HEDD WYN A SHAKESPEARE gan D.Tecwyn Lloyd

FIS EBRILL, 1984, cefais lyfr yn rhodd gan dri o hen gydnabod a chyfeillion ysgol sef y Mri R. Gwilym a Frank Jones, Cwm Cottage, Bethel, Llandderfel a'u chwaer, Miss Beti Jones.

Eiddo eu tad, William Evans Jones oedd y llyfr ac yr oedd ef wedi ei eni a'i fagu yn ardal Trawsfynydd. Un o'i ffrindiau ysgol oedd Hedd Wyn, y ddau, mi gredaf, oddeutu'r un oed.

Ddiwedd Hydref, 1901, cafodd WEJ y llyfr hwn yn wobr ysgol wedi ei lofnodi: Presented to William Evans for progress made during the year 1900-1901. Morgan Phillips, Head Teacher. Uwchben hyn, ceir stamp yr ysgol sef­'Ffestiniog. Higher Grade Boys' School.'

Dywedodd fy hen ffrind Dr Meredydd Evans ei fod ef yn cofio'r Morgan Phillips hwn, – ymhell ar ôl 1901, wrth gwrs.

Argraffiad un-gyfrolog o weithiau Shakespeare yw'r llyfr, The 'Victorian' Edition, 1900 gan Frederick Warne & Co. ac y mae'n gyfrol gorffol o 1136 tudalen a phob tudalen wedi ei rhannu'n ddwy golofn.

Ynddo'i hun, nid oes dim byd arbennig yn yr argraffiad, un o'r Myrdd argraffiadau o weithiau 'Alarch yr Afon' ydyw ac un digon blin i'w ddarllen. Nid am hynny y soniaf amdano yma.

Rywdro ar ôl ei dderbyn, gofynnodd Hedd Wyn a gâi ei fenthyg. Felly bu; bu'r llyfr ganddo am fisoedd lawer a phan ddaeth yn ôl i'w berchennog 'roedd rhai llinellau a pharagraffau wedi eu marcio ganddo a hyn, bellach, sy'n arbennig yn y copi hwn o'r gyfrol.

***

FAINT o'r dramâu a ddarllenodd HW ni ellir dweud canys dim ond mewn un, sef The Life and Death of King Richard II y ceir y tanlinellu. Dewis braidd yn annisgwyl efallai, ond wele'r darnau a drawodd sylw Hedd Wyn yn ddigon dwfn iddo drafferthu eu nodi.

***

DYLID dweud nad disgybl ysgol yn dilyn unrhyw astudiaeth o ddrama Richard II oedd Hedd Wyn pan fenthyciodd y gyfrol hon ac felly, ei ddewis annibynnol ei hun yw'r darnau a nododd yn y ddrama. O'i ben a'i bastwn ei hun, felly, fe ddewisodd sylwi'n arbennig ar rai o'r darnau enwog y byddai pob myfyriwr hyffordd yn eu dewis; prawf go bendant o'i chwaeth lenyddol gynhenid a'i ymdeimlad sicr o fawredd ymadrodd barddonol.

Ni wn a fu gan y darllen hwn ddylanwad ai peidio ar ei farddoniaeth ef ei hun ond mi gredaf iddo gael gafael ar ehangder dychymyg gwir fawr a thra gwahanol i ddim ym marddoniaeth y ganrif y ganwyd ef ynddi trwy ymroi i ddarllen hyd yn oed dim ond un o ddramâu mawr Shakespeare. Dichon ei fod wedi darllen mwy.

Sonia William Morris yn ei gofiant i Hedd Wyn fel y byddai'n benthyca llyfrau gan ei gyfeillion ac yn eu plith, `Shakespeare gan William Jones, Caerhingylliad' (t.38). Hon, felly, oedd cyfrol William Jones a dyna ni yn awr yn gwybod rhywfaint beth a gafodd Hedd Wyn ohoni.