BYWYD A MARWOLAETH EGLWYS JERUSALEM ~
Nansi Selwood a'r Achos wan
Hen rybudd a rannwyd yng nghapel Jerusalem - a De Cymru wedi ei gynnwys gyda'r 'mannau peryglus'. |
YN 1856 fe gyfarfu nifer fach o wŷr a gwragedd mewn bwthyn ar lethr Mynydd y Foel ym mhlwyf Penderyn. William Lewis, rheolwr chwarel tywod y Foel oedd yn byw yno ac ef oedd yr un mwyaf brwd am gael dechrau achos Methodistaidd yn y pentref. Cafodd gefnogaeth selog William Walters - Bili'r Crydd - a hefyd Joseph Williams y Cerddor, gweithiwr yn un o chwareli calch yr ardal.
Yn ôl Dewi Cynon, hanesydd Plwyf Penderyn, 'roedd wyth o chwareli wedi'u hagor erbyn 1850 ac 'roedd poblogaeth y pentref yn cynyddu'n gyflym. Codwyd rhagor o dai ar frys yn hen bentref Pontbrenllwyd ond gan fod y chwareli tua hanner milltir yn nes at Fannau Brycheiniog, fe dyfodd pentref bach newydd o gwmpas tafarn y 'Lamb.'
'Roedd nifer o'r mewnfudwyr eisoes yn Fethodistiaid ac fe gafwyd yr hwb i godi capel bach ar fin yr heol fawr i Aberhonddu.
Felly chwarelwyr a ffermwyr oedd y gwŷr a aeth ati i godi'r capel, ac mae'n amlwg wrth yr hen lyfr cofnodion nad oedd yr un ohonynt yn bensaer nac yn grefftwr. Cafwyd trafferthion di-ri' gyda'r to. Bu'n rhaid talu'n gyson am lechi a hoelion ac un tro bu'n rhaid talu am roi 'stay' ar y to. 'Roedd y ffenestri hefyd yn torri'n aml.
'Roedd y costau cyson hyn ar ben y llog ar y ddyled i Gapel Bethel, Hirwaun yn faich ariannol trwm ar yr ychydig aelodau. Ychydig o'r gyllideb fechan (£18 yn 1978) oedd ar ôl i dalu pregethwyr a dibynnwyd i raddau helaeth ar bregethwyr cynorthwyol lleol fel Bili'r Crydd ei hun a godai ddeuswllt am ei wasanaeth a'r Morgan Ifans ffyddlon o Hirwaun a bregethai'n gyson am hanner coron.
Mae'n debyg ei fod yn bregethwr cydwybodol, diffuant ond heb ddawn i draddodi na diddori. Dywedodd ei gyd-flaenor o Fethel, William Bifan, amdano, "Fi gas yr alwad ond Morgan atepws."
'Doedd swyddogion cynnar yr eglwys ddim yn glir pwy oedd i'w galw'n 'Parchedig' neu weithiau'n 'Reverend'. Mae'n ymddangos fod pregethwyr o bant yn cael eu hanrhydeddu felly ond nid y rhai lleol.
Yn ddiweddarach, mae'n rhaid fod gorchymyn wedi dod o ryw gyfeiriad mai dim ond pregethwyr ordeiniedig oedd yn hawlio'r 'Parchedig' a chafodd ambell bregethwr ffyddlon fel D.J. Williams, Glyn Nedd, oedd wedi'i alw'n 'Barchedig' yn y llyfr cownt ers blynyddoedd, fynd yn ôl i ddim ond `Mr'.
***
ERBYN 1878, y dyddiad cyntaf yn yr hen lyfr Taliadau, mae dau beth wedi digwydd i wella sefyllfa'r achos. Er mwyn cael arian ychwanegol derbyniwyd syniad y Parch. W.J. Williams, gweinidog Bethel, o gynnal Te Parti i'r cyhoedd yn chwarel y Foel. 0 fewn ychydig flynyddoedd 'roedd wedi'i symud i ochr arall Twyn y Foel ac o dan do ysgubor fferm Pantcynferth, cartref un o'r aelodau.
Yr ail gaffaeliad oedd dyfodiad Mathew Bell a'i deulu i fyw i fwthyn Troedrhiwrllan. Fe gymerodd y chwarelwr diwylliedig hwn y swydd o drysorydd ac mae ei lyfrau cownt yn werth eu gweld. Yn ei ysgrifen drwchus glir mae'n crynhoi holl fanylion y gost o gynnal y capel bach.
Mae'n rhaid cael glo am 8½ y cant, blacled am geiniog, oil a chanhwyllau 2/-, cwmrwd, bwtty, lliw a chanhwyllau 3/6½. 'Roedd yn dda i'r aelodau fod Te Parti'r Foel mor boblogaidd a'r elw'n cynyddu'n gyson.
Deuai llu o bobl yr ardal ac o Gwm Nedd a Chwm Cynon i fwynhau'r Parti arbennig hwn a gynhelid ar ddydd Iau ym mis Mehefin – pan fyddai'r ysgubor yn wag o wair a chyn y cneifio.
Yn 1884 'roedd digon o arian mewn llaw i fentro atgyweirio'r capel o ddifri' a gwneud llawer o welliannau. Dyma fel mae Mathew Bell yn ei gymysgedd o Gymraeg a Saesneg yn rhestru'r costau:
Atgyweirio bollt y drws 4c, cario calch 1/3, clo allwedd a hoelion 3/6½, brethyn ar y pwlpit 4/5, carped 6/10½, 2 gadair 7/-, cwshing ar y cadeiriau 1/8, cement 4/8, slates 7/9, red lead 1/3, Paint and painting £1-18-6, William Williams Mason 13-9.
Mae cost gyda'r tŷ capel hefyd – yr ardreth, a'r 'papyr wal', a thalu am 'bapyro' a 'repairings' ac mae'r manylion hyn yn gymysg ag enwau'r pregethwyr a llyfrau at yr Ysgol Sul a llyfr cownt i'r trysorydd 3c, a'r gwin at y Cymun (gwin meddwol hyd at gyfnod y Diwygiad 1904 - wedyn gwin anfeddwol).
MAE'N rhyfedd meddwl fod capel mor fach wedi gallu cynnal gweinidog o gwbl ond fe fu pedwar yn gwasanaethu Jerusalem a Pheniel Ystradfellte (capel oedd yn llai fyth!). 'Roedd y Cwrdd Dosbarth yn cyfrannu tuag at eu cyflog ond ychydig iawn a gaent a diau y buont yn ddiolchgar am y cig moch a'r wyau, yr ymenyn a chaws a thatws a gafwyd o dro i dro gan y ffermwyr.
'Doedd neb ohonyn nhw - Parch David Griffiths (1868), Parch Henry Jones (1877), Parch R.S. Thomas (1894), Parch Lewis Morgan (1899) - yn medru fforddio aros yn hir ac 'roedd adegau pan fyddai'r Adroddiad Blynyddol yn dweud `Dim Gweinidog'.
'Doedd dim tŷ iddo chwaith na festri i'r capel ac yn y sêt fawr y byddai Ysgol Sul y plant. Yn y capel ei hun y cynhaliwyd Te Parti'r Dosbarth a The Parti'r Nadolig, eisteddfod, cyngerdd a darlith.
***
ER I'R gweinidogion fynd a dod a nifer yr aelodau'n amrywio yn ôl llewyrch y chwareli – i lawr at 12 yn 1888 ac yn codi i 27 yn 1898, – 'roedd Jerusalem yn ffodus bod un teulu'n aros. Mae'n hawdd gweld gymaint o gefn oedd Mathew a Mary Bell, eu plant a'u hwyrion i'r capel bach.
Maent i gyd yn gyson yn yr Ysgol Sul – y penodau maent yn eu dysgu ar gof wedi'u cofrestru'n ofalus. Fe ddaeth eu mab, Richard Bell, yn weinidog, y Parch R.W. Bell, B.A., Abercynon, wedi iddo ymdrechu i ennill ei radd yn allanol.
Yn 1881 fe gafodd Mathew Bell gymorth gyda dyfodiad John ac Ann Jones i gymryd gwesty'r Lamb. 'Roedden nhw'n aelodau selog ac yn barod eu cymwynas.
'Roedden nhw'n gefnog ae fe fu arian parod John Jones yn fendithiol i'r trysorydd lawer gwaith. Un tro bu'n rhaid benthyca £14 oddi wrtho er mwyn paentio'r capel ar gyfer y Cwrdd Pregethu, a byddai gŵr y Lamb yn barod â'i drap a'i geffyl i nôl y pregethwyr o orsaf reilffordd Hirwaun.
Pan ddigwyddais ddod o hyd i'r hen lyfrau taliadau yng nghwpwrdd llyfrau'r capel yn 1978 sylweddolais nad oedd neb o'r aelodau bellach yn cofio'r hen gapel. Ysgrifennais at ddau o wyrion Mathew Bell yn gofyn am ddisgrifiad - David Mathew Jones a Mr Richard Bell Jones, M.A., cyn-brifathro Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerffili, ond nawr yn byw yn Awstralia.
'Roedd David Mathew wedi bod yn organydd yn y capel cyn iddo gael ei daro'n wael gan dwymyn y cryd-cymalau ar ôl bod yn gweithio dan ddaear mewn dŵr. Ef a dynnodd lun pensil o Jerusalem. Dyma'r llythyr a gefais oddi wrtho ychydig fisoedd cyn iddo farw:
"Roeddwn yn byw yn y tŷ capel amser yr adnewyddu (1909). Fy rhieni oedd yn gofalu am y golau, a'r tân. Lampau paraffin oedd yn goleuo. 'Roedd dwy lamp fawr a dwy fechan ar y pulpud. 'Roedd hwn rhwng y ddau ddrws wrth fynd i mewn: Yn y Sedd Fawr 'roedden ni blant yn yr Ysgol Sul. 'Roedd dwy sedd gydag ochrau yn arwain i'r rhai olaf oedd y tu cefn i'r grisiau."
"Roedd y lobby y pryd hynny yn stabl i geffyl y rhai a ddeuai o bell ac i'r pregethwr. Yma hefyd y cedwid y golosg i'r stof a gynhesai'r capel. Roedd y glwyd ymhellach mlaen yn y mur. Gwnaed archwaith yn y mur y tu ôl i'r pulpud er mwyn adlais. Mae hwn hefyd ynghyd â'r ystafell uwchben y lobby yn rhoi adlais i'r gwasanaeth yn rhyfedd o effeithiol. Cynhelid y gwasanaeth pan fyddid yn adnewyddu yn y Lamb Hall."
Cefais lythyr hir oddi wrth ei frawd yn Awstralia yn datgan ei bleser o gymryd rhan yn rhaglen radio Alun Williams, 'Alun yn Galw' a hefyd yn dweud hyn:
"Darfu i Mathew Bell ddysgu i mi ddarllen cyn i mi fynd i'r ysgol yn 4 oed. Rhoddais ei 'focs baco' pres i fab ein mab Mathew. Codwyd fi o dan do'r capel yn ystod yr adnewyddiad. Felly roeddwn bron a cholli dagrau wrth ddarllen amdano."
***
YR ADNEWYDDIAD y mae'r ddau frawd yn sôn amdano yw'r ail-godi ac ail-drefnu a wnaethpwyd yn 1909. Roedd y gynulleidfa wedi cynyddu ar ôl y Diwygiad. Roedd deg ar hugain o aelodau a 55 o wrandawyr. Roedd y capel newydd ag oriel ac yn dal 250. Roedd hefyd weinidog newydd, y Parch Edward Price, a thri blaenor.
Blynyddoedd o lwyddiant a welodd Mathew Bell ar ddiwedd ei oes. Pan fu farw yn 1912 roedd yr achos yn Jerusalem ar ei anterth. Yn ystod y blynyddoedd yn ei swydd roedd y trysorydd trylwyr wedi gweld dyddiau blin, digalon ond er mor galed oedd hi ar yr ychydig aelodau roedd ganddynt feddwl am rywrai oedd yn waeth eu cyflwr. Mae llawer i gasgliad at `weddwon a phlant y rhai a laddwyd' mewn trychineb yn y pyllau glo. Mae casgliadau at achosion eraill hefyd: 1910, At Goleg Aberystwyth, 5/-.
Ar ôl dyddiau Mathew Bell, teulu John Price a gymerodd yr awenau. Roeddynt yn byw yn yr un bwthyn ar lethr y Foel ag y cychwynnwyd yr achos ynddo. Roedd Rees Price yn godwr canu yn ogystal ag ysgrifennydd ac arolygwr yr Ysgol Sul.
Yn 1916 fe gymerodd gweinidog newydd y Fam-eglwys Bethel – y Parch David Teify Davies – ofal am Jerusalem hefyd ac ef fu'r bugail ffyddlon a'n cadwodd ni gyda'n gilydd hyd ei farw yn 1943. Ef a drefnodd cynnal y Gyngerdd Fawreddog ym Methel yn 1917 a'r elw i fynd at Jerusalem ac yn 1920 wedi cael casgliad arbennig 'roedd gan y capel bach ddigon o fodd i brynu offeryn cerdd am y tro cyntaf – harmoniwm bach. Ar ei flaen mae'r geiriau: Guelph Canada ac ar y pedalau, Patented Feb. 24th, 1887. Mouseproof Pedals.
***
FE DDAETH teuluoedd newydd i fyw ar ffermydd Cwm Cadlan tua 1930 – brawd a dwy chwaer a'u priod a'u plant a dyma ail-gynnau tân ar hen aelwyd Jerusalem. Yn 1897 'roedd enw Elizabeth Roderick wedi ymddangos yn y llyfr cownt. Dim ond hi oedd yn aelod ond ar dudalen Cyfrif yr Eisteddleoedd mae enw ei gŵr – 'Gwrthefir Roderick 2/-'
'Rwy'n sylwi mai'r gwŷr oedd yn cael yr anrhydedd o dalu am sedd yn y capel hyd yn oed os nad oedden nhw'n aelodau. Nid oedd fy nhad-cu, Gwrthefir Roderick, yn gapelwr yn 1897. Yn ystod y Diwygiad y daeth ef yn aelod wedi iddo ef a'i deulu symud i Lwydcoed.
Cafodd ei dderbyn mewn gwasanaeth arbennig yn fferm Bryncarnau fel y disgrifiodd ei wraig mewn llythyr at ysgrifennydd Moriah, Llwydcoed yn 1933:
".. . Ac ar brynhawn Sul y cafodd Roderick ei fedyddio yn Bryncarna pryd y daeth y gweinidog y Parch Morgan Jones, Mr Rogers, John Williams a Daniel Davies i'r lan, gwasanaeth byr dwys, ac i bwrpas. Yna disglaid o de cyn cychwyn nôl i Lwydcoed ..." Fe gadwodd Jerusalem i fynd yn hynod o lwyddiannus tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Daeth gweinidogion newydd – y Parch Glyn Jones, y Parch Eirian Davies a'i briodferch Jennie i gymryd eu gofalaeth gyntaf, yna'r Parch H.H. Williams a'r Parch D.O. Jones. Ond er eu hymdrechion dyfal, 'roedd Jerusalem bellach yn dioddef o'r newid a ddaeth ar fyd. 'Roedd yr hen aelodau'n marw a'r to ifanc yn gwasgaru. Er bod poblogaeth y pentref yn dal i gynyddu, eithriad oedd y trigolion newydd a ymaelodai mewn capel. 'Roedd y mwyafrif yn ddi Gymraeg ac yn ddi-grefydd.
Erbyn 1984 llond dwrn o ffyddloniaid oedd ar ôl. Serch hynny, yr adeilad ei hun a ddaeth â phethau i ben. 'Roedd y capel plaen – hardd yn ei symlrwydd gyda'i waith coed pîn golau, di-addurn – yn dal yn dda. Ond codwyd ef yn un â'r tŷ a hwnnw oedd yn dirywio. Byddai'r gost o'i atgyweirio yn fwy nag oedd yr Henaduriaeth yn gallu ei wynebu.
Daeth gyrfa Jerusalem, capel y Trefnyddion Calfinaidd, i ben wedi 138 o flynyddoedd. Cyn bo hir fe fydd wedi'i drawsnewid yn dŷ annedd.