CREFFT Y LLYFR gan John Eilian

YCHYDIG IAWN o sylw a gafodd y grefft o argraffu a llunio llyfr yng Nghymru, ac ni wn am yr un argraffydd sydd wedi ceisio rhoddi delw newydd ar lyfr Cymraeg - dilyn llyfrau Lloegr a wnaed o hyd.

Cofier, yr oedd ambell argraffydd yn deall ei grefft yn dda - yn wir, ceir ambell un gwych - ond dilyn Lloegr a'r Alban a wneid yn gyson. Pan oedd William Rees yn cyhoeddi ei gyfrolau i'r Welsh MSS Society prin fod yr un argraffydd yn y wlad yn rhagori arno, ond os cymerir y Welsh MSS Soc. a llyfrau'r Spalding Club gwelir bod gwasg George Cornwall, Aberdeen, yn argraffu yn debyg iawn i wasg y Ton, Llanddyfri, yr un adeg.

Gellir dweud yr un peth am eraill. Ymdrechodd y Guild of Graduates a Jarvis and Foster, Bangor, wneud cyfres y Guild yn batrwm, ond deckle-edge, antique paper a llythyren ddu oedd prif nodau argraffu ganddynt hwy, a hynny oedd mewn bri yn Lloegr at bethau cyffelyb.

***

COFIR HEFYD am lyfrau Cymdeithas Llên Cymru. Y prifathro J.H. Davies a Syr John Ballinger oedd wrth gefn y gyfres hon; yr oedd y papur yn Whatman da, y llythyren yn lân a'r argraffwaith yn ddi-fai. Canmolwyd gwasg Wm. Lewis, Caerdydd, yn fawr am ei gwaith, ond os troir at Report cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol yn 1908 gwelir bod y Caxton Press, Croes­oswallt, yn gwneud gwaith mor lân ag yntau mewn Report.

Wedyn dyna gyfres fach dwt y Bala - 'Tro i'r Eidal' etc., gan Owen M. Edwards. Yr oedd yn well patrwm na Chyfres y Fil, er mal dilyn y Camelot Series a wneid a bod y Temple Classics yn rhagori llawer ar honno.

***

YR OEDD Dr. Gwenogvryn Evans yn credu ei fod ef wedi ei eni i fod yn argraffydd, eithr dilyn y llythyren farfog a'r deckle-edge antique paper oedd ei nod ef yn ei wasg breifat yn Nhremvan, Llanbedrog. Dilyn Bellows, argraffydd da yn Gloucester, a geisiai Dr. Evans.

Ymffrostiai yn nhudalen flaen Llyfr Gwyn Rhydderch, ond yr unig beth oedd ganddo o'i feddwl ei hun oedd rhoddi llythyren wen (outline) i ateb y 'Llyfr Gwyn', a go brin y tybiai neb sy'n dilyn yr argraffu gorau fod y ddalen flaen honno yn dangos crefft dde. Prynu teip yn dameidiau o Edinburgh neu'r Clarendon Press, a chwilio am floreated caps o'r Almaen, a wnaeth Dr. Evans. Y mae darnau o'r Red Book Poetry a'r Llyfr Gwyn wedi eu gwneud yn dda, ond nid ydynt yn anelu at ddim newydd fel argraffwaith.

***

DYLID DWEUD gair am "Ddwyfol Gân" Dante. Daniel Rees, yr Herald, Caernarfon, oedd yn gyfrifol amdani. Rhaid oedd cael 'art paper' er mwyn darluniau'r "Kelt" a llythrennau Miss Rees. Da gweld ymdrech am rywbeth allan o'r cyffredin, eithr nid oedd dim gweledigaeth. Y mae llawer gwell crefft ar yr argraffiad mawr o "Dringo'r Andes" (Eluned Morgan), o wasg y brodyr Owen, y Fenni, nag sydd "Dwyfol Gan".

***

YN AWR bu gan Gymru lyfrau - fel Gramadeg Shon Dafydd Rhys 1592 wedi ei argraffu gan Thomas Orwin Llundain - llyfrau y talai yn dda iddi eu dilyn fel patrwm. Y mae'r llythyren gystal â dim a ddaeth o law Plantin o Antwerp neu Claude Garamond o Baris ac yn bleser i edrych arni. Y mae byd o wahaniaeth rhyngddi a Geiriadur William Salesbury 1547 o swyddfa Waley. Pe dilynasai Cymru Orwin yr hytrach na thraddodiad argraffu'r Beibl a Waley a'r llythyren farfog buasai gwell golwg ar bethau.

Dywedir mai o waed Cymreig yr hanai T. Thomas, argraffydd cyntaf Gwasg Prifysgol Caergrawnt, ac y mae'n sicr fod William Morris yn hanu o linach Gymreig. Gwnaeth Thomas waith ardderchog a Morris ydyw tad y deffroad ym myd argraffu er nad ydyw'r argraffwyr gorau yn dilyn llwybr Morris bellach. Cododd Lewis Morris Môn, cyfaill Goronwy, wasg lle'r argraffwyd "Tlysau'r Hen Oesoedd", a dywedir iddi fynd yr eiddo Dafydd Jones o Drefriw.

Bu Cymru yn enwog am lythyren gam ei llyfrau gynt, ond nid oes dim hanes neilltuol am dorri llwybr newydd. Y peth hynotaf yn hanes argraffu yng Nghymru ydyw gwasg John Ceredig Davies, cenhadwr a fu gynt yn Ne America ac Awstralia. Prynodd deip a gwasg yr hen 'Observer' yn Aberystwyth. Argraffodd ei hanes ei hunan a phethau eraill, ac ni welwyd dim tebyg iddynt, eithr 'curios' ac nid pethau cain ydynt.

Y mae llyfrau costus Gwasg Gregynog gystal â dim o'u bath, eithr dilyn Lloegr a wneir yn yr argraffu, a phethau fel y Dover Press ydyw'r patrwm.