YR HEN BORTREADAU O DWM O'R NANT
gan Bedwyr Lewis Jones
MAE'R LLUN o Dwm o'r Nant a atgynhyrchwyd ar ddalen flaen rhifyn mis Awst o'r Casglwr wedi ennyn cryn ddiddordeb, mae'n amlwg, ond mae mwy o dipyn i'w ddweud am yr anterliwtiwr a'i luniau.
Twm o'r Nant yw'r lleygwr o lenor Cymraeg cyntaf, hyd y gwn i, y gwnaed nifer o ddarluniau ohono. Y gorau ohonynt – y gorau sydd ar gael, beth bynnag – yw'r portread olew ar ganfas, tua 28 x 24 modfedd, y ceir fersiynau ohono yn yr Amgueddfa Genedlaethol ac yn y Llyfrgell yn Aberystwyth, – hwnnw a atgynhyrchwyd yn llyfryn dwyieithog Gwasg y Brifysgol Gŵyl Ddewi 1953.
Darlun o'r canol i fyny ydyw yn dangos wyneb llawn a'i osgo fymryn i'r dde (o safbwynt yr edrychwr). Golwg sur sydd ar Twm ynddo gyda chonglau'i geg yn troi ar i lawr yn ddigon pwdlyd. Am ei ben mae cap tolciog a chôt fotymog amdano. Mae ei law dde wedi ei phlygu o'i flaen a chwilsyn hir ynddi.
Ar y gongl dop ar y dde ar y canfas sy'n y Llyfrgell Genedlaethol fe sgrifennwyd mewn llythrennau gwynion, ,TWM o'r NANT, the Cambrian Shakespeare, Aetat 71'
Y portread hwn yw'r darlun y trefnodd W.A. Maddocks, Tremadog iddo gael ei beintio. Yn 1810 yr oedd hynny, adeg agor capel newydd y Methodistiaid yn Nhremadog yn ôl tystiolaeth Ellis Owen, Cefnymeysydd mewn llythyr a sgrifennodd yn 1855 at unig ferch Maddocks (gw. Wales O.M. Edwards, cyfrol 111, t.512).
Hwn oedd y llun a hongiai ar un adeg yn nhŷ Maddocks yn Nhan-rallt, ac mewn cyfnod diweddarach yn Nhuhwnt-i'r-bwlch yng nghartref asiant Maddocks, sef John Williams.
***
GWELAIS SÔN yn rhywle fod Maddocks, pan gomisiynodd y portread, wedi peri i'r artist wneud pedwar copi. Mae dau ar gael heddiw fel y nodwyd, un yn yr Amgueddfa a'r llall yn Aberystwyth. Rwyf finnau'n cofio'n dda weld trydydd copi – olew ar ganfas – wedi ei stwffio dan wely mewn bwthyn yng nghanol Sir Fôn gryn ugain mlynedd yn ôl bellach. Ys gwn i beth ddaeth o hwnnw?
A phwy oedd yr arlunydd a'i peintiodd? Ar gefn y canfas sy'n yr Amgueddfa Genedlaethol fe sgrifennodd rhywun 'Lewis Hughes? Painter'. Pwy oedd Lewis Hughes? Ni wn i ddim amdano. P'un bynnag, a allwn ni goelio'r arysgrif?
Yr hyn sy'n peri peth amheuaeth yw bod yng Nghaerdydd yn yr Amgueddfa ddarlun arall, dyfrliw, un bychan 5¾ x 4 hyfryd, copi o'r portread mawr olew. Fe'i gwnaed, meddir, 'from a painting by Newbery'. Ai Newbery – pwy bynnag ydoedd – a wnaeth y copi dyfrliw neu ynteu ai ef oedd artist y gwreiddiol olew? Mae'n hanwybodaeth am bortreadau Cymreig yn affwysol.
Yn ei argraffiad o weithiau Twm yng Nghyfres Ab Owen fe gynhwysodd O.M. Edwards atgynyrchiadau o ddau lun o Twm. Mae'r un yng nghyfrol I gan William Roose, Amlwch (1808-1878). – 'Drawn from memory by Wm Roose for Mr H. Morris at Corwen in 1871'. Cof Roose am y portread olew ydyw, a chof go wantan, rwy'n ofni.
Mae'r llall, hwnnw yng nghyfrol 2, yn gopi o ysgythriad dotiau (stipple engraving). Mae Twm yn edrych i'r chwith yn hwn, mae ei fraich chwith yn pwyso ar lyfr ar fwrdd o'i flaen, ac mae ei law dde wrthi'n sgrifennu. Ond er gwaethaf y mân amrywiadau hyn, mi dyngwn i mai ysgythriad ar sail portread olew Lewis Hughes neu Newbery ydyw.
***
ROEDD AIL bortread, gwaith Edward Pugh, Rhuthun (bu farw 1813), awdur Cambria Depicta. Yn ôl Y Bywgraffladur, t.763 fe arddangoswyd hwn yn yr Academi Frenhinol rywdro rhwng 1793 a 1808. Mân-ddarlun (miniature) ydoedd. Hyd y gwn i, nid yw ar gael heddiw. Ond gwnaed ysgythriad ohono gan J Chapman yn 1800; mae copi yn yr Amgueddfa.
Twm yn iau o dipyn sy'n hwn, ac yn bennoeth hefyd. Mae'n eistedd wrth fwrdd, cwilsyn yn ei law dde wrthi'n sgrifennu, a chadwyn am ei wddf a thelmyn i ddal cwilsyn yn crogi wrth honno. Tu ôl iddo mae dresel ar un ochr, a ffenest a silffiad i lyfrau'r ochr arall.
Cynhwyswyd atgynhyrchiad gwael o ysgythriad Chapman yn Eminent Welshmen Asaph, t.80. Atgynhyrchwyd copi o ysgythriad arall, un dotiau gan G.J. Stoddart, yn Ceinion Llenyddiaeth Gymraeg, cyfrol 1, t.304. Rwy'n amau mai cynnig ar sail portread Edward Pugh ydyw.
Ac yna mae'r trydydd portread, hwnnw sy'n awr yn Archifdy Gwynedd ac a atgynhyrchwyd ar glawr Y Casglwr. Mae'n wahanol i'r portreadau a'r ysgythriadau eraill. Ac mae ei hanes yn dal yn ddirgelwch.