WELSOCH CHI HON? GO BRIN
WELSOCH chi gopi o'r gyfrol hon, — portread yn Saesneg o Gwilym Hiraethog? Mae'n llyfr prin — yn un o gant, a gyda lwc yn un o ddeg.
Fe'i sgrifennwyd gan Ebenezer Rees, mab hynaf Gwilym Hiraethog, yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, - yn bennaf ar gyfer aelodau iau y teulu yr oedd hanes a gweithiau Hiraethog allan o'u cyrraedd am nad oeddent yn medru Cymraeg. Bu Ebenezer Rees farw yn 1913 yn 82 oed cyn llawn orffen y llyfr. Cafodd ei fab yntau, William Rees, Hoylake, gan Elfed olygu'r defnyddiau, a threfnodd i gyhoeddi'r gwaith yn breifat, - yn bennaf ar gyfer aelodau'r teulu. Ymddangosodd yn 1915.
Henry Young a'i Feibion, Lerpwl oedd y cyhoeddwr, ond Cwmni Ballantyne a Hanson yng Nghaeredin a argraffodd y gwaith. Rhwymwyd nifer fach, fach o gopďau - 10 efallai - mewn rhwymiad lledr arbennig. Roedd cant o gopďau eraill mewn rhwymiad llai drudfawr.
Mae copi yn Ystafell Llyfrau Prin Coleg y Brifysgol, Bangor, - copi a gafodd y Coleg o lyfrgell Henry Rees Davies, hanesydd Afon Menai, ac ŵyr i Henry Rees, brawd Gwilym Hiraethog: roedd ef yn un o'r teulu.
Tybed beth yw gwerth y gyfrol ar y farchnad heddiw?