CASGLU'R LLYFRAU CYNNAR ~ Dyleit Dafydd Wyn Wiliam

DECHREUAIS ar y dasg bleserus o gasglu llyfrau a llyfrynnau Cymraeg cynnar dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl a chanolbwyntio ar gynnyrch y gweisg cyn 1800. Y mae'n holl bwysig dechrau casglu pan fo rhywun yn ifanc a dyfalbarhau. 0 wneud hynny y mae gobaith llwyddo a byw i weld yr hyn a gesglir yn troi'n fuddsoddiad.

Lloffais yn yr un maes â gwŷr amlwg fel Syr John Williams a'r Prifathro J.H. Davies, eithr yn wahanol iddynt hwy nid euthum at y gwaith o gasglu gyda chod yn llawn o arian. Fesul un, nid yn bentyrrau, y cynyddodd fy nghasgliad.

Ni chefais gyfle fy rhagflaenwyr i sicrhau sacheidiau o lyfrau o lyfrgelloedd Gwilym Cowlyd, Myrddin Fardd ac eraill. Er gwaethaf hynny llwyddais i grynhoi dros chwe chant o lyfrau a llyfrynnau cynnar, sef y casgliad preifat mwyaf o'i fath yn y byd.

Hytrach yn brin bellach yw llyfrau Cymraeg cynnar nad ydynt eisoes wedi eu cynnull i ddiogelwch llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau eraill ac aeth yn fwyfwy anodd imi ychwanegu at fy nghasgliad. Sut bynnag, deil ambell gyfrol garpiog i ddod i'm meddiant ar ôl teithio o law i law am genedlaethau a wynebu peryglon mawr lleithder, llygod, llwch a llanastr mewn sawl lle.

***

Y MAE'R gyfrol ieuangaf ar fy silffoedd yn 200 oed, eraill yn 300 oed, ambell un yn 400 oed a'r hynaf oll yn 414 oed. Rhyfedd fel y bu iddynt oroesi rhaib a siawns y canrifoedd. Pwysig yn fy ngolwg yw cael copïau cyflawn a glân ac yr wyf yn dra awyddus i wella ansawdd cyffredinol fy nghasgliad.

Meddyliais yn aml beth a barodd imi ymroi i gasglu llyfrau Cymraeg cynnar. Anodd gennyf yw rhoi un ateb pendant. Mympwy. Sylweddoli brinned a phwysiced y llyfrau hynny. Ie, hwn yw'r ateb.

Gyda'i gilydd, y mae'r holl lyfrau hyn yn ffurfio rhan eithriadol bwysig o hanes ein cenedl. Llyfrau crefyddol yw y mwyafrif ohonynt a darllenais y clasuron o'u plith.

Ni wn i ddim beth fydd tynged fy nghasgliad. Gallwn eu gwasgaru trwy arwerthiant neu eu gwerthu i unigolion neu sefydliad am bris go lew. Ar hyn o bryd yr wyf am barhau i gasglu gan ohirio'r penderfyniad ynglŷn â'u tynged. Yn y cyfamser fe rannaf â chwi nodiadau ymyl y ddalen a geir ar rai o'r llyfrau cynnar gan ddechrau yn y rhifyn nesaf.