DIRGELION TORRI PEDR FARDD O'R SEIAT
gan E.Wyn James

FE ANED John Jones, Castle Street, Lerpwl ar 29 Medi 1790. Brodor o Lansanffraid Glan Conwy ydoedd, ond tua 11 oed aeth i Lerpwl, lle y'i prentisiwyd am saith mlynedd yn argraffdy y Mri Joseph Nevett & Co., 'Booksellers, printers and stationers, 9, Castle St.'

Wedi gorffen ei brentisiaeth, a dod trwy hynny yn un o ryddfreinwyr y fwrdeistref, parhaodd i weithio yn swyddfa Nevett gan fynd yn oruchwyliwr yno, ac efallai'n bartner yn y Gwmni, o 1812 ymlaen.

'Rwyf yn ddiolchgar iawn i Mr M. R. Perkin am anfon ataf y dyfyniad canlynol o hysbyseb yn y Liverpool Mercury, 10 Awst 1832, sy'n taro goleuni ar yrfa John Jones: 'J. Jones (successor to Joseph Nevett & Co) printer and stationer, 9 Castle Street, informs friends ... that having had the superintendence of the late J. Nevett & Co's printing office for the last 20 years, he has now undertaken the above business on his own account. . .'

Yr achos am y newid, mae'n siŵr, oedd marwolaeth Joseph Nevett yn 1832, a dyna egluro hefyd pam nad oes cyfeiriad at Nevett (cyfenw sy'n tarddu o'r enw Cymraeg Ednyfed, mae'n debyg) ar yr eitemau a argraffodd John Jones dros Pedr Fardd yn 1833.

Bu John Jones yn aelod amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Pall Mall ac, yn wir, yn gyfaill agos i lawer o arweinwyr yr enwad. Ef, er enghraifft, oedd gwas priodas John Elias adeg ei briodas â Lady Bulkley yn Lerpwl yn 1830, ac ef yw'r John Jones a ysgrifennodd gofiant i John Elias ar y cyd â John Roberts ('Minimus') yn 1850.

Tua diwedd 1821 ymadawodd un o brif arweinwyr yr achos Methodistaidd â Lerpwl am Ddinbych, sef Daniel Jones, mab hynaf Robert Jones, Rhos-Ian (gŵr yr argraffodd John Jones y pedwerydd argraffiad o gasgliad ei dad, Grawn-sypiau Canaan, drosto yn 1816).

Ac yn 1821 hefyd fe godwyd John Jones yn bregethwr gan yr eglwys, at y ddau bregethwr a oedd gan y Methodistiaid eisoes yn Lerpwl, sef Thomas Edwards a Thomas Hughes, (dau y cyhoeddodd John Jones gofiant iddynt yn 1829).

Yn 1822 dechreuwyd cynnal Cwrdd Misol ar gyfer arweinwyr yr achos Methodistaidd yn Lerpwl, gyda John Jones yn ysgrifennydd cyntaf iddo, a Phedr Fardd yn aelod ohono, gan ei fod yntau yn flaenor yn Pall Mall er 1799.

***

ROEDD disgyblaeth gadarn yn nodwedd amlwg o'r achos yn Lerpwl. Er nad oes sicrwydd o'r union ddyddiad na chamwedd, daeth Pedr Fardd o dan ddisgyblaeth eglwysig, a'i symud o'i swydd fel blaenor – er mae'n amlwg fod teimlad eithaf cryf ymhlith yr aelodau fod y ddisgyblaeth ar Pedr Fardd yn yr achos hwn wedi bod yn rhy lem.

Rhaid bod y disgyblu wedi digwydd rywbryd ar ôl Ionawr 1824, gan fod ei enw yn digwydd ymhlith y blaenoriaid mewn cofnodion yr adeg honno, ac mae'n eithaf posibl na ddigwyddodd tan rywbryd ar ôl Hydref 1833 (gweler atgofion Eleazer Roberts yn Y Genhinen, Ionawr 1906, t.11, a Thomas Charles Edwards, Bywyd a Llythyrau ...Lewis Edwards, pennod 5).

Er ei fod yn aelod mor amlwg, bu John Jones yntau o dan ddisgyblaeth yn 1830. Cynhaliwyd isetholiad seneddol yn Lerpwl yn Nhachwedd 1830. Hynodid yr etholiad, meddir, gan faint y llwgrwobrwyo a fu ynglŷn ag ef, a phrynwyd pleidleisiau'r etholwyr yn gwbl ddigywilydd.

Un o'r rhai a werthodd ei bleidlais – am £30 – oedd John Jones. Fe'i disgyblwyd ef am hynny trwy ei atal rhag pregethu a'i atal hefyd o'r Cymundeb.

Gan iddo gwympo ar ei fai a dychwelyd yr arian, fe dybid yn gyffredin y byddai'n cael ei adfer i'w swydd fel pregethwr ymhen amser; ond er cael ei adfer yn lled fuan i'r Cymundeb, daeth yn amlwg nad oedd y swyddogion am roi iddo ei le yn ôl fel pregethwr.

Ond – fel yn achos Pedr Fardd – yr oedd cryn deimlad o'i blaid ymhlith yr aelodau, a pharodd y mater lawer o chwerwder a diflastod.

***

DYWEDIR fod un neu ddau o'r swyddogion yn gwbl amharod i roi unrhyw ran iddo mwyach yng ngwaith yr eglwys. Yn 1832 etholwyd mab arall i Robert Jones, Rhos-Ian – Samuel Jones – yn un o'r blaenoriaid. Gŵr cyfoed, bron, â John Jones ydoedd, ac wedi bod yn Lerpwl er yn 15 mlwydd oed.

Roedd yn ddisgyblwr llym, a cheir yr argraff nad oedd yn cyd-dynnu'n dda â John Jones. Ef a gadwodd gofnodion cyfarfod a fu'n trafod achos John Jones ym Mai 1833, a gwelir yn y frawddeg hon un rheswm am amharodrwydd y swyddogion i'w adfer i'w swydd: 'Dywedwyd fod ymddygiad annoeth y brawd J. Jones pan yn ei swydd wedi brifo blaenoriaid yr eglwys, fel mai peth mawr iawn fyddai cael gwellhau yr esgyrn a friwiwyd.'

Ond yr oedd pethau i fynd yn waeth eto. Erbyn Medi 1836 yr oedd nifer y blaenoriaid wedi lleihau yn sylweddol, a bu'n rhaid cynnal etholiad. Oherwydd y tyndra a fodolai o hyd yn y sefyllfa, bu'r etholiad hwn yn fater o gryn bryder i'r eglwys ac i arweinwyr yr enwad.

Ym marn y gweinidogion hynny a alwyd i mewn i gyfri'r pleidleisiau, nid oedd neb o gapel Pall Mall 'wedi cael ei alw yn deilwng' yn yr etholiad.

Ond yn fuan aeth y si ar led fod John Jones a Pedr Fardd wedi cael nifer da o bleidleisiau ac mai'r rheswm dros eu gwrthod oedd bod y ddau flaenor yn Pall Mall, Samuel Jones a David Williams, wedi dweud yn bendant wrth y gweinidogion 'na chydweithredent byth â John Jones, Castle Street.'

Roedd y cwrdd eglwys a ddilynodd yr etholiad yn un digon stormus, gyda chefnogwyr y ddau yn creu tipyn o stŵr – ond y cwbl yn ofer.

Ysywaeth, nid dyna ddiwedd yr helyntion trist. Ychydig yn nes ymlaen cododd anghydfod arall rhwng John Jones a'r blaenor David Williams. Cytunodd mwyafrif yr eglwys ei fod ar fai, ac fe'i diarddelwyd fel aelod mewn cyfarfod yn Ionawr 1838.

Aeth John Jones o'r cyfarfod hwnnw gan ddatgan ei fod yn ffarwelio â chorff y Methodistiaid Calfinaidd am byth. Ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr yn y Tabernacl, Great Crosshall Street, ac fe'i dilynwyd yno yn fuan gan ei wraig a'i ferch.

Ychydig wythnosau wedi diarddel John Jones, galwyd ar yr eglwys i ddewis blaenoriaid eto, a'r tro hwn etholwyd tri yn Pall Mall, a Phedr Fardd yn un ohonynt – arwydd, mae'n siŵr, mai John Jones oedd y wir broblem yn etholiad 1836.

***

ARHOSODD John Jones am rai blynyddoedd gyda'r Annibynwyr, yn uchel ei barch yn eu plith. Defnyddiwyd ef yn helaeth ganddynt, a bu'n un o'r rhai a sefydlodd eglwys newydd Salem, Brownlow Hill (Grove Street wedi hynny). Ond fel y dywed y deyrnged iddo yn Y Drysorfa yn 1855 (t.62), 'ni chafodd orffwysdra i wadn ei droed nes dychwelyd yn ôl'.

Ail ymunodd â'r achos yn Pall Mall (yn nechrau gaeaf 1848, yn ôl pob tebyg), a dywedir iddo 'lithro yn esmwyth a naturiol i'w hen sefyllfa' yn eu plith. Er nad yw ei enw yn rhestr y pregethwyr yn Y Dyddiadur Methodistaidd hyd 1854, pregethai yn gyson gyda'r enwad, ac ar daith bregethu y bu farw yn Ionawr 1855, yn sydyn, o wendid calon.

Yr oedd yn pregethu yn Wrecsam ar Sul cynta'r flwyddyn. Fore Llun galwodd gyda Charles Hughes (Hughes a'i Fab) am lyfrau, ac yng ngeiriau D.E. Jenkins: 'Aeth yr ymgom yn hwy na'r bwriad, a bu raid i John Jones frysio i ddal y trên. Wedi ysgwyd llaw â chyfaill neu ddau, eisteddodd i lawr, a phlygodd ei ben. Erbyn i feddyg gael ei alw at y gerbydres yn Gresford, cafwyd ei fod wedi marw. Claddwyd ef yn y Necropolis, Low-hill, Lerpwl, y dydd Llun canlynol' (gweler hefyd yr adroddiad o'r digwyddiad yn Geiriadur Bywgraffyddol J.T. Jones, cyf. I, t.664). Arwydd o'r parch tuag ato yw'r ffaith bod 700 yn ei angladd.