddiog (passant) mewn tarian, angor mewn tarian, JR mewn diemwnd/loseng ac M mewn tarian. Credaf mai marc arian Birmingham yw'r angor ac mai M yw'r flwyddyn y cofrestrwyd y marc.
Tybed a oes unrhyw un o ddarllenwyr Y Casglwr a allai daflu rhyw oleuni ar berchennog cyntaf yr oriawr – William Lloyd Jenkins – ac O. Davies o Lanbedr Pont Steffan a'i gwerthodd iddo?
Ac yn fwyaf arbennig, a oes disgynnydd i W.Ll. Jenkins sy'n barod i dalu ffortiwn i mi am ei hadfer i'r teulu? Oherwydd y mae fy ngŵr wedi tyfu allan o'i wasgod - honno a brynais iddo i fynd efo'r oriawr.