WEIARLES A GRAMAFFON A HEN BRYDDEST TOMOS ~
Gruffudd Parry yng nghwpwrdd y cof

DYMA ddyfyniad allan o'r gyfrol Atgofion Dyn Papur Newydd gan Picton Davies. Sôn y mae am ewythr iddo yn cylchu casgen.

Cof plentyn a gallu newyddiadurwr profiadol i ddisgrifio yn fanwl gywir. Ychydig iawn o gyfeiriadau at waith llaw a chrefft sydd yn yr 'Atgofion'. Cyfeiriad at yr ardd ym Mhen-y-lan wrth sôn am Bodfan Anwyl, a chyfeiriad tua'r diwedd at wneud setiau radio.

Ond mae'n rhaid bod y gŵr amryddawn, bonheddig hwnnw, a'i ddiddordebau eang, yn grefftwr medrus. Y fo wnaeth y weiarles honno ddaeth i Garmel dros hanner canrif yn ôl.

Fe ddaeth sôn rywdro tua'r Pasg ein bod ninnau ym Mryn Awel yn mynd i gael 'weiarles'. Tad Enid, yr hogan o Gaerdydd oedd wedi bod acw rai gweithiau efo Tomos, fy mrawd, oedd am ei gneud hi. Yn ôl Tomos yr oedd o yn dipyn o giamblar ar y gwaith. Er, fe ellid coleddu peth amheuaeth o osodiad felly o gofio'r berthynas oedd yn datblygu rhwng fy mrawd i ac Enid Picton Davies.

Crwydro i ddau neu dri o dai breintiedig oedd hi wedi bod i glustfeinio ar y synau amhersain yn dod allan o'r cyrn cyntefig. Ond yr oedd y rhyfeddod yn 'siarad' hefyd erbyn hynny a gradd o werthfawrogiad amgenach yn tyfu.

Yn y dyddiau cynharaf yr oedd un cymeriad wedi dweud mai'r peth gora ganddo fo glywed arni hi oedd, "Big Ben yn taro - duw mae o'n taro'n glws."

***

OND Y flwyddyn y daeth yr un acw yr oedd mwy o waith paratoi ar ei chyfer hi nag oedd neb wedi'i feddwl. 'Doedd Cyfarfod Misol yn dod i'r capel ddim ynddi hi. Mi fu'n rhaid torri twll tua llathen o hyd a llathen o ddyfn a dwy droedfedd o led o dan ffenest y gegin ffrynt yn fedd i sît sinc a modfedd o'i hochor wedi ei dorri a'i blygu nes bod rhyw droedfedd o'i flaen o yn sefyll i fyny o'r ddaear ar ôl ei chladdu hi. Ŷrth.

A dwy beipen ddŵr, tua deuddeg troedfedd o hyd o Dorothea, wedi eu gosod i sefyll ar eu pennau, wedi'u powltio mewn dau glamp mewn hanner slipan lein mewn dwy droedfedd o goncrid i ddal y weiren insiwledig oedd yn mynd i mewn drwy ffenest y gegin ffrynt. Erial.

Mi weithiodd y munud y cafodd hi ei bachu a'i rhoi yn yr afael ar ôl i'r tri batri fynd i'w lle, a feddyliodd neb y pnawn gwyn hwnnw y gwelem ni ddiwrnod ymhen blynyddoedd pan fyddai'n rhaid rhoi peltan sydyn iddi - i'w deffro o'i mudandod mympwyol.

Safai yn ei chabinet derw Siapaneaidd, rhyw lathen o uchder o'r llawr, ac yr oedd fy Nhad yn ganmoliaethus iawn o'i golwg. 'Roedd o'n ei gweld hi'n 'ddodrefnyn mewn rŵm.'

Gwahanol iawn oedd ei adwaith wedi bod at y gramaffon oedd wedi dod acw rai blynyddoedd ynghynt ac wedi cael ei rhoi ar y seidbord. 'Roedd y gramaffon - mahogani coch - wedi costio wyth bunt, ond rhyfeddu oedd fy Nhad wedi'i wneud yr adeg honno ein bod ni 'wedi gosod hen beth fel'na ar y dodrefnyn gora yn y tŷ.'

***

NID SON am y weiarles na'r gramaffon oedd diben hyn o lith p'run bynnag. Rhedeg yn weili wnaed wrth gofio am Picton Davies. A bod wedi cael achos arall i gofio amdano yn ddiweddar.

Yr oedd o wedi dod yn dad-yng-nghyfraith i Tomos pan roddodd o'r cabinet ffeilio bach yn anrheg iddo. Chwe drôr ddeuddeng modfedd o led a phedair ar ddeg o hyd a rhyw ddwy a hanner o ddyfn sydd ynddo, a'r cyfan yn rhedeg ar reiliau esmwyth a chau i wneud wyneb taclus i'r cabinet.

Coed chwarter modfedd o drwch yw'r corff, ac y mae corff pob drôr wedi ei wneud allan o goed hen fleinds ffenest - y `fenisian' bondigrybwyll fyddai morynion nad oeddent yn aelodau eglwysig yn ddamio dan eu llais amser glanhau a sgleinio slat wrth slat yn y Gwanwyn.

Wrth fynd drwy'r dorau yn ddiweddar, a sylweddoli nad oeddynt wedi eu hagor fawr ers dros ddeugain mlynedd, rhyfedd iawn oedd eu cynnwys. Hen luniau, pamffledi, taflenni, comic songs fel 'Mookey Mookey Oh' a 'Oh I Want To Be Alone With Mary Brown', o'r cyfnod cyn i'r cantorion pop ddechrau gweiddi a griddfan a magu hysg ar eu laryngs.

Ac ymysg y papurach yng ngwaelod y drôr isaf, dod o hyd i wyth dalen ffwlsgap wedi eu plygu yn daclus a chlip drwy'r conglau, ac ar ddechrau y dudalen gyntaf,

Eisteddfod y Brifysgol
Bangor

Pryddest
Llyn y Morynion

ac ar ddiwedd y dudalen olaf,

1922 oedd y flwyddyn, ac yr oedd y goron, yr isaf o'r ddwy mewn shed wydr, ar y seidbord yn y gegin ffrynt y noson yr oedd y weiarles yn canu am y tro cyntaf. A'r gramaffon wedi mynd i'r llofft gefn.