DULL BERIAH O DRA-DYRCHAFU EI GENEDL ~
R.Maldwyn Thomas a mytholeg darllenwyr

Cylchrediad Y Genedl Gymreig ac eraill!!

BERIAH Gwynfa Evans, golygydd, Eisteddfodwr ac impresario’r papurau Cymraeg a gychwynnodd y chwedloniaeth am y cylchrediad. Mi fu Beriah Evans yn byw yng Nghaernarfon am rai blynyddoedd, ac am iddo fod yn brif olygydd Y Genedl Gymreig, Y Werin a'r North Wales Observer and Express o 1892 hyd 1895 yr oedd o'n ddwfn yng nghyfrinach cylchrediad y papurau pwysig a llewyrchus hyn, a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon am hanner canrif a mwy.

Yn wir yr oedd Beriah Evans wedi sicrhau ei le yn serchiadau perchenogion y papurau hyn cyn iddo ddod i fyw yn y dref, a hynny oherwydd ei sylwadau twymgalon a rhosynnog i Gomisiwn Addysg Cross, 1886-1888, gan honni (Adroddiad 2.42,576) bod cylchrediad wythnosol Y Genedl Gymreig yn 23,000 ers blynyddoedd.

Cyflwynodd Beriah Evans y sylwadau hyn yn dalog ar sail atebion a dderbyniwyd ganddo i'w holiadur i berchenogion yr holl bapurau Cymraeg ynglŷn â chylchrediad eu cyhoeddiadau.

Yn ôl yr holiadur roedd 17 o wythnosolion Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yng nghyfnod Comisiwn Cross hefo cylchrediad wythnosol cyfunol o 120,000 a chylchrediad unigol y rhain yn amrywio o 1,500 hyd at 23,000 "The highest weekly circulation returned for any single newspaper is 23,000 which has been the weekly issue for years of Y Genedl Gymreig ... published in Carnarvon".(Cross, loc cit)

Doedd gan Beriah Evans ddim cystadleuaeth wrth gwrs. Ychydig iawn iawn o wybodaeth sydd ar gael am gylchrediad y papurau Cymraeg yn oes Victoria, (a phob oes arall o ran hynny), ond o edrych ar y dystiolaeth a godwyd, yn rhyfeddol, am Y Genedl Gymreig, ei chymar Y Werin a'r papur Saesneg y North Wales Observer and Express yn ystod yr wythdegau, fe welir bod Beriah Evans wedi camarwain pawb gan ddefnyddio techneg seml draddodiadol perchenogion papurau newydd drwy gyfuno cylchrediad wythnosol y tri chyhoeddiad a'u cyflwyno fel cylchrediad unigol Y Genedl Gymreig.

***

FE LANSIWYD Y Genedl yn 1877 gan gwmni o Ryddfrydwyr lleol a oedd yn anghytuno â pholisïau uniongred Yr Herald Cymraeg, prif bapur Cymraeg Gwynedd, a gyhoeddir hefyd yng Nghaernarfon. Wel, dyna'r rheswm cyhoeddus am gychwyn Y Genedl.

Y tu ôl i lenni trymion enwadaeth a gwleidyddiaeth y dref, yr oedd yna hefyd andros o ffrae bersonol wedi cronni ers misoedd rhwng John Evans, perchennog maverick papurau'r Herald a'r Parch Evan Jones, gweinidog newydd imperialaidd Capel Moriah, Caernarfon – ffrae a oedd wedi rhwydo Hugh Pugh, bancer lleol, a'r Rhyddfrydwr cyfoethocaf yng Ngwynedd yn ei ddydd, heb sôn am frithyll llai, ond hynod liwgar, megis John `Gwyneddon' Davies, cyhoeddwr, dirwestwr, a Cadwaladr Davies, cofrestrydd cyntaf Coleg y Gogledd.

Gwelwyd un act ddramatig o'r ffrae hon yn seiat Moriah un noson waith pan ddiarddelwyd John Evans Yr Herald o braidd y Parchedig Evan Jones.

Llwyddiant cynnar Y Genedl a'r awydd am dynnu blewyn o drwyn John Evans, a oedd yn berchennog y Caernarfon and Denbigh Herald yn ogystal â'r Herald Cymraeg a sbardunodd griw Y Genedl i lansio'r North Wales Express ychydig ar ôl sefydlu'r papur Cymraeg.

Yn 1884 fe unwyd yr Express hefo'r Bangor Observer a chreu'r teitl newydd. Yna, yn 1885, ar ôl agor y lein rhwng Bangor a Bethesda, fe lansiodd y cwmni y papur dimai Y Werin, gan greu cystadleuaeth ffyrnig i bapurau mwy sydêt swyddfa'r Herald.

***

ROEDD yna newid wedi bod ym mherchenogaeth papurau grŵp Y Genedl yn 1884. O 17 Medi y flwyddyn hon hyd ddiwedd 1891, 'Cwmni'r Wasg Newyddiadurol Genedlaethol Gymreig' oedd y perchenogion, ac yr oedd W.J. Parry, 'Y Tad Bedydd' a 'Mr. Undeb y Chwarelwyr' dyn galluog, gweithgar (ond anonest yn ôl yr hen Ryddfrydwyr siriol), yn amlwg fel un o brif gyfarwyddwyr y cwmni, ac fel golygydd am dymor hefyd.

Yn sicr yr oedd ef a Beriah Evans yn llawia, a W.J. Parry a fu'n bennaf gyfrifol am ddod â Beriah Evans – ('Beriah is coming', W.J.Pat, D. Lloyd George, 'and he wants a five bedroomed house in town') - at bapurau'r Genedl yn 1892.

Felly y daeth Beriah, crëwr y chwedloniaeth, i Gaernarfon.

Roedd cylchrediad Y Genedl ar lethr y goriwaered yn ystod yr wythdegau cynnar - yng nghyfnod cyd-olygyddiaeth R.D. Rowlands 'Anthropos' a'r Parch J.Evans Owen, gweinidog Methodus yn Llanberis ar y papur.

Honnwyd cylchrediad o 18,000 am rifyn 17 Awst 1877; erbyn wythnos olaf Rhagfyr 1883 roedd y gwerthiant i lawr at 7,030, ac i lawr eto at 6,300 erbyn 10 Medi 1884, rhifyn olaf golygyddiaeth 'Anthropos' a J. Evans Owen.

Achosodd y dirywiad hwn i olygydd Y Cennad Hedd, y Parch W. Nicholson, yn Lerpwl, ddatgan (Medi 1884) yn hapus faleisus fod Y Genedl "yn prysur deithio i'w mynwent", oherwydd bod yna ormod o Fethodistiaid yn gofalu amdani. Fe daniodd 'Anthropos' ei fagnelau yn erbyn Y Cennad Hedd yn rhifyn 3 Medi, 1884 o'r Genedl.

***

Y PARCH. Abel J. Parry, gweinidog hefo'r Bedyddwyr oedd y golygydd a ddewiswyd gan y cwmni newydd ar gyfer Y Genedl yn 1884.

Ac yn syth bin fe fu cynnydd mawr yng nghylchrediad y papur - i fyny at 7,540 yn wythnos 17 Medi, 1884.

Roedd y naid hon yn llawer uwch na phatrwm y dirywiad cyson a fu yn hanes Y Genedl ers 1882. Bu'r cynnydd yn gyflym wedyn, ac erbyn wythnos 2 Rhagfyr 1885 yr oedd y gwerthiant yn 10,150 o gopïau.

Yna, trai eto. Yn ystod haf 1886 fe ymadawodd A.J. Parry â Chaernarfon, ac ymhen ychydig fe'i dilynwyd yng nghadair Y Genedl gan W.J. Parry. Roedd ef wedi golygu'r Werin, a anelwyd at y chwarelwyr, ers sefydlu'r papur hwnnw.

Cwympodd gwerthiant Y Genedl o binacl 2 Rhagfyr 1885, am rai misoedd, er nad oedd byth yn is na 9,500 yn ystod 1887, ac yn wir erbyn Tachwedd a Rhagfyr y flwyddyn honno yr oedd yn gyson dros 10,000.

Yna yn wythnos 11 Ionawr 1888 fe gyrhaeddwyd 11,000 – am y tro cyntaf yn ystod oes `Cwmni'r Wasg Newyddiadurol Genedlaethol Gymreig'– gan ddringo at y pinacl o 11,600 am dair wythnos – 14, 21, 28 Mawrth 1888.

Parhaodd W.J.Parry i ofalu am Y Genedl, ond fe ddirywiodd y cylchrediad wedyn, at 10,000, 5 Mehefin 1889, a rhodio tua'r 9,700 – 9,800 am weddill y flwyddyn hon.

***

DYMA felly oedd gwerthiant Y Genedl. Mae rhifau cylchrediad wythnosol papurau'r cwmni hwn yn dangos yn amlwg mai rhifau cyfun oedd y tu cefn i'r honiadau wythnosol a roddwyd gan Beriah Evans – honiadau a lyncwyd yn ddihalen gan T.M. Jones, 'Gwenallt', Llenyddiaeth fy Ngwlad a chan draethodau M.A. a Ph.D. Prifysgol Cymru ers hynny, heb sôn am ambell lyfr safonol.

Papur 11 Ion 1888 14 Maw 1888 6 Chwe 1889 18 Rhag 1889
Y Genedl Gymreig 11,400 11,500 10,600 9,700
Y Werin 8,200 9,000 11,000 8,900
N.W.Observer/Express 1,225 1,500 1,750 1,500
Rhif cyfun 20,825 22,000 23,350 20,100

***

MAE'N werth ymhyfrydu yn y Gymraeg yn ei nerth, gan gofio am fodolaeth sylweddol Yr Herald Cymraeg yn yr un dref.

Roedd gwerthiant dau bapur Cymraeg 'Cwmni'r Wasg Newyddiadurol Genedlaethol Gymreig' yn gampus. Ar binacl gwerthiant Y Genedl yn y cyfnod hwn yr oedd cylchrediad y papur hwn a'r Werin (11 Ionawr 1888) yn 19,600.

Ac ar binacl gwerthiant Y Werin yn yr un cyfnod (6 Chwefror 1889) yr oedd cylchrediad y ddau bapur yn 21,600.

A dyma ni yn agos at rif honedig Beriah Gwynfe Evans am Y Genedl ar ei phen ei hun. Wrth ychwanegu offrwm gwylaidd y North Wales Observer and Express am yr un wythnos, yr ydym yn cyrraedd, ac yn mynd heibio, rhif hud Beriah a dechrau'r fytholeg.